Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Dim Sky+ ... dim cyfweliad!

21.5.08
Dyma'r stori bêl-droed orau dwi wedi ei chlywed ers amser maith ... mae rheolwr Stockport County, Jim Gannon, yn gwrthod gwneud unrhyw gyfweliad efo Sky Sports cyn rownd derfynol gemau ail gyfle yr Ail Adran gan fod ei focs Sky+ heb weithio ers naw mis!

Labels: , , ,

Be ...? Di o heb fod yn postio ...?

20.5.08
Ia, dwi'n gwybod, dwi heb fod yn postio hanner cymaint â ddylwn i ond dwi'n addo bydd 'na ddigon i'n cadw ni fynd yn ystod yr haf gydag Ewro 2008 a chlybiau Cymru yn Ewrop.

Dwi heb flogio rhyw lawer am lwyddiant Caerdydd yn cyrraedd Wembley a rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ond mae 'na un fideo yr hoffwn i chi ei wylio.

Ymysg yr ystrydebau a'r diflastod brynhawn Sadwrn, roedd 'na un eitem arbennig gan Jonathan Owen yn egluro beth mae'n olygu i fod yn ffan pêl-droed yn ne Cymru.



Dyma oedd gan Martin Kelner i'w ddweud yn ei golofn yn y Guardian ddoe:
He drew parallels with the punk rock movement, with rugby union cast as the overblown prog-rock dinosaurs, and Cardiff City the place for Teenage Kicks. Owen did not shy away from his fellow fans' fondness for a rumble. "You moved to a different beat," he said. "You were sticking two fingers up to the establishment."

Bechod felly i Lineker, Hansen a'u cyfeillion anwybyddu'r eitem yn llwyr wrth i ni ddychwleyd i Wembley ar ôl ei ddarlledu!

Labels: , , ,

Be? Mae na dîm sy'n waeth na ni?

21.4.08
Dwi'n gallu ymdopi efo'r siom ... fel cefnogwr pêl-droed Cymreig mae dyn yn dod i arfer efo siom ... ond mae'r gobaith yn siwr o'n lladd i!

Os 'da ni'n llwyddo i guro Henffordd nos yfory ... ac yna'n curo Accrington Stanley ar Y Cae Ras ddydd Sadwrn ... ac mae Dagenham yn methu â churo Darlington yn Darlington ddydd Sadwrn ... mae popeth yn ddibynol ar gemau ola'r tymor!

Blimey!

Labels: , ,

Wrecsam v Celtic ... ia, Farsley Celtic

15.4.08
Ia, dim ots be ddudes i yr wythnos diwetha' am Wrecsam yn llwyddo i aros i fyny ... 'da ni i lawr - heb os!

Bues i yn Amwythig ddydd Sul ar gyfer gêm dderby Wrecsam efo Amwythig ond 'dwi'm yn siwr os oedd o'n benderfyniad doeth wedi perfformiad chwerthinllyd arall gan Y Dreigiau.

'Dwi erioed wedi gweld tîm pêl-droed yn chwarae mor sâl â chwaraeodd Wrecsam brynhawn Sul.

Roedd y gêm ar ben fel cystadleuaeth o fewn saith munud wrth i Gavin Ward a Richard Hope(less) lwyddo i wneud smonach llwyr o bas hir a chaniatau i Kevin McIntyre rwydo gôl gwbwl hawdd.

Darren Moss, â aned yn Wrecsam, gafodd yr ail ac i rwbio halen i'r briw fe rwydodd James Constable y drydedd er i Gavin Ward arbed cic wreiddiol Dave Hibbert o'r smotyn.

Roedd 'na dri neu bedwar o chwaraeyr Amwythig yn ciwio yn y cwrt cosbi i geisio rhwydo'r drydedd gôl 'na ... a chyda chefnogwyr Amwythig yn ein gwawdio, roedd yn embaras llwyr i'r 1,400 o gefnogwyr Wrecsam oedd wedi gwneud y daith draw i'r New Meadow.

Roedd Brian Little yn dweud wedi'r gêm ei fod o wedi gorfod gofyn i Joey Jones am gymorth i ladd ar y chwaraewyr:
"I was running out of words at the end and Joey - who is a great hero and friend of mine - felt the need to tell the players some things that weren't complimentary."

