Na ... no wê ... wir yr ...?
15.7.07
Dyna oedd fy ymateb i pan glywais i enw hyfforddwr golwyr newydd Lerpwl - Xavi Valero.Treuliodd Valero gyfnod ar Y Cae Ras ychydig yn ôl yn 2005, a 'dw i wedi mynd mor bell a'i grybwyll fel y chwaraewr gwaethaf dw i erioed wedi ei weld yn gwisgo crys Wrecsam!
Diolch i Valero cefais y fraint o fod yn dyst i un o'r digwyddiadau mwyaf prin yn y byd pêl-droed.
Mae gweld rheolwr yn cael ei hel o'r maes, eilydd yn cael cerdyn melyn tra ar y fainc neu gweld dyfarnwr yn gorfod gadael y maes gydag anaf yn bethau gymharol gyffredin. Cefais i dicio'r blwch yn yr "I-Spy book of Footballing Rarities" sydd werth o leiaf 50pt wedi i mi weld golwr yn cael ei eilyddio am ei fod o'n rybish!
Cafodd Valero ei eilyddio am hanner amser yn y gêm rhwng Chesterfield a Wrecsam yn Saltergate ym mis Ionawr 2005 a chlywsom ni air amdano ar ôl hynny ... tan rwan!
Dyma ran o'r hyn nes i sgwennu amdano mewn erthygl ar safle we Ar y Marc:
Roedd Valero'n edrych fel golwr - roedd yn gawr o ddyn ac yn sicr yn gallu bloeddio ar ei amddiffyn - ond, yn anffodus, roedd ganddo dair problem fawr:
i) nid oedd yn gallu arbed,
ii) nid oedd yn gallu dal pêl
iii) nid oedd yn gallu cicio.
Dw i'n edrych ymlaen at berfformiadau Pepe Rena'r tymor nesa yn barod!
Labels: ar y marc, football, golwyr, gwaethaf, lerpwl, pêl-droed, wrecsam, xavi valero
Cyn i mi gychwyn ar y rant yma, ga'i ofyn i chi os yda chi'n adnabod y chwaraewr yma ar y chwith? 




