Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Pytiau Ewro 2008

6.3.08
Dyma stamp swyddogol Y Swistir i ddathlu'r ffaith bod Ewro 2008 yn y wlad yn ystod yr haf.

Dwn i ddim amdana chi ond dwi'n credu fod y ffaith i'r dylunio fod mor syml yn ei wneud yn reit cŵl!

Mae nhw wedi cyhoeddi'r wefan wythnos yma hefyd, ond yn amlwg 'does na'm llawer arni ar hyn o bryd!

Labels: , , , , , ,

Idiot!

4.10.07
... 'does na'm gair arall i ddisgrifio'r pen bach yma aeth ar y cae yn Celtic Park nos Fercher.

Labels: , , , , , ,

Blymin' awê gôls ...

3.8.07
Roedd na siom aruthrol i'r Rhyl yn Valkeakoski neithiwr wrth i FC Haka rwydo dwy gôl mewn dau funud yn Valkeakoski er mwyn sicrhau bod y gêm yn gyfartal 3-3 dros y ddau gymal.

Ac am y trydydd tro'r tymor yma mae tîm o Gymru'n colli ar y rheol goliau oddi cartref. Cafoddd Llanelli gêm gyfartal 6-6 efo Vetra Vilnius o Lithiwania cyn i'r Seintiau sicrhau gêm gyfartal 4-4 efo Ventspilso Latfia ond mae'r tri chlwb allan o Ewrop oherwydd y rheol gfoliau oddi cartref bondigrybwyll 'ma.

Dwi ddim yn siwr beth ydi manteision y rheol yma bellach. Fe gafodd ei gyflwyno pan fod teithio dramor yn rhywbeth digon anghyffredin, yn enwedig i lefydd tu ôl i'r llen haearn. Ond yn nyddiau Ryan Air ac EasyJet mae'n ddigon cyfleus i ymweld a bron i unrhyw ran o Ewrop.

Ac mae hynny'n dod a fi'n ddigon taclus at fy ail rant ... mae Uefa yn trefnu gemau rhagbrofol Cwpan Uefa y rhanbarthol, ond dwi wir ddim yn deall y rhesymeg.

Dim pêl-droed yn ystod yr haf ydi'r ateb i dimau Cymru ond draw agored lle mae modd i'r clybiau Cymreig wynebu timau o pob rhan o Ewrop. Wrth osod timau Cymru yn y rhanbarth ogleddol efo timau Scandinafia a gwledydd y Baltic mae nhw'n siwr o orfod herio timau sydd hanner ffordd trwy eu tymor, ond pam na chaiff y Cymry herio timau o Montenegro, Croatia, Cyprus, Melita, Macedonia ayyb sydd hefyd yn chwarae pêl-droed yn ystod y gaeaf?

Y rheswm mae Uefa wedi ei roi am osod y clybiau'n rhanbarthol ydi ceisio atal costau teithio anferthol, ond y gwir amdani ydi bod teithio i unrhyw ran o Ewrop yn gymharol rhad y dyddiau hyn.

Yn amlwg mae dod allan o'r het i wynebu tîm o Georgia, Azerbaijan neu Kazahkstan yn golygu taith gostus, ond dyna ni, dyna ydi'r luck of the draw, fel dywed y Sais.

Hefyd, dwi'n rhagweld sefyllfa ymhen ychydig o flynyddoedd lle mae chwarae yn Ewrop yn mynd i fod yn ddiflas tu hwnt i dimau Cymru gyda taith arall i Latfia, Ffindir neu Norwy.

Mae angen agor y draw allan er mwyn sicrhau bod diddordeb y cefnogwyr yn parhau - roedd yn arfer bod yn hwyl gwylio'r enwau'n dod allan o'r het a cheisio canfod gwybodaeth am Valleta, HIT Gorica neu Shamkir ond erbyn hyn, 'da ni'n gweld yr un hen enwau o'r un hen wledydd.

Bois bach, di petha' ddim fel buo nhw!

Labels: , , ,

Caerfyrddin ... nil points

21.7.07
Roedd yn wythnos dda iawn yn Ewrop i glybiau Cymru - mi fyddwn i wedi dweud gwych oni bai am i Gaerfyrddin ddioddef crasfa go iawn ar Barc Waun Dew.

Llwyddodd Y Seintiau i drechu FK Ventspils o Latfia nos Fawrth ac er iddyn nhw ildio dwy gôl oddi cartref, roedd yr adroddiadau'n ffafriol iawn o berfformiad gwyr Ken McKenna.

O gofio bod Y Rhyl wedi colli 5-0 yn ebryn Skonto Riga yn yr un gystadleuaeth ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'n profi bod pêl-droed Cymru wedi gwella'n aruthrol. Y gobaith mawr yw bod Y Seintiau'n gallu adeiladu ar y fuddugoliaeth yn yr ail gymal yn Latfia brynhawn Mercher.

