Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Dim ond un tîm yng Nghaerdydd ...?

22.2.08
Oeddech chi'n gwybod fod CPD Caerdydd yn rownd yr wyth olaf o Gwpan FA Lloegr? Oedd? Yn erbyn Leeds United ...?
"Naci wir, Sheffield United neu Middlesbrough maen nhw'n chwarae," medde chi ... wel, ia, tîm y dynion, ond 'does 'na fawr o sylw wedi bod i dîm Merched Caerdydd sydd hefyd yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr.

Bydd y merched, sydd yn gorfod chwarae yng Nghwmbrân a'r Barri gan fod Stadiwm Leckwith wedi ei ddymchwel, yn herio Leeds United am le yn y rownd gynderfynol y penwythnos yma.

Ffurfiwyd y clwb ym 1975 fel Clwb Pêl-droed Merched Llanedeyrn ac er eu bod wedi creu cysylltiadau â chlwb Inter Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Caerdydd dros y blynyddoedd, maen nhw’n glwb gwbl annibynnol.

Mae eu record yng Nghwpan Cymru yn un arbennig. 'Di'r clwb heb golli ers pedwar tymor ac fel deiliaid y gystadleuaeth maen nhw wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Uefa.

Bydd 'na uchafbwyntiau o'r gêm ar Sgorio Nos Fawrth nesaf.

Labels: , , ,

Gêm i ferched?

27.9.07
Wythnos yma, mae Clwb Pêl-droed Y Fali wedi sefydlu tîm dan-11 i ferched - cam bach iawn yn nhermau sefydlu clybiau pêl-droed benywaidd ar Ynys Môn, ond cam bach pwysig.

Llynedd, roedd 'na dwy neu dair o ferched yn chwarae i'r tîm dan-9 - o dan reolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae hawl i ferched a bechgyn chwarae mewn timau cymysg hyd at lefel dan-13.

Ond eleni, 'da ni wedi cymryd y cam pwysig o sefydlu tîm yn arbennig i ferched gyda'r gobaith o ddenu mwy o ferched yr ardal i chwarae'r gêm brydferth.

Gyda Chwpan Pêl-droed i Ferched yn cael ei gynnal ar hyn o bryd y China, 'da ni'n clywed o hyd ac o hyd bod y gêm i ferched yn prysur ddatblygu, ond mae'n fy synnu i cyn lleied o ferched sydd yn chwarae'r gamp yma yng Nghymru.

Tra bo bron i 20 o dimau pêl-droed dan-9 ar Ynys Môn, dim ond un clwb sydd 'na i feched o'r oedran yma. Mae'r un peth yn wir dan-11 - mae 'na lond trol o dimau bechgyn/cymysg ond Y Fali fydd y trydydd clwb sy'n cynnig tîm i ferched ar yr ynys.

Bydd Merched Cymru yn chwarae gêm rhagbrofol Ewro 2009 yn erbyn Y Swistir ym mis Hydref a 'dwi'n gobeithio mynd a chriw o glwb Y Fali i'r Rhyl i wylio'r gêm.

Yn anffodus, mae'n anhebygol bydd 'na llawer mwy na 1,000 o gefnogwyr yna i wylio'r gêm - sefyllfa dra gwahanol i'r hyn welwyd ar Barc Goodison ar Ddydd San Steffan 1920.

Gwasgodd 53,000 o gefnogwyr i mewn i gartref Everton i wylio tîm Dick, Kerr's Ladies - prif dîm merched Lloegr gafodd ei sefydlu mewn ffatri arfau yn Preston yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond gyda Chymdeithas Pêl-droed Lloegr yn gweld bygythiad i boblogrwydd gêm y dynion, llai na blwyddyn wedi'r gêm ar Barc Goodison, gwaharddwyd timau merched rhag chwarae ar feysydd timau oedd yn aelodau o'r FA.

Ers hynny, mae pêl-droed i ferched wedi ei chael yn anodd taro yn ôl, ond 'dwi'n gobeithio byddwn ni yn Y Fali yn gallu gwneud rhan fach iawn i ail sefydlu'r gamp a phwy â wyr ... efallai bydd un o'r merched yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru - rwan byddai hynny'n gamp.

Labels: , ,

Dim arian i ferched Charlton

25.6.07
Er mwyn parhau efo'r themau pêl-droed merched, deth y newyddion dros y Sul bod Charlton Athletic am dorri cysylltiad efo'u tîm merched er mwyn arbed arian.

Mae hyn yn ergyd drom i gêm broffesiynol y merched yn Lloegr gan fod perthynas Charlton efo'u tîm merched yn un o'r rhai gorau. Ond mae'r Addicks wedi penderfynnu peidio cefnogi'r merched mwyach gan atal y £250,000 roeddent yn ei roi'n flynyddol.

Mae'n siwr bod Charlton yn gorfod meddwl am pob ceiniog wedi iddyn nhw ddisgyn allan o'r Uwchgynghrair ond y gwir plaen ydi bod y clwb yn parhau i dderbyn £11m gan yr Uwchgynghrair am ddau dymor arall ac mae nhw hefyd ar fin gwerthu Darren Bent i Spurs am £17m.

Gyda chlybiau fel manchester United a Birmingham City hefyd yn torri cysylltiad efo'u timau merched, mae'n gyfnod digon sigledig i bêl-droed merched yn Lloegr, a mae hyn yn dod ychydig fisoedd wedi i gapten tym cenedlaethol Cymru, Jane Ludlow, feirniadu'r Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru am eu diffyg cefnogaeth.

Mae mwy a mwy o ferched yn chwarae pêl-droed yn Ynysoedd Prydain ac yn enwedig yma yng Nghymru, gyda nifer o dimau newydd yn dechrau pob tymor. Ar Ynys Môn, er enghraifft, mae pedwar tîm newydd i ferched iau yn gobeithio dechrau y tymor nesaf a'r gobaith, yn y pen draw, fydd cychwyn cynghrair pêl-droed i ferched ar yr ynys.

Mae'r gêm i ferched yn ffynnu ac mae'n hen bryd i'r cyrff llywodraethol sylweddoli eu bod nhw'n gyfrifol am bêl-droed ... nid pêl-droed i ddynion.

Labels: , , , ,

Caerdydd yn Ewrop

20.6.07
Mae 'na erthygl ddifyr yn y Western Mail heddiw sydd yn gofyn y cwestiwn pam bod Clwb Merched Caerdydd yn cael chwarae yn Ewrop pan nad ydy'r clwb dynion yn cael yr hawl.

Mae'r merched yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr ac yn y Cwpan FA ond maen nhw wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Uefa y tymor nesaf wedi iddyn nhw drechu Caernarfon yn rownd derfynol Cwpan FA Cymru.

Wrth gwrs, nid yw Caerdydd, Wrecsam, Abertawe, Merthyr, Casnewydd a Bae Colwyn yn cael chwarae yng Nghwpan FA Cymru gan eu bod nhw'n chwarae dros y ffin yn system bêl-droed Lloegr ... ond mae Merched Caerdydd yn chwarae dros y ffin hefyd.

Efallai mai'r ateb yw bod Merched Caerdydd yn chwarae dros y ffin gan nad oes 'na gynghrair genedlaethol Gymreig, yn yr un modd bo Caerdydd, Wrecsam, Abertawe et al wedi cael chwarae yng Nghwpan FA Cymru tan fod Uwchgynghrair Cymru wedi ei greu ym 1992.

Ond wedi dweud hynny, mae FC Vaduz, tîm o brifddinas Liechtenstein, yn chwarae yn Ail Adran Y Swistir ond hefyd wedi chwarae yng Nghwpan Uefa ar ôl cipio Cwpan FA Liechtenstein.

Felly pwy sydd yn iawn?

Labels: , , , , ,