Cwpan y BYD?
28.8.07
Tra bo'r timau rygbi'n paratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc ymhen ychydig ddyddiau, mae'r gemau rhagbrofol wedi cychwyn ar gyfer y Cwpan y Byd go iawn ... Cwpan y Byd pêl-droed 2010 yn Ne Affrica.
Yn Apia, Samoa llwyddodd Fiji i drechu Tuvalu 16-0 gydag Ynysoedd y Solomon yn chwalu American Samoa 12-1 ddydd Sadwrn. Roedd Vanuatu yn fuddugol 4-0 yn erbyn Samoa a llwyddodd New Caledonia i ennill 1-0 yn erbyn Tahiti.
Bydd 'na 204 o wledydd yn cystadlu yng Ngwpan y Byd 2010 - mwy o wledydd nag erioed o'r blaen - a bydd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol Ewrop, Asia, Affrica, Gogledd a Chanol America a De America yn Durban ar 25 Tachwedd.

Labels: cwpan y byd, fiji, football, new caledonia, pêl-droed, samoa, tahiti, vanuatu, ynysoedd y solomon