Cafwyd perfformiad penigamp gan Y Rhyl yng Nghwpan Uefa nos Iau wrth iddyn nhw drechu FC Haka o'r Ffindir.

Pan fues i yn Y Ffindir llynedd yn gwylio Caerfyrddin yn erbyn Tampere yn Nhlws yr Intertoto cefais i noson ar y pop efo newyddiadurwr pêl-droed o'r Ffindir sy'n dod yn wreiddiol o Sheffield.

Nes i holi Egan am obeithion Y Rhyl ac, fel y gwelwch chi ar ei flog, 'doedd Haka ddim y meddwl rhyw lawer o'r Rhyl ... gobeithio bod eu rheolwr wedi newid ei feddwl erbyn hyn!

Roedd trydedd gôl y Lillywhites yn arbennig - symudiad ddechreuodd yn eu cwrt cosbi eu hunain ac orffennodd efo Craig Garside yn troi croesiad i'r rhwyd.

Labels: , , , ,

Norwy, Y Ffindir a Latfia ... eto!

1.7.07

Unwaith eto mae'n debyg y bydd pob un o dimau Cymru allan o gwpanau Ewrop cyn i'r tymor hyd yn oedd ddechrau.

Mae'r Seintiau wedi dod allan o'r het i wynebu Ventspils yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ac er mai nid pencampwyr Latfia oedd y prif ddetholion, mi fydd yn goblyn o her i'r Seintiau gan fod y tîm o'r Baltics eisoes wedi chwarae 15 o gemau yn eu cynghrair.

Byddai'r tîm o Lansantffraid wedi gallu wynebu clybiau oedd heb ddechrau eu tymor pêl-droed - clybiau fel Pobeda o Macedonia neu FK Sarajevo o Bosnia Herzegovina, ond dydy'r un peth ddim yn wir i'n clybiau ni yng Nghwpan Uefa.

Ers i Uefa benderfynnu rhannu'r rown rhagbrofol gyntaf o Gwpan Uefa i ranbarthau gogleddol, canol/dwyrain a deheuol mae'n anorfod bod clybiau Cymru, sydd yn rhanbarth y gogledd, yn gorfod herio timau o Sgandinafia a gwledydd y Baltic sydd hanner ffordd trwy eu tymor.

Ymysg y detholion yn y rhanbarthau eraill oedd FK Vojvodina a FK Bežanija o Serbia, Maccabi Tel Aviv o Israel ac Anorthosis Famagusta ac Omonia o Gyprus - clybiau sydd, fel Y Rhyl a Chaerfyrddin, heb ddechrau eu tymhorau pêl-droed.

Dw i ddim y dweud bod herio timau o Wlad Pwyl, Serbia neu Romania yn mynd i fod yn haws na herio timau o Sweden, Y Ffindir neu Latfia, ond o leiaf byddai'r clybiau yn yr un sefyllfa o fod â diffyg ffitrwydd gemau.

Tra bod Uefa'n gwneud eu gorau glas i geisio osgoi costau teithio anferth i dimau yn y rownd gyntaf, mae clybiau Cymru'n mynd i fod o dan anfantais anferth yng nghwpanau Ewrop ... oni bai eu bod nhw'n dilyn esiampl Iwerddon a symud y tymor i'r haf ... ond cwestiw arall ydy hynny!

Labels: , , , , , , , , , , ,

Caerdydd yn Ewrop

20.6.07
Mae 'na erthygl ddifyr yn y Western Mail heddiw sydd yn gofyn y cwestiwn pam bod Clwb Merched Caerdydd yn cael chwarae yn Ewrop pan nad ydy'r clwb dynion yn cael yr hawl.

Mae'r merched yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr ac yn y Cwpan FA ond maen nhw wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Uefa y tymor nesaf wedi iddyn nhw drechu Caernarfon yn rownd derfynol Cwpan FA Cymru.

Wrth gwrs, nid yw Caerdydd, Wrecsam, Abertawe, Merthyr, Casnewydd a Bae Colwyn yn cael chwarae yng Nghwpan FA Cymru gan eu bod nhw'n chwarae dros y ffin yn system bêl-droed Lloegr ... ond mae Merched Caerdydd yn chwarae dros y ffin hefyd.

Efallai mai'r ateb yw bod Merched Caerdydd yn chwarae dros y ffin gan nad oes 'na gynghrair genedlaethol Gymreig, yn yr un modd bo Caerdydd, Wrecsam, Abertawe et al wedi cael chwarae yng Nghwpan FA Cymru tan fod Uwchgynghrair Cymru wedi ei greu ym 1992.

Ond wedi dweud hynny, mae FC Vaduz, tîm o brifddinas Liechtenstein, yn chwarae yn Ail Adran Y Swistir ond hefyd wedi chwarae yng Nghwpan Uefa ar ôl cipio Cwpan FA Liechtenstein.

