
Wel pa mor siomedig oedd hwnna? Wedi'r holl heip a'r holl edrych ymlaen, 'dwi ddim yn cofio
Cup Final mor ddiflas â hon.
Dwi ddim yn deall pam fod y papurau newydd wedi bod yn sôn am
Dream Final rhwng Chelsea a Man Utd, wedi'r cwbwl, dydy'r gemau rhwng y ddau glwb ddim wedi bod yn glasuron o bell ffordd - welsoch chi'r 0-0 rhwng y ddau rhyw pythefnos yn ôl ...?
Gyda'r ddau dîm yn cynnwys tua £700m o dalent, mae'n anodd credu ein bod ni wedi cael 90 munud mor siomedig, ond mae gen i ofn mai dyna sut mae Chelsea'n chwarae. Yn hytrach na defnyddio'r holl chwaraewyr talentog sydd yn ei carfan, mae Mourinho yn hapus i weld ei dîm yn rhwystro'r gwrthwynebwyr a sgorio gôl wrth wrthymosod.
A dyna'n union ddigwyddodd brynhawn ddoe wrth i Didier Drogba rwydo unig gôl y gêm wedi cyfnod o bwyso gan Manchester United.
Byddai
Cup Final ddim yn
Cup Final heb dipyn o ddadlau a'r Cymro, Ryan Giggs, sy'n flin eleni.
Mae Giggs yn credu bod Peter Cech wedi cario'r bêl dros y llinell wedi ergyd Giggs ond y gwir amdani ydi y dylai Giggs fod wedi gwneud llawer, llawer gwell o'i gyfle.

Petai wedi sgorio fe fyddai wedi ymuno â
chlwb ecsgliwsif iawn o Gymry sydd wedi codi'r Gwpan fel capten eu clwb.
Yr unig beth da yw na fu rhaid i ni ddioddef ciciau o'r smotyn!
Labels: chelsea, cwpan fa, drogba, fa cup, football, giggs, man utd, manchester united, pêl-droed, united, wembley