Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Byron Stevenson 1956-2007

6.9.07
Mae Byron Stevenson yn enw sydd wastad wedi f'atgoffa fi o fy mhlentyndod. Sticers Panini, crysau heb noddwyr, meysydd mwdlyd, gemau am dri o'r gloch ar brynhawn dydd Sadwrn ... siwmperi fel pyst pêl-droed ;-)

Fe ddaeth yn newyddion trist bore dydd Iau fod Byron Stevenson wedi colli ei frwydr yn erbyn canser y gwddf, diwrnod yn unig cyn y byddai wedi dathlu ei benblwydd yn 51.

Er nad oedd Stevenson y chwaraewr mwyaf disglair yn y byd, roedd yn chwaraewr oedd yn rhoi 100% pob tro roedd yn camu i'r maes ac roedd yn Gymro balch iawn.

Yn ôl Brian Flynn, oedd yn gyd chwaraewr â Stevenson efo Leeds a Chymru, roedd o wrth ei fodd yn cael bod yn rhan o'r garfan rhyngwladol.

"Roedd o mor falch," meddai Flynn. "Fo oedd y cyntaf i roi'r crys coch ymlaen a'r cyntaf i gamu i'r maes pob tro roedd yn ymuno efo'r garfan."

Bechod na fyddai rhai o bêl-droedwyr heddiw efo'r un agwedd ... Mr Collins unrhyw un?

Labels: , , , ,

Beckenbauer Bwcle ...?

5.9.07
Mae Danny Collins wedi penderfynnu nad ydi o eisiau chwarae dros Gymru yn erbyn Yr Almaen a Slofacia yng ngemau rhagbrofol Ewro 2008.

Mae'r amddiffynnwr canol eisiau canolbwyntio ar gadw ei le yn nhîm Sunderland yn hytrach na chynrychioli ei wlad.

Wel, mae'n ddrwg iawn gen i, ond pwy mae'r boi o Bwcle yn feddwl ydi o? Franz Beckenbauer? Ydi o'n credu fod o ddigon da i ddewis a dethol ei gemau dros Gymru?

Y gwir plaen amdani ydi bod Collins yn flin bod chwaraewyr fel Lewin Nyatanga, Steve Evans, Joe Ledley a Gareth Bale yn cael eu dewis ac ei fod o'n gorfod eistedd ar y fainc.

Llai na pum mlynedd yn ôl roedd o'n chwarae i Fwcle yng Nghynghrair Undebol y Gogledd cyn ymuno efo Caer oedd, ar y pryd, yn y Conference.

Ond yn amlwg, rwan ei fod o'n chwarae yn yr Uwchgynghrair, mae o'n rhy dda i eistedd ar y fainc i Gymru ... wel, os mai dyna ydi ei agwedd, 'da ni'n well allan hebddo fo a'i ego.

'Dwi'n gwybod ei bod hi'n ystrydeb ond fe fyddai'r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru yn cerdded i Gaerdydd er mwyn cael cyfle i wisgo'r crys coch ... yn anffodus mae pêl-droediwyr y dyddiau yma'n credu eu bod nhw uwchlaw bod yn eilyddion - 'di o ddim yn dda i'r ddelwedd 'chi'n gweld.

Os nad ydi Collins yn fodlon bod yn rhan o garfan byddai'n well anghofio amdano.

Labels: , , , ,

Bwlgaria 0-1 Cymru

25.8.07
Tymor 2007/08: Gêm #4
Roedd hi'n uffernol o boeth ar arfordir y Môr Du ar gyfer y gêm yma - roedd hi'n ddigon anodd ffeindio’r egni i godi pot peint heb sôn am redeg o gwmpas cae pêl-droed am 90 munud!

Roedd 'na siom aruthrol i'r cefnogwyr selog wrth i ni gyrraedd y maes i ddarganfod bod Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria wedi bod yn gwerthu tocynnau ar gyfer ein heisteddle ni yn y resorts gwyliau cyfagos.

O'r herwydd, roedd 'na lond lle o grysau West Ham, Aston Villa, Man City a ... gulp ... gasp ... gulp ... Lloegr!! Ia - crysau Lloegr mewn eisteddle ar gyfer cefnogwyr CYMRU - ac i wneud pethau'n waeth, roedd 'na un ffŵl dwl wedi clymu baner San Siôr i'r ffens efo fflagiau'r Cymry!

Diolch i'r drefn, roedd heddlu o Gymru allan yn Bourgas ac fe gawsom ni'r Cymry ein hebrwng i floc gwahanol o seddi ... ac fe roddodd dau o gefnogwyr Caerdydd eu Draig Goch dros ben baner San Siôr ar y ffens!

O ran y gêm, dwi'n credu bod Wayne Hennessey a Freddy Eastwood wedi dwyn y penawdau i gyd, ond mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i David Vaughan. Fe weithiodd Vaughan mor galed trwy gydol y gêm a 'dwi'n credu iddo chwarae'n well na 'dwi erioed wedi gweld o'n chwarae yng nghrys coch Cymru.

Roeddwn i'n poeni ychydig pan glywes i ei fod o'n mynd i symud i Real Sociedad gan nad oeddwn i'n meddwl fod o'n ddigon corfforol i allu ymdopi â'r gêm yn Sbaen. Ond o'r hyn weles i yn Bourgas, fe ddylai fod yn gaffaeliad i'r tîm o Donostia.

Labels: , , , , , , ,

Giggs 'di mynd ...

