Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Smith 'di mynd

11.1.07
Wel, mae Denis Smith, ynghyd â'r is-reolwr, Kevin Russell, wedi ei ddiswyddo gan Glwb Pêl-droed Wrecsam, ac er nad yw'n sioc enfawr ei fod wedi cael ei ddiswyddo, mae amseriad y cwbwl yn anhygoel.

Hanner ffordd trwy'r ffenestr drosglwyddo a dim ond dau ddiwrnod cyn gêm nesaf ... pam?
Os oedd y bwrdd am weld Smith yn gadael pam ddim ei ddiswyddo ddydd Llun fel bo Brian Carey, y rheolwr dros dro, yn cael wythnos cyfan gyda'r garfan? Os oedd y bwrdd am weld Denis Smith yn gadael, pam ddim ei ddiswyddo wedi'r golled yn erbyn Accrington Stanley? Mae'n debyg nad oedd unryw un yn disgwyl curo Derby yn y gwpan ddydd Sadwrn diwethaf.

Felly pwy sydd nesaf? Darren erguson yw'r enw ar wefusau pawb, ond mae BBC Cymru'r Byd wedi cymryd cipolwg ar ambell i enw ...

Labels: , , , , ,