Pêl-droed trwy'r nos!
28.6.07Fel arfer, digon diflas ydi gemau'r Copa Amrica gan nad yw'r rhan fwyaf o sêr y cyfandir yn dychwelyd i'w timau ar gyfer y bencapwriaeth, ond eleni, oni bai am America (peidiwch a gofyn pam fod America yn y Copa) mae'r timau'n gymharol gryf.
Cafwyd chwip o gêm ar y noson agoriadol wrth i Peru drechu Wrwgwai - canlyniad annisgwyl, ond dw i'n siwr bod y canlyniad rhywbeth i'w wneud efo'r ffaith bod Peru yn gwisgo'r sash goch yr holl ffordd o amgylch eu crysau unwaith eto, yn hytrach na dim ond ar y tu blaen!Tydi Peru heb gystadlu yng Nghwpan y Byd ers 1982 ac oes aur Teófilo Cubillas ond gyda Julio César Uribe - aelod arall o dîm Peru yn Sbaen 82 - wedi dychwelyd i rôl yr hyfforddwr ar gyfer Copa America mae pethau'n argoeli'n dda i un o gewri cysglyd y cyfandir.
Neithiwr, neu yn hytrach y bore 'ma, cafwyd gêm arbennig rhwng Ecuador a Chile - fi sydd wedi cael Chile yn sweep maes-e ac felly roedd rhaid aros i fyny i wylio fy nhîm.
Er i Ecuador fynd 1-0 ac yna 2-1 ar y blaen, cafwyd dwy gôl hwyr gan Chile i sicrhau buddugoliaeth ac mae'n rhaid i mi ddweud, os fydd La Roja yn parhau i chwarae fel hyn, yna mi fydda'i yn aros ar fy nhraed ar gyfer pob un o'u gemau.
Pwy sydd angen cwsg beth bynnag ...?
Labels: chile, conmebol, copa america, cubillas, football, peru, pêl-droed





