Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Sgorio'n blogio

15.1.07
Diolch i Rhys am fy atgoffa, gan fy mod i wedi anghofio'n llwyr flogio am flog Sgorio!

Mae'r rhaglen bêl-droed efo blog tymor yma a Nicky John, y gyflwynwraig newydd (sy'n llawer delach na Morgan Jones gyda llaw ), sy'n 'sgwennu.

Labels: , ,

S4C a thîm pêl-droed Cymru

14.11.06
Mae safle we S4C yn rhoi sylw i gêm Cymru v Liechtenstein gan ddefnyddio'r llun yma:

Bechod fod pob un o'r chwaraewyr yn y llun wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol!!

Labels: , ,