Felly pwy sydd yn iawn?

Labels: , , , , ,

Polska - Ukraina

19.4.07
Benidgedig! Daeth y newyddion o bwyllgor gweithredol Uefa mai Gwlad Pwyl a'r Wcràin fydd yn cael y fraint o gynnal Ewro 2012.

Yr Eidal oedd y ffefrynnau clir, ond efallai nad yw'r calyniad yn gymaint o syndod pan mae dyn yn cofio mai pleidleisau gwledydd y dwyrain oedd yn bennaf gyfrifol am i Michel Platini gael ei ethol yn lywydd Uefa yn gynharach eleni.

Mae'n hen bryd bod un o prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed yn ymweld â chyn wledydd y Warsaw Pact - mae'n 31 o flynyddoedd ers i Yugoslafia gynnal Pencampwriaeth Ewrop - ond y peth gorau am y penderfyniad oedd y ffaith iddo fod yn gythral o slap yng ngwyneb Yr Eidlawyr hefyd!

'Dwi wedi ymweld â'r ddwy wlad yn y blynyddoedd diweddar er mwyn gwylio Cymru a thra bo'r gwledydd yma'n hynod ddifyr - yn enwedig dinas Kiev - mae 'na broblrmau fydd yn wynebu'r pencampwriaeth.

Yn un peth, mae'r gwledydd y croesi dwy ardal amser gwahanol ac mae taith ar dren o Wroclaw, yng ngorllewin Gwlad Pwyl, i Donetsk, yn nwyrain Wcràin, yn cymryd bron i 34 awr.

Hefyd, bydd angen gwella lot fawr ar nifer o'r stadiymau. Tra bo'r Olimpiyski yn Kiev, fydd yn cynnal y rownd derfynol, bron â chyrraedd y safon, mae stadiwm 50,000 sedd newydd wrthi'n cael ei hadeiladu yn Donetsk. Mae gwaith wedi dechrau ar godi dwy stadiwm newydd yn Chorzow and Dnipropetrovsk, ond mae angen stadiwm newydd yn ninas Gdansk.

A thra bo Warsaw yn cyrraedd safon Uefa am y nifer o westai sydd ar gael yn y ddinas, mae angen lot fawr o waith i ddod â'r stadiwm cenedlaethol yno i'r safon sydd ei angen cyn iddynt allu cynnal y seremoni agoriadol yno.

Ond tra bo angen lot o waith, mae digon o amser gan y gwledydd i'w gwblhau ac o leiaf mae un o addewidion Michel Platini pan gafodd ei ethol eisoes wedi dod yn wir - yr addewid i feddwl am deulu cyfan Uefa ac nid y 'gwledydd mawr' yn unig.

Labels: , , , , ,

Aelodau'r Cynulliad yn bygwth yr FAW

27.1.07
Mae hi wedi bod yn wythnos prysur a chythryblus i'r Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru wedi i bwyllgor y Cynulliad sydd yn gwneud arolwg o'r gamp yng Nghymru feirniadu'r FAW am beidio fynd ger eu bron.

Yn bersonol, dwi'n tueddu i gytuno efo ysgrifennydd y gymdeithas, David Collins ... rhywbeth nad ydw wi'n ei wneud yn aml iawn - yr unig dro arall i mi gofio cytuno efo Mr Collins oedd pan y gwrthododd ymuno â Lloegr a Gogledd Iwerddon a cheisio creu tîm Prydeinig ar gyfer Gemau Olympaidd 2012.

Mae cymdeithasau llawer mwy na Chymru, fel Gwlad Pwyl a Gwlad Groeg wedi eu gwahardd gan Fifa oherwydd ymyraeth gan eu llywodraethau.
Y rheswm i Wlad Groeg, sydd yn bencampwyr Ewrop, gael eu gwahardd oedd ymyraeth y Gweinidog Chwaraeon, George Orfanos. Dywedodd Orfanos fod yr HFF (Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Groeg), sy'n derbyn arian gan y llywodraeth, â system bleidleisio gwrth-ddemocrataidd.
"We want more democratic voting rules - rules that apply to all other sporting federations in Greece. If they insist, state protection will be withdrawn."

Sydd ddim mor annhebyg i'r hyn mae pwyllgor y Cynulliad yn fygwth:
"without necessary change, governing body status could be removed from the FAW".

Yn amlwg, nid penderfyniad gwleidyddion ddylai hyn fod, ond penderfyniad Fifa ac Uefa - ys gwn i os yw'r aelodau cynulliad yma'n credu eu bod yn gwneud peth da trwy fygwth bodolaeth y tîm cenedlaethol?

ON
Dyma'r tystiolaeth gafodd ei gyflwyno i'r pwyllgor

Labels: , , , , ,