Wrecsam 2-1 Morecambe
25.8.07
Tymor 2007/08: Gêm #3
Fues i ar Y Cae Ras y Sadwrn diwethaf ar gyfer gêm gyntaf y tymor y Dreigiau ar eu tomen eu hunain.
Roedd yn od gweld y Kop yn wag ar gyfer gêm gynghrair ar Y Cae Ras, ond roedd y clwb wedi penderfynu peidio gweud cais am Drwydded Diogelwch arbennig gan yr awdurdod lleol tra bo'r gwaith datblygu yn mynd ymlaen tu ôl i'r teras hanesyddol.
Er hynny, roedd 'na awyrgylch gwych yn ystod yr hanner cyntaf, yn enwedig wedi i Michael Proctor rwydo dwy gôl hyfry i roi'r Dreigiau 2-0 ar y blaen.
Ond yn yr ail hanner fe ddaeth Morecambe yn ôl gyda'r newydd ddyfodiaid yn newid eu patrwm chwarae a dod yn fwy corfforol a llwyddodd Jon Newby i sgorio yn erbyn Wrecsam ... eto!
Mae Newby yn sgorio yn ein herbyn ni o hyd ... ond pan oedd o ar fenthyg ar Y Cae Ras y tymor diwethaf, methodd a rhwydo'r un gôl!
Beth bynnag, roedd yn siomedig i weld Wrecsam yn ildio cymaint o'r chwarae unwaith bo Sammy McIlroy wedi dweud wrth ei dîm i chwarae'n fwy corfforol gan mai dyma'r math o chwarae mae Wrecsam yn debygol o'i wynebu o wythnos i wythnos yn y bedwaredd adran.
Y gobaith yw mai blip oedd yr ail hanner ac unwaith bo Steve Evans yn holliach unwaith eto y bydd yr amddiffyn yn gallu ymdopi'n well efo bwlis yr adran!
Fues i ar Y Cae Ras y Sadwrn diwethaf ar gyfer gêm gyntaf y tymor y Dreigiau ar eu tomen eu hunain.Roedd yn od gweld y Kop yn wag ar gyfer gêm gynghrair ar Y Cae Ras, ond roedd y clwb wedi penderfynu peidio gweud cais am Drwydded Diogelwch arbennig gan yr awdurdod lleol tra bo'r gwaith datblygu yn mynd ymlaen tu ôl i'r teras hanesyddol.
Er hynny, roedd 'na awyrgylch gwych yn ystod yr hanner cyntaf, yn enwedig wedi i Michael Proctor rwydo dwy gôl hyfry i roi'r Dreigiau 2-0 ar y blaen.
Ond yn yr ail hanner fe ddaeth Morecambe yn ôl gyda'r newydd ddyfodiaid yn newid eu patrwm chwarae a dod yn fwy corfforol a llwyddodd Jon Newby i sgorio yn erbyn Wrecsam ... eto!
Mae Newby yn sgorio yn ein herbyn ni o hyd ... ond pan oedd o ar fenthyg ar Y Cae Ras y tymor diwethaf, methodd a rhwydo'r un gôl!
Beth bynnag, roedd yn siomedig i weld Wrecsam yn ildio cymaint o'r chwarae unwaith bo Sammy McIlroy wedi dweud wrth ei dîm i chwarae'n fwy corfforol gan mai dyma'r math o chwarae mae Wrecsam yn debygol o'i wynebu o wythnos i wythnos yn y bedwaredd adran.
Y gobaith yw mai blip oedd yr ail hanner ac unwaith bo Steve Evans yn holliach unwaith eto y bydd yr amddiffyn yn gallu ymdopi'n well efo bwlis yr adran!
Llongyfarchiadau i Morecambe am sicrhau dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed wedi iddyn nhw drechu Caerwysg yn y rownd derfynol o gemau ail gyfle'r Conference ddoe.




