Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Glantraeth 'B' 0-2 Y Fali

25.4.07
Roedd yn fore gwlyb ym Mordogan ond 'doedd dim ots gan chwaraewyr tîm dan-9 Y Fali fod y glaw yn pistillo a bod y cae'n fwdlud am y tro cyntaf ers wythnosau ... fe lwyddodd yr hogia i sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf y tymor hwn.

Mae ymroddiad yr hogia wedi bod yn arbennig - er colli'r gêm agoriadol y tymor yma 27-0, mae nhw wedi parhau i ddod i'r sesiynau ymarfer ac mae'r canlyniadau wedi gwella wrth i'r tymor fynd yn ei blaen.

O glywed ymateb y rhieni pan sgoriom ni ein gôl cyntaf erioed yn erbyn Llangefni ym mis Chwefror, byddai rhywun yn meddwl i ni ennill Cwpan y Byd yn hytrach na'i gwneud hi'n 1-7!

Roeddwn i yn gweithio yn Milton Keynes v Wrecsam y diwrnod llwyddodd y tîm i sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Bro Benllech, ac roedd fy ffôn yn grasboeth efo negeseuon testyn gan y rhieni!

Ond 'doedd dim o hyn yn cymharu efo'r ymateb pan sgorion ni yr ail gôl ym Modorgan ddydd Sul ...

Labels: , , ,