Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Clueless 1-0 Useless

29.3.07
Dyna oedd y pennawd yn un o bapurau newydd Iwerddon fore Sul, ac oni bai bo gen i'r blog 'ma i'w 'sgwennu, 'dwi'n credu byddwn i'n ei gadael hi'n y fan yna!

Y peth mwyaf siomedig am y gêm a'r canlyniad oedd bod Iwerddon yna i'w curo. 'Dwi wedi teithio milltiroedd ar filltiroedd yn dilyn Cymru ac wedi gweld ni'n colli - ac yn colli'n drwm - yn erbyn timau oedd yn llawer gwell 'na ni. Ond y gwahanaiaeth mawr yn Nulyn oedd bod Iwerddon yr un mor siomedig â ni ...
Mae eu rheolwr wedi bod o dan y lach gan y wasg a chefnogwyr Iwerddon ac wedi crafu buddugoliaeth yn erbyn San Marino yn eu gêm ddiwethaf, roedd yr hyder ymysg y chwaraewyr yn isel iawn, ond nhw, ac nid ni, oedd yn chwarae gydag awch a chyda'r hyder.

Roeddwn i hefyd ychydig bach yn siomedig â Croke Park. Wedi'r holl heip yn yr wythnosau oedd yn arwain at y gêm am y "stadiwm odidog" 'ma yng ngogledd Dulyn, roeddwn i'n disgwyl pethau mawr.
Ond roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn ofnadwy - gan nad oedd to uwchben cefnogwyr Cymru, roedd yr holl ganu a bloeddio yn diflannu, ac heb gefnogwyr oddi cartref yn creu swn, roedd y Gwyddelod eu hunain yn ddistaw hefyd. Yn wir, roedd 'na blymin' Mexican Wave ar ôl awr o'r chwarae ... mae hynny'n dweud y cwbwl!

Labels: , , , , ,

Eire we go again ...

16.1.07
Mae Caerdydd wedi arwyddo ymosodwr Shelbourne, Jason Byrne, heddiw a hyn wythnos wedi'r clwb gwblhau trosgwlyddiad y golwr David Forde o glwb Derry City. Felly pam bo Caerdydd wedi cymryd diddordeb yng Nghynghrair Eircom erbyn hyn a pham nad ydynt yn sgowtio Uwchgynghrair Cymru am chwaraewyr?

Pam fo cymaint o chwaraewyr Uwchgynghrair Cymru wedi mynd i chwarae yng nghynghrair Lloegr gyda clybiau Seisnig? Lle oedd Caerdydd, Abertawe a Wrecsam i arwyddo'r chwaraewyr yma, chwaraewyr fel Alan Goodall (Rochdale), Glyn Garner (Leyton Orient) neu Eifion Williams (Hartlepool)?

Chwaraeodd Gary Roberts i Fangor a'r Trallwng ond roedd angen iddo symud i Accrington cyn i glwb yn y Bencampwriaeth gymryd sylw ohonno. Yn yr un modd, bu rhaid i Adebayo Akinfenwa symud i Torquay via Boston cyn i'r Swans ei arwyddo, er ei fod wedi treulio amser ar i lawr yr M4 ar Barc Jenner, ac roedd Forde hefyd gyda'r Barri cyn iddo symud i Iwerddon.

Pam nad oes unrhyw un o'r tri clwb Cymreig wedi bod yn edrych ar Jacob Mingorance yn Llanelli neu Adam Dickinson o Gei Connah ac rwy'n siwr byddai unrhyw un o'r tri wedi gallu gwneud efo sgoriwr goliau fel Marc Lloyd-Williams pan oedd Jiws yn ei anterth.

Labels: , , , , , ,