4.6.07
... wel, doedd na'm modd cael cysylltiad i'r rhyngrwyd ar faes yr Eisteddfod felly fethais i flogio'r digwyddiad mwyaf ym mhêl-droed Cymreig ers tro byd, sef ymddeoliad Ryan Giggs.

Dyma beth nes i 'sgwennu ar ran y gwaith, ac mi na'i drio blogio am Giggs a'r gêm yn erbyn Gweriniaeth Siec heno 'ma.

Labels: , , , ,

Sioc ... mae Windsor Park yn dwll ...

31.1.07
Mae amheuaeth os bydd gêm gyfeillgar Cymru â Gogledd Iwerddon nos Fawrth nesaf gan bod pryderon ynghylch Windsor Park.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oedd yn sioc enfawr i glywed bod Windsor Park angen gwaith cynnal a chadw - mae'r lle yn dwll!

Labels: , , , ,

Y Fatican ar y bêl

20.12.06
Mae Dinas y Fatican yn ystyried sefydlu tîm pêl-droed yn ôl adroddiadau gan wasanaeth newyddion Reuters.

Ond mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Tarcisio Bertone, yn credu mai yn Serie A ddylai'r tîm fod er bod lle iddynt, fel gwlad leiaf y byd, geisio am le yng Nghwpan y Byd!

Labels: , ,

Ynyswyr enwog

6.12.06
Roedd y Guardian Knowledge wedi gofyn am bêl-droedwyr ynysig wythnos diwethaf, wel, wrth gwrs, ni allwn adael i'r eiliad basio heb grybwyll y Monwysyn, Tony Roberts!

Labels: , , ,

Ferenc Puskas

20.11.06
Bu farw Ferenc Puskas yn 79-mlwydd-oed ddydd Gwener. Er na weles i'r Galloping Major yn chwarae erioed, ac er bod y lluniau du a gwyn ohonno'n brin iawn, nid oes unrhyw amheuaeth ei fod yn gawr yn y byd pêl-droed.



Ond mae diweddglo trist i'r stori. Bu farw Puskas yn gaeth i ystafell wely mewn ysbyty yn Budapest gan ei fod yn dioddef o glefyd Alzheimers; hyn oll er bod Real Madrid wedi teithio i Budapest i godi arian i dalu biliau meddygol eu cyn chwaraewr ac i geisio sicrhau ei fod yn cael y gofal gorau posib. Wedi'r gêm rhwng Real Madrid ac XI Rhyngwladol o flaen torf o 40,000, cafodd Real Madrid ffi o £892,000, tra bo gwraig Puskas, Elizabeth, wedi derbyn £7,000 tuag at giostau meddygol ei gwr.

Sawl blwyddyn yn ôl, darllenais y llyfr Puskas on Puskas ac rwyf wedi ei dyrchu allan er mwyn ei ddarllen unwaith eto - Heddwch i lwch gwir arwr y byd pêl-droed.

Labels: , , ,

Noson dda yn Wrecsam

15.11.06
Mae'n rhaid mi gyfaddef mod i wedi poeni na fyddai cefnogwyr pêl-droed yn gogledd yn troi allan ar gyfer y gêm gyfeillgar â Liechtenstein. Roedd pob math o sibrydion mai 700 o docynnau yn unig oedd wed eu gwerthu ac mai ychydig droes fil oedd y Gymdeithas Bêl-droed yn digwyl i'r Cae Ras.
Ond mae'n amlwg nad oes genyf ddigon o ffydd, gan er mai gêm dibwys yn erbyn tîm sydd rif 161 ar restr Fifa oedd hon, roedd 8,752 ar Y Cae Ras neithiwr.

Ar y maes, cafwyd perfformiad canmoladwy iawn gan Gymru. Roedd dwy gôl odidog Jason Koumas werth pris y tocyn ar ben eu hunain a chafwyd perfformiad ac ymateb campus gan Steve Evans ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad - roedd yn braf gweld chwaraewr rhyngwladol yn cymeradwyo pob cornel o'r stadiwm cyn gadael am ei gawod!

Yr unig beth sydd yn creu rhwystredigaeth yw diffyg Craig Bellamy i greu neu sgorio mwy o goliau. Mae ei ddawn yn amlwg ac fe berodd loes i Liechtenstein drwy'r nôs, ond er ei gyflymder a'i allu amlwg, nid oedd ei bas yn llwyddo i ganfod cyd chwaraewr hanner digon amal. Yn amlwg nid yw ei bartneriaeth yn y linell flaen gydag Earnshaw yn gweithio - roedd y ddau yn treulio cryn dipyn o amser yn cwyno am ddiffyg pas neu ddiffyg rhediad gan y naill neu'r lall. Roedd gwell dealltwriaeth rhwng Bellamy â'r eilydd, Chris Llewellyn, ond, er ei gôl hwyr, nid yw Llewellyn yn ddigon da i chwarae ar y lefel rhyngwladol.

Labels: , , , , , , ,

Cymru v Liechtenstein

12.11.06
Mae SKY yn rhedeg trêl sydd yn dweud bod Cymru v Liechtenstein yn dod yn fyw o Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd nos Fawrth ... wel dwi'n credu bydd Bryn Tomos ac Alan Parry yn unig uffernol nos Fawrth wrth i weddill Cymru wylio'r gêm ar Y Cae Ras, Wrecsam!

A thra bo gorsaf deledu Uncle Rupert yn gwneud coc-yp, o leiaf mae un o'i bapurau newydd yn gwybod lleoliad y gêm, ond dwi'n amau'n gryf bod y gohebydd wedi bod i'r Cae Ras yn ddiweddar:
Sunday Times 12/11/06

Labels: ,