Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Cofio tân Bradford

27.12.07
Roedd Lincoln City yn ymweld â Valley Parde, Bradford ddoe am y tro cyntaf ers i 56 o gefnogwyr golli eu bywydau mewn tân ar 11 Mai, 1985.

Yn rhyfedd ddigon, rheolwr Lincoln ddoe, Peter Jackson, oedd capten y Bantams ar y diwrnod hwnnw a chafodd ei gyflwyno efo tlws pencampwriaeth y Drydedd Adran cyn y gêm gyda thorf o 11,076 yno er mwyn ymuno yn y dathlu.

Pum munud cyn yr egwyl fe gafwyd tân bychan o dan yr eisteddle; y gred yw mai stwmpyn sigarét oedd yn gyfrifol am gychwyn y tân ond bod sbwriel o dan yr eisteddle wedi tanio gan roi'r eisteddle pren ar dân.

Yr eironi mwyaf am y trasiedi enfawr yma yw fod gweithwyr i fod i ddechrau trin yr eisteddle ar y dydd Llun canlynol er mwyn sicrhau fod y maes yn pasio'r profion diogelwch ar gyfer yr Ail Adran.

Labels: , , ,

Mae wythnos yn amser hir ... ym mhêl-droed

15.4.07
Anghofiwch y nodyn isod ... mae Wrecsam am aros i fyny wedi'r cwbwl! Wedi chwalu un o geffylau blaen yr adran ar eu tomen eu hunain ac wedi i Boston golli yn Henffordd, mae Wrecsam wedi esgyn allan o'r ddau safle isaf yn y gynghrair.



Roedd pob un wan jac o'r chwaraewyr yn arbennig ddoe. Roedd yr awch i ennill ac i wneud yn iawn am ganlyniadau siomedig y Pasg yn amlwg ac mae'n rhaid canmol pob un o'r 14 chwaraewr ddaeth i'r maes yn Sincil Bank.

Wedi wythnos o ofidio, gallwn edrych ymlaen at wythnos o obeithio!

Labels: , , , ,