... roedd na 1,399 o gefnogwyr eraill fyddai wedi bod yn ddigon parod i leisio eu barn, Brian.

Prin iawn ydi'r adegau 'dwi 'di gweld cefnogwyr Wrecsam yn troi ar eu tîm i'r fath raddau y weles i ddydd Sul - 'dwi'n amau'n gryf fod Drewe Broughton wedi hyd yn oed clywed rhai o'r rhegfeydd oedd yn cael eu bloeddio, yn ôl yr olwg oedd ar ei wyneb!

Ond mae'r cefnogwyr wedi cael digon - da ni 'di bod yn y tri isaf yn Adran Dau ers yr wythnos gyntaf ym mis Medi ond er hyn 'da ni dal wedi gweld torfeydd oddeutu 4,500 ar Y Cae Ras a thorfeydd uchel iawn yn dilyn y tîm o Sadwrn i Sadwrn ar hyd a lled Lloegr.

Efallai ei fod yn rhy hwyr erbyn hyn, ond o leiaf mae'r chwaraewyr yn gwybod na fydd llawer o groeso iddyn nhhw'r tymor nesa wrth i ni herio Farsley Celtic ac Ebbsfleet.

Labels: , , ,

Mae'r cochyn yn ôl

7.4.08
Newyddion da i ni yng Nghymru sy'n ymddiddori yn y bêl gron ... mae'r blogiwr Eric the Red yn ei ôl

Labels: , , , ,

Da iawn K-ee-ardiff

Llongyfarchiadau mawr i Gaerdydd a'u cefnogwyr ar gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.

Fel mae llawer o ddarllenwyr y blog yma'n gwybod, mae gen i nifer fawr o ffrindiau sy'n cefnogi'r Adar Gleision a 'dwi'n hollol 'chuffed' drostyn nhw. Fel ddudodd un ohonnyn nhw wrtha'i ddoe "Di petha' ddim yn cael llawer gwell na hyn".

'Dwi ddim am sbwylio'r foment wrth gwyno'n ormodol, ond os ga'i ofyn i SKY, BBC, ITV a holl bapurau newydd Lloegr i beidio a chymysgu llwyddiant Caerdydd efo llwyddiant i Gymru mi fyddwn i'n hapus.

"It's a great day for football fans in Wales," meddai SKY ddoe. "It's been a fantastic weekend for Welsh football," meddai rhywun ar Radio Wales bore 'ma ...

... wel, tra bo fi'n cytuno'n llwyr bod hi yn gamp enfawr i Glwb Pêl-droed Caerdydd a thra bo'u rheolwr a'r tîm yn haeddu pob clod 'di hi ddim mor wych â hynny!

'Di'r Duwiau pêl-droed ddim yn gwennu ar y gornel fach yma o Gymru ar hyn o bryd. Mae Wrecsam yn wynebu dyfodol llwm iawn yn y Conference felly tra bo fi'n hapus iawn dros fy ffrindiau sy'n cefnogi Caerdydd, plis, da chi, peidiwch a choelio bod pob cefnogwr pêl-droed Cymreig yn gwenu heddiw.

'Dwi wir yn gobeithio bydd Caerdydd yn gallu ymweld â Wembley deirgwaith wrth gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle hefyd a 'dwi hefyd yn dymuno pob lwc i Abertawe'r wythnos nesa wrth iddyn nhw geisio sicrhau dyrchafiad ... ond peidiwch a chredu bod pawb yn hapus!

Mae pêl-droed yn gallu bod yn greulon iawn.

Labels: , , , ,

'Da ni'n mynd i fod yn saff ...!

1.4.08

'Dwi ddim yn credu'r peth go iawn, ond 'dwi newydd dreulio hanner awr yn cwblhau 'predictor' y BBC a chydag un gêm yn weddill mae Wrecsam allan o safleoedd y cwymp uwchben Mansfield, Dagenham a Redbridge a Chaer!

