Franchise FC ... a pham na ddylid eu cefnogi
30.1.08
'Dwi wedi sylwi'n ddiweddar fod 'na nifer o straeon wedi ymddangos yn y wasg yn canu clodydd Milton Keynes Dons, neu Franchise FC.
Wrth gwrs, mae'r ffaith eu bod nhw ar frig Adran Dau, wedi symud i stadiwm newydd ac efo rheolwr go enwog yn Paul Ince yn helpu, ond mae 'na dinc eithaf afiach yn yr erthyglau 'ma sydd yn rhoi rhyw fath o hygrededd i'r clwb.
Os nad ych chi'n ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd, mae 'na erthygl ddifyr tu hwnt ar safle Pitch Invasion.
Digon yw dweud fod gŵr busnes o'r enw Peter Winkelman wedi llwyddo i ddwyn perswâd ar Gymdeithas Bêl-droed Lloegr i ail leoli Clwb Pêl-droed Wimbledon o Lundain i Milton Keynes.
Roedd caniatáu’r fath beth yn wrthyn i gefnogwyr pêl-droed, roedd yn ddigon drwg fod y Dons wedi gweld eu cartref ym mwrdeistref Merton, Plough Lane, yn cael ei werthu i gwmni archfarchnad gan eu cadeirydd, Sam Hammam (ia ... fo) heb i Hammam sicrhau maes newydd i'r Dons.
Roedd cefnogwyr Wimbledon yn ymgyrchu i symud o'u cartref dros dro yn Selhurst Park yn ôl i Merton, ond roedd gan Winkleman weledigaeth arall ac o'r herwydd ffurfiwyd AFC Wimbledon - clwb sy'n berchen i'r cefnogwyr a chlwb sy'n esiampl arbennig o'r hyn y gall gefnogwyr pêl-droed ei wneud.
Roedd y Ffederasiwn o Gefnogwyr Pêl-droed wedi galw am foicot o gemau Milton Keynes ac mae nifer fawr o gefnogwyr yn gwrthod ymweld â'u maes nhw hyd heddiw ond fel cyfaddawd i'r FSF, cafodd holl femorabilia Wimbledon o ddyddiau'r Crazy Gang, Cwpan FA a'r Uwchgynghrair ei ddychwelyd i Gyngor Merton yn ystod yr haf wrth i'r clwb newydd dorri pob cysylltiad efo'r Wimbledon gwreiddiol.
A 'dwi'n siŵr bod Winkleman ar ryw fath o charm offensive eleni gydag adroddiadau fel yr un yma yn ymddangos yn fwy rheolaidd.
Ond peidiwch da chi a chredu'r heip - clwb smal ydi Milton Keynes - clwb sydd wedi dwyn lle clwb arall yn y gynghrair. Ni ddylid eu cefnogi na'u parchu gan nad oes unrhyw le i'r math yma o beth ym mhêl-droed ynysoedd Prydain.
Labels: afc wimbledon, milton keynes, pêl-droed, telegraph, wimbledon





