Da ni lawr ...
23.4.08
... doedd hi'm yn annisgwyl yn y diwedd. Yn wir, doedd neb yn crio nac yn rhuthro i'r maes er mwyn cofleidio eu gilydd a chydymdeimlo.Wedi 87 mlynedd o fod yn glwb cynghrair, bydd Wrecsam yn chwarae yn glwb 'non-league' y tymor nesaf.
Mae 'na ddigon o bobl efo barn - neb llai nag Ian Gwyn Hughes, ond 'di Ian ddim mam weld bai, dim ond canolbwyntio ar y tymor nesaf a'r hyn sydd angen ei wneud.
Mae un o flogwyr mwyaf toreithiog Cymru, Eric the Red, yn poeni am Wrecsam ac yn gweld bai ar gefnogwyr pêl-droed gogledd Cymru am eu diffyg cefnogaeth.
A draw ar red-passion, negesfwrdd cefnogwyr Wrecsam, mae pawb yn cael y bai - Brian Little, Brian Carey, y perchnogion, y cefnogwyr ... mae'r rhestr yn faith.
Yn bersonol, does gen i ddim llawer o ffydd yn Brian Little. Fe gafodd o ddigon o amser i sicrhau bod y clwb yn gallu troi'r gornel. Daeth a 12 chwaraewr newydd i'r clwb yn ystod mis Ionawr - ond doedd yr un ohonnyn nhw'n ddigon da.
Ac mae ei dactegau a'i ddewisiadau wedi fy nrysu yn llwyr. Nos Fawrth roedd RHAID i ni ennill os am unrhyw obaith o aros i fyny, ond mi barhaodd Little i chwarae Levi Mackin, chwaraewr mae holl gefnogwyr Wrecsam yn gwybod sydd ddim digon da - ac mi brofwyd hynny eto neithiwr.
Roedd ein prif sgoriwr, Michael Proctor, ar y fainc a phan sgoriodd Henffordd cyn yr egwyl roedd pawb yn meddwl y buasai'n dod â Proctor ymlaen ar gyfer yr ail hanner ... ond na.
Wedi i Henffordd rwydo eu hail gôl fe benderfynodd ddod â Danny Williams i'r maes ... chwaraewr canol cae ... yn lle Mackin? Naci, yn lle Connall Murtagh - y chwaraewyr gorau oedd gennym ni yng nghanol cae. Pryd ddaeth Proctor ymlaen? Efo deg munud i fynd!
Dim ond un o chwaraewyr Little oedd yn chwarae yn ystod y gemau olaf 'ma - Gavin Ward. Cafodd Phil Bolland a Simon Spender - yr unig ddau chwaraewr sydd efo gobaith o gael ei hethol yn chwaraewr y flwyddyn gan y cefnogwyr - eu gadael allan o'r garfan ar gyfer y ddwy gêm ola ... pam?
Mae hi'n mynd i fod yn hâf hir iawn ...
Labels: brian little, cynghrair, wrecsam
Dwi'n gallu ymdopi efo'r siom ... fel cefnogwr pêl-droed Cymreig mae dyn yn dod i arfer efo siom ... ond mae'r gobaith yn siwr o'n lladd i!
Ia, dim ots be ddudes i yr wythnos diwetha' am Wrecsam yn llwyddo i aros i fyny ... 'da ni i lawr - heb os!
Llongyfarchiadau mawr i Gaerdydd a'u cefnogwyr ar gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.
Dwi ddim yn cael achos i dathlu'n amal iawn y dyddiau yma, ond mae hi bob amser yn hyfryd curo Caer ac yn enwedig ar eu tomen eu hunain!
Fues i ar Y Cae Ras y Sadwrn diwethaf ar gyfer gêm gyntaf y tymor y Dreigiau ar eu tomen eu hunain.
Dyna oedd fy ymateb i pan glywais i enw
Cyn i mi gychwyn ar y rant yma, ga'i ofyn i chi os yda chi'n adnabod y chwaraewr yma ar y chwith?
Mae'r cyfraniadau i'r blog wedi bod yn brin iawn yn ddiweddar, a hynny gan mod i'n chwysu pys ac yn cachu brics dros ddyfodol Wrecsam y y gynghrair bêl-droed ... wel, does dim angen poeni ddim mwy - da ni'n saff!!
Tydw i ddim yn siwr iawn be 'dwi am sgwennu heddiw. Mae wedi cymryd bron i 48 awr cyn fy mod i'n gallu wynebu darllen negesfwrdd 