'Dwn i ddim faint ddylwn i fod yn credu o'r petha' 'ma ... wedi'r cwbwl, 'dwi ddim wedi gallu darogan llawer o ganlyniadau y tymor yma ... ond mae'n rhaid cael gobaith o rhywle!

Mi fyddai osgoi'r cwymp tra'n gweld Caer yn disgyn yn deimlad pleserus tu hwnt ... coeliwch chi fi!

Labels: , , , , , ,

10.3.08
Dwi ddim yn cael achos i dathlu'n amal iawn y dyddiau yma, ond mae hi bob amser yn hyfryd curo Caer ac yn enwedig ar eu tomen eu hunain!

A'r hyn sydd yn gwneud y fuddugoliaeth hyd yn oed yn well yw bod y dyfarnwr wedi gwrthod gôl i Gaer eiliadau'n unig cyn i ni fynd i ben arall y cae a sgorio ... ddwywaith!

Ond mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, pam fod angen i ni chwarae'r gêm yma am 12:00 ar brynhawn Sul?

Os yw heddlu Manceinion a Lerpwl yn gallu ymdopi efo gemau mawr am 3 o'r gloch y prynhawn, os yw West Ham v Chelsea neu Rangers v Celtic yn gallu bod ar amser call o'r dydd, pam ar y ddaear fod angen i Wrecsam v Caer fod ar adeg mor hurt ar ddydd Sul?

Dau dymor yn ôl, roedd heddlu Caer yn mynnu bod y gêm yn cael ei chwarae am hanner dydd ar brynhawn Mercher - diwrnod gwaith!!

A'r peth mwyaf hurt am hyn oll yw mai ychydig dros 3,000 oedd yno ac wedi'r gêm, cerddodd y ddau set o gefnogwyr i lawr Bumpers Lane tuag at eu ceir efo'u gilydd heb yr un heddwas i'w weld yn unrhywle! Roedd tua 40 o Robocops Heddlu Gogledd Cymru a dau llond bws mini o heddlu Caer yn gwarchod llond dwrn o gefnogwyr Wrecsam mewn capiau Burberry a chotiau SI ...

... hurt!

Labels: , , , ,

Pytiau Ewro 2008

6.3.08
Dyma stamp swyddogol Y Swistir i ddathlu'r ffaith bod Ewro 2008 yn y wlad yn ystod yr haf.

Dwn i ddim amdana chi ond dwi'n credu fod y ffaith i'r dylunio fod mor syml yn ei wneud yn reit cŵl!

Mae nhw wedi cyhoeddi'r wefan wythnos yma hefyd, ond yn amlwg 'does na'm llawer arni ar hyn o bryd!

Labels: , , , , , ,

Gêm 39 ac Uwchgynghrair Lloegr

2.3.08
Yn anffodus, 'dwi heb gael cyfle i flogio am 'Gêm 39', sef y syniad anhygoel 'ma sydd gan Uwchgynghrair Lloegr o chwarae 39fed gêm pob tymor mewn gwlad arall.

Ers cyhoeddi'r cynlluniau mae grwpiau cefnogwyr wedi beirniadu'r syniad ac mae nifer o leisiau mwyaf pwerus y byd pêl-droed hefyd wedi ymateb yn chwyrn.

Ond os oeddech chi'n meddwl bod y cynllun yma wedi ei danseilio, mae'n werth darllen blog pitchinvasion.net lle mae'r awdur wedi cael gafael ar nodiadau cyfarfod rhwng Richard Scudamore, prif weithredwr yr Uwchgynghrair, a chynrychiolwyr Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed (FSF).

Y darn mwyaf brawychus o'r cyfarfod - er bod y cyfarfod yn ei gyfanrwydd yn ddigon brawychus - yw'r cyfaddefiad gan Scudamore nad yw'n poeni am gefnogwyr presenol y clybiau.
For 16 years we have been losing various segments of our supporter base - we have lost some, but we have gained a lot more. Part of our assessment of this project will be those we’ll lose and those we’ll
gain…we’ll weigh that up in the "is this worth it?" column.

Hynny yw, dim ots os yw'r cefnogwyr traddodiadol yn dal i ddo gan fod digon o arian i'w wneud trwy farchnta'r clwb - neu'r brand, fel mae Scudamore yn mynnu galw'r clybiau - mewn farchnad newydd.

