Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Llanerchymedd 3-0Y Fali

11.8.07
Tymor 2007/08: Gêm #2

Ychydig wythnosau yn ôl nes i sôn cymaint yr oeddwn i'n edrych ymlaen at y tymor newydd yng Nghynghrair Môn gan fod 'na dîm o'r Fali yn ôl yn y gynghrair am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Wel heddiw, yn hytrach 'na theithio i Darlington ar gyfer gêm agoriadol Wrecsam yng Adran Dau, fe benderfynais i fynd i Gae Tan Parc, Llanerchymedd ar gyfer gêm agoriadol Y Fali yn yr Anglesey Lîg.

Dwi'n siwr y bydd rhai o chwaraewyr ifanc Y Fali yn deffro bore fory gyda choesau stiff a chlais neu ddau wedi gêm galed a chorfforol yn erbyn tîm profiadol y Llan.

Colli oedd hanes Y Fali ond mae 'na le i gredu bod dyfodol disglair i'r clwb o gofio cyfartaledd oedran y bois oedd ar y maes heddiw. Ond yr hyn nath fy mhlesio i yn fwy na dim byd arall oedd cymaint o chwaraewyr oedd yn y tîm heddiw oedd wedi chwarae i dimau dan-9, dan-11 neu dan-13 y pentref yn y gorffennol.

Bore fory bydd timau dan-9 a dan-11 presenol y clwb yn dechrau eu hymarferion ar gyfer y tmyor newydd a dwi'n gobeithio y bydd nifer ohonyn nhw yn dilyn ôl traed rhai o'r bois ifanc frwydrodd mor ddewr heddiw - dyna, i mi, ydi'r nod i ni fel clwb ac fel hyfforddwyr timau iau.

Labels: , , , ,