Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

6 Chwefror 1958

6.2.08
Mae hi'n 50 mlynedd heddiw ers y ddamwain awyren ym Munich laddodd wyth o chwaraewr Manchester United.

Wrth gwrs, mae pawb yn ymwybodol o'r stori. Roedd yr awyren oedd yn cludo'r tîm yn ôl o Belgrade wedi glanio ym Munich er mwyn cael mwy o betrol ac ar noson ddychrynllyd o oer, methodd yr awyren a chodi i'r awyr ac fe darodd adeilad ar ddiwedd y llain lanio gan dorri'n ddau.

Bu farw saith o'r chwaraewyr ar y llain lanio - Roger Byrne, Geoff Bent, Eddie Colman, Mark Jones, David Pegg, Tommy Taylor a Liam Whelan tra bu Duncan Edwards farw pythefnos yn ddiweddarach mewn ysbyty ym Munich.

Yn ogystal â'r chwaraewyr, bu farw dau o'r tîm hyfforddi, Bert Whalley a Tom Curry, ysgrifennydd y clwb, Walter Crickmer, ynghyd â dau aelod o'r criw, Captain Kenneth Rayment a Tom Cable, wyth newyddiadurwr - Alf Clarke (Manchester Evening Chronicle), Don Davies (Manchester Guardian), George Follows (Daily Herald), Tom Jackson (Manchester Evening News), Archie Ledbrooke (Daily Mirror), Henry Rose (Daily Express), Eric Thompson (Daily Mail) a Frank Swift (News of the World) oedd hefyd yn cyn golwr â chlwb Manchester City, Bela Miklos, oedd yn asiant teithio i'r clwb a Willie Satinoff, cefnogwr a ffrind agos i Matt Busby.

Fel yr eglurai Richard Williams yn ei golofn yn y Guardian, fe ddigwyddodd trychineb Munich mewn oes lle nad oedd 'na deledu 24 awr na chyfathrebu trwy loeren ac roedd pawb yn crafu am newyddion o'r Almaen.

Mae hi'n anodd credu erbyn heddiw, yn oes y rhyngrwyd ac e-bost, cymaint oedd rhywun yn dibynnu ar bapur newydd am eu newyddion.

Cefais i'r fraint o ymweld ag Old Trafford yr wythnos yma er mwyn ffilmio eitem ar gyfer rhaglen Sgorio ac er nad ydw i'n gefnogwr Manchester United, mae hi'n anodd iawn peidio cael eich cyffwrdd gan dristwch y trychineb.

Yn amgueddfa'r clwb mae 'na ystafell arbennig yn cofio'r digwyddiad gyda lluniau, crysau a chapiau'r chwaraewyr bu farw, papurau newydd o'r cyfnod yn ogystal â llu o deyrngedau gan glybiau, chwaraewyr a phobl gyffredin led led Lloegr, Prydain a'r byd.

Ond mae 'na nodyn sur i'r cofio 'ma hefyd. Mae 'na boster anferth yn cofio'r Busby Babes tu allan i Old Trafford, ac mae'r poster wedi ei noddi gan AIG - noddwyr y clwb! Gallwch brynu crys steil 1958 'arbennig' i gofio'r trychineb - dim ond £49.99 ...

.. gwneud elw ar draul popeth?

Labels: , ,

Prynhawn diflas yn Wembley

20.5.07
Wel pa mor siomedig oedd hwnna? Wedi'r holl heip a'r holl edrych ymlaen, 'dwi ddim yn cofio Cup Final mor ddiflas â hon.

Dwi ddim yn deall pam fod y papurau newydd wedi bod yn sôn am Dream Final rhwng Chelsea a Man Utd, wedi'r cwbwl, dydy'r gemau rhwng y ddau glwb ddim wedi bod yn glasuron o bell ffordd - welsoch chi'r 0-0 rhwng y ddau rhyw pythefnos yn ôl ...?

Gyda'r ddau dîm yn cynnwys tua £700m o dalent, mae'n anodd credu ein bod ni wedi cael 90 munud mor siomedig, ond mae gen i ofn mai dyna sut mae Chelsea'n chwarae. Yn hytrach na defnyddio'r holl chwaraewyr talentog sydd yn ei carfan, mae Mourinho yn hapus i weld ei dîm yn rhwystro'r gwrthwynebwyr a sgorio gôl wrth wrthymosod.

A dyna'n union ddigwyddodd brynhawn ddoe wrth i Didier Drogba rwydo unig gôl y gêm wedi cyfnod o bwyso gan Manchester United.

Byddai Cup Final ddim yn Cup Final heb dipyn o ddadlau a'r Cymro, Ryan Giggs, sy'n flin eleni.

Mae Giggs yn credu bod Peter Cech wedi cario'r bêl dros y llinell wedi ergyd Giggs ond y gwir amdani ydi y dylai Giggs fod wedi gwneud llawer, llawer gwell o'i gyfle.



Petai wedi sgorio fe fyddai wedi ymuno â chlwb ecsgliwsif iawn o Gymry sydd wedi codi'r Gwpan fel capten eu clwb.



Yr unig beth da yw na fu rhaid i ni ddioddef ciciau o'r smotyn!

Labels: , , , , , , , , , ,