Mae twohundredpercent yn ateb y pwyntiau eraill sydd yn cael eu codi gan Scudamore yn llawer gwell na fuaswn i'n gallu ei wneud ... ond fel ddudes i yn gynharach, os oweddech chi'n meddwl eich bod Gêm 39 wedi marw, wel think again ...

Labels: , , , , , ,

Baxter 'di'r boi

30.1.08
Mae un o'n gwrthwynebwyr ni yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010, Y ffindir, wedi datgelu mai Stuart Baxter fydd eu rheolwr newydd.

Ddim callach pwy goblyn ydi Stuart Baxter? Na finnau chwaith tan i mi ddarllen y blog gwych, Football in Finland!

Labels: , , ,

Symud tŷ

12.11.07
Mae'n ddrwg gen i am y diffyg postio diweddar ond 'dwi yn ei chanol hi ar hyn o bryd yn symud tŷ. Ac wrth sôn am symud tŷ, mae Lerpwl wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer eu maes newydd nhw ar Barc Stanley - rhyw fath o "This isn't Anfield".

Ers i mi ddechrau dilyn Wrecsam o gwmpas oddi cartref 'dwi wedi bod i sawl maes sydd bellach ddim yn bodoli. 'Dwi'n credu mai Sealand Road yng Nghaeroedd y cyntaf i ddiflanu oddi ar fy rhestr. Bu rhaid i Caer adael eu maes ar ddiwedd tymor 1989/90 gan chwarae dau dymor yng nghartref Macclesfield, Moss Rose, cyn dychwelyd i'r ddinas a Stadiwm Deva.

Wrth gwrs, fel cefnogwr Wrecsam, 'dwi'n casau Caer ond mae dyn dalu yn teimlo bechod dros gefnogwyr Caer welodd datblygwr tir yn gwerthu'r maes i gwmni archfarchnad a'u gadael yn ddi gartref am ddwy flynedd.

Leeds Road, Huddersfield, ydi'r ail i ddiflanu. Bues i'n Leeds Road i wylio Huddersfield yn erbyn Blackpool pan oeddwn i'n coleg yn Bradford. Roedd mêt i mi'n cefnogi'r Seasiders felly aeth y ddau ohonnom ni draw i wylio gêm Cwpan FA un noson oer.

'Dwi'n siwr mai nid fi ydi'r unig un oedd yn credu bod Huddersfield wedi cael uffar o 'deal' da gan y cwmni brynodd Leeds Road a thalodd i adeiladu'r McAlpine/Galpharm!

Ac wrth gwrs, y maes mwyaf diweddar i ddiflanu ydi Gay Meadow, Amwythig ... ond 'dwi wedi sôn am y twll yna o faes pêl-droed yn y gorffenol!

Dyma'r rhestr yn ei chyfanrwydd:
Sealand Road, Caer
Belle Vue, Doncaster Rovers,
Springfield Park, Wigan,
Victoria Ground, Stoke City,
Highfield Road, Coventry
Y Vetch, Abertawe,
Maine Road, Manchester City,
National Hockey Stadium, Milton Keynes Dons,
Gay Meadow, Amwythig

Labels: , ,

Dim lwc i Docker

29.10.07
Doedd na'm lwc i chwaraewr Porthmadog, Adam Docker, wedi iddo ymuno â charfan Pacistan am y tro cyntaf erioed ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Roedd Pacistan yn wynebu Iraq yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2012 ac wedi colli 7-0 y cymal cyntaf yn Lahore, roedd 'na fynydd o dasg yn eu wynebu yn yr ail gymal.

Er hynny, cafwyd perfformiad gwych yn yr ail gymal yn Aleppo, Syria. Llwyddodd Pacistan i sicrhau gêm gyfartal di sgôr yn erbyn pencampwyr Asia ac er na lwyddodd i ennill ei gap cyntaf roedd Docker - neu Adam Karim fel yr adnabyddir ef ym Mhacistan - ar y fainc.

Felly, tra bo Cymru eto i ddarganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2012, mae Pacistan yngyd â gwledydd fel Vietnam, Dwyrain Timor, Yemen ac Afghanistan eisoes allan o'r gystadleuaeth!

Labels: , , , ,

Dinamo

11.10.07
Mae unrhyw un sydd yn fy adnabod yn gwybod fod gen i bach o obsesiwn efo dwyrain Ewrop.

'Dwi'n meddwl fod y garwriaeth wedi dechrau efo'r enwau ecsotig fel Dinamo Tbilisi, Red Star Belgrade neu Torpedo Moscow oedd i'w clywed ar Sportsnight efo Harry carpenter yn y 1970au.

Ac er fod Dwyrain yr Almaen, Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd yn gymharol agos i Gymru yn ddaearyddol, 'sa wath i sylwebaeth Huw Johns neu Alan Weekes fod wedi dod o'r lleuad, hynny o gyfle oedd gan fachgen bach o Sir Fôn o ymweld â'r gwledydd 'ma oedd tu ôl i'r Llen Haearn.

Ond ymweld â nhw 'dwi wedi wneud ac mae'r obsesiwn yn parhau er mod i wedi sylwi nad ydi pob tîm o'r Wcrain yn 'crack outfit' nac ychwaith fod timau'r Undeb Sofietaidd i gyd yn 'red machines'.

Ond mae 'na reswm pam fod cymaint o dimau efo'r enw Dynamo, neu Dinamo, yn yr hen Undeb Sofietaidd a gweldydd Pact Warsaw.

Dinamo oedd yr enw a roddir ar glybiau chwaraeon y wladwriaeth oeddn o dan reolaeth yr heddlu gwleidyddol Sofietiadd, neu'r GPU - rhagflaenydd y KGB, NKVD a'r MVD.

Roedd gan bron pob dinas fawr yn yr Undeb Sofietaiddd glwb efo'r enw Dinamo gyda'r enwocaf yn dod o'r brifddinas ei hun. Llwyddodd Dinamo Moscow i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1972 cyn colli yn erbyn Rangers - y perfformiad gorau gan glwb o'r Undeb Sofietaidd yn Ewrop.

Ond roedd na fisdimanars hefyd wrth i'r heddlu cudd geisio sicrhau mai ei tîm nhw oedd yn cael y chwaraewyr gorau.

Eduard Streltsov oedd chwaraewr gorau ei genhedlaeth, yn wir, roedd yn cael ei adnabod fel Pelé Rwsia wrth iddo rwydo dros 100 o goliau mewn 222 ymddangosiad i'w glwb, Torpedo Moscow.

Rhwydodd 25 o goliau mewn 38 ymddangoiad i'r Undeb Sofietaidd ac oedd yn allweddol wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1958.

Cyn gadael am Sweden cafodd Streltsov orchymyn i adael Torpedo - clwb cwmni ceir Zil - ac ymuno efo clwb y KGB, Dinamo Moscow.

Gwrthododd Streltsov ymuno â Dinamo ac o'r herwydd cafodd ei wahardd rhag chwarae i'r tîm cenedlaethol. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, cafodd ei gyhuddo o dreisio merch a chafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o waith yn y Gulag.

Ym 1966 roedd y Stasi, heddlu cudd Dwyrain Yr Almaen, am weld tîm cryf yn y brfddinas, Berlin, felly fe orfodwyd chwaraewyr Dinamo Dresden i gyd i adael y clwb ac ymuno efo Dinamo Berlin!

Gyda llaw, y clwb cyntaf i Dinamo Berlin wynebu yn Ewrop oedd Caerdydd. Yr Almanewyr oed yn fuddugol yn rownd gyntaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1971/72 ar giciau o'r smotyn wedi dwy gêm gyfartal 1-1.

Labels: , , , , ,

Locsyn, barf a blewiach

10.10.07
Wrth wylio Wrecsam yn erbyn Accrington Stanley nos Wener diwethaf, roedd 'na drafodaeth reit ddwys ymysg ein grwp bach ni o gefnogwyr ynghylch locsyn newydd Michael Proctor.

Na, 'di pêl-droed Wrecsam ddim mor ddiflas a hynny ... ond roedd pawb yn gyntun nad ydy dyn yn gweld locsyn mor amal a hynny yn y byd pêl-droed y dyddiau yma.

Wrth gwrs, roedd 'na lond dwrn o enwau yn dod i fyny wrth feddwl am chwaraewyr barfog ... er nath neb enwi Socrates, a dim ond ar ôl gweld ei lun ar flog twohundredpercent nes i gofio am ei farf a dweud y gwir!

Ricky Villa oedd yr enw cyntaf ar restr pawb a chan ein bod ni'n gefnogwyr Wrecsam, roedd Billy Ashcroft yno hefyd.

Cafodd Trevor Hockey, y Cymro cyntaf i gael ei hel o'r maes tra'n chwarae dros Gymru, ambell i bleidlais hefyd, ond pwy arall sydd yna? Peter Withe a Garry Birtles ella?

Mae'n rhaid bod na fwy o bêl-droedwyr efo locsyn o gwmpas ... oes?

Labels: , , ,

Be goblyn 'di'r crys na?

4.10.07
Mae twohundredpercent, un o fy hoff flogwyr ar y we, wedi bod yn creu rhestrau yn ddiweddar [pam fo cefnogwyr pêl-droed yn mwynhau llunio cymaint o restrau?!] ac un o'r rhestrau sydd wedi dal fy llygaid i oedd yr un am y crysau pêl-droed gwaethaf erioed.

Mae'r dewis bron yn ddiddiwedd ers i glybiau ddechrau defnyddio ail, trydydd a hyd yn oed pedwerydd crys, ond mae 'na ddewis go eang ymysg crysau rhyngwladol Cymru hefyd.

Felly dyma fwrw ati i ddewis y crysau hyllaf erioed i gael eu gwisgo gan ein tîm pêl-droed cenedlaethol.


5.
Dewis dadleuol efallai, ond tra bo'r fersiwn coch o'r crys yma ymysg y crysau pêl-droed gorau erioed, mae'r fersiwn melyn yn erchyll. Dydi'r streipen coch a gwyrdd ddim yn edrych yn iawn ac mae pawb yn gwybod mai golwyr sy'n gwisgo crysau melyn rhyngwladol, nid chwaraewyr!




4.
Cafodd y crys erchyll yma ei ddylunio fel teyrnged i John Charles yn ôl pob sôn ... wel, sori, ond 'doedd o'm yn llawer o deyrnged nagoedd? Mae'r streipen wen ar grys du i fod i gynrychioli Juventus gyda'r streipen goch yn cynrychioli Cymru ... hmmmm, swnio fel nonsens marchnata i mi!




3.
Yn ystod teyrnasiad Bobby Gould fe benderfynodd Lotto nad oedd ein perfformiadau ni'n ddigon chwerthinllyd ar y maes, ac o'r herwydd bu rhaid i'r chwaraewyr wisgo crys oedd yn debycach i'r hyn fyddai Leighton Rees yn ei wisgo!




2.
Cwmni Lotto sydd yn gyfrifol am y crys nesa' 'ma hefyd. 'Does wybod beth ar y ddaear oedd yn mynd trwy feddwl y dylunydd y bore cafodd hwn ei greu. Streips fertigol, diemwntau, tua phedwar gwahanol liw gwyrdd ... mam bach!




1.
'Dwi ddim yn meddwl bod angen dweud dim byd nagoes! Petrol ydi lliw'r crys yn ôl Umbro, ond 'dwn i ddim beth oedd ar eu pennau nhw efo'r holl sgwigls 'na ... ond y peth gwaethaf am y crys yma ydi bo' fi wedi prynu un!

Labels: , , ,

Idiot!

... 'does na'm gair arall i ddisgrifio'r pen bach yma aeth ar y cae yn Celtic Park nos Fercher.

Labels: , , , , , ,

Gêm i ferched?

27.9.07
Wythnos yma, mae Clwb Pêl-droed Y Fali wedi sefydlu tîm dan-11 i ferched - cam bach iawn yn nhermau sefydlu clybiau pêl-droed benywaidd ar Ynys Môn, ond cam bach pwysig.

Llynedd, roedd 'na dwy neu dair o ferched yn chwarae i'r tîm dan-9 - o dan reolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae hawl i ferched a bechgyn chwarae mewn timau cymysg hyd at lefel dan-13.

Ond eleni, 'da ni wedi cymryd y cam pwysig o sefydlu tîm yn arbennig i ferched gyda'r gobaith o ddenu mwy o ferched yr ardal i chwarae'r gêm brydferth.

Gyda Chwpan Pêl-droed i Ferched yn cael ei gynnal ar hyn o bryd y China, 'da ni'n clywed o hyd ac o hyd bod y gêm i ferched yn prysur ddatblygu, ond mae'n fy synnu i cyn lleied o ferched sydd yn chwarae'r gamp yma yng Nghymru.

Tra bo bron i 20 o dimau pêl-droed dan-9 ar Ynys Môn, dim ond un clwb sydd 'na i feched o'r oedran yma. Mae'r un peth yn wir dan-11 - mae 'na lond trol o dimau bechgyn/cymysg ond Y Fali fydd y trydydd clwb sy'n cynnig tîm i ferched ar yr ynys.

Bydd Merched Cymru yn chwarae gêm rhagbrofol Ewro 2009 yn erbyn Y Swistir ym mis Hydref a 'dwi'n gobeithio mynd a chriw o glwb Y Fali i'r Rhyl i wylio'r gêm.

Yn anffodus, mae'n anhebygol bydd 'na llawer mwy na 1,000 o gefnogwyr yna i wylio'r gêm - sefyllfa dra gwahanol i'r hyn welwyd ar Barc Goodison ar Ddydd San Steffan 1920.

Gwasgodd 53,000 o gefnogwyr i mewn i gartref Everton i wylio tîm Dick, Kerr's Ladies - prif dîm merched Lloegr gafodd ei sefydlu mewn ffatri arfau yn Preston yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond gyda Chymdeithas Pêl-droed Lloegr yn gweld bygythiad i boblogrwydd gêm y dynion, llai na blwyddyn wedi'r gêm ar Barc Goodison, gwaharddwyd timau merched rhag chwarae ar feysydd timau oedd yn aelodau o'r FA.

Ers hynny, mae pêl-droed i ferched wedi ei chael yn anodd taro yn ôl, ond 'dwi'n gobeithio byddwn ni yn Y Fali yn gallu gwneud rhan fach iawn i ail sefydlu'r gamp a phwy â wyr ... efallai bydd un o'r merched yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru - rwan byddai hynny'n gamp.

Labels: , ,

Ffarwel i'r un arbennig ...

20.9.07
Ffarwel Jose. Mae hi wedi bod yn hynod o ddifyr ac eto, yn hynod ddiflas ar yr un pryd!

Yn ôl y sylw mae'r stori yma wedi ei gael heddiw 'sa chi'n meddwl bod y dyn wedi marw ac nid wedi colli ei swydd! Prif stori ar y newyddion trwy'r dydd - hyd yn oed yn Nghymru ar ddiwrnod gêm rygbi rhyngwladol ... !

Roedd hyd yn oed Gordon Brown wedi rhyddhau datganiad yn talu teyrnged iddo ... wel, 'dwi'm yn cofio'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad pan gafodd Denis Smith y sac gan Wrecsam ...!

Beth bynnag, dyma ddyfyniad o'i gynhadledd olaf i'r wasg fel rheolwr Chelsea:
"The style of how we play is very important. But it is omelettes and eggs. No eggs - no omelettes!

It depends on the quality of the eggs. In the supermarket you have class one, two or class three eggs and some are more expensive than others and some give you better omelettes.

So when the class one eggs are in Waitrose and you cannot go there, you have a problem."

Athrylith!

Labels: , , , ,

Blimey Mr Bellamy!

15.9.07
'Does na'm llawer all unrhyw un ei ddweud am y gêm yn ebryn Slofacia, dim ond ... blimey!

Mae'n rhaid dweud nad oeddwn i'n disgwyl y fath ymateb i'r golled yn eryn Yr Almaen, ond o leiaf fe brofwyd pa mor