
Mae 'na
erthygl wych gan
David Conn yn y Guardian heddiw ac fe ddylai pob ffan Arsenal, Lerpwl, Newcastle a hyd yn oed West Ham ei ddarllen.
'Dwi'n cael llond bol o deithio adref o gêm ar nos Sadwrn gan gwrando ar gefnogwyr y clybiau mawr 'ma'n cwyno ar raglen
606 am y '
drychineb' diweddaraf yn Anfield, yr Emirates neu Old Trafford ... coeliwch chi fi gefnogwyr Arsenal, tydi'r pedwerydd safle yn yr Uwchgynghrair, 16 olaf Cwpan Ewrop a chyrraedd rownd derfynol y Cwpan Carling ddim yn drychineb.
Ychydig dros dair blynedd yn ôl roedd Scarborough yn herio Chelsea yng Nghwpan FA Lloegr, ond erbyn heddiw mae nhw'n isaf ond un yn y Conference North wedi iddynt cael eu diarddel o'r Conference oherwydd problemau ariannol.
Y tymor yma, mae'r clwb wedi colli 10 pwynt - fel ddigwyddodd i Wrecsam - am iddynt fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac os na fydd pethau'n gwella ar y maes yn yr wythnosau nesaf, mae'r clwb yn debygol o fod yng Nghynghrair Unibond y tymor nesaf.
Wrth gwrs, roedd 'na adeg pan fo Scarborough, a'u rheolwr Neil Warnock yn arwyr i glybiau o tu allan i'r gynghrair - nhw oedd y clwb cyntaf i sicrhau dyrchafiad o'r Conference i'r gynghrair yn ôl ym 1987, ond gyda mwy a mwy o'r arian yn cael ei rannu rhwng llai a llai o glybiau, mae straeon fel hyn yn dod yn fwy fwy cyffredin.
Labels: arian, david conn, football, guardian, pêl-droed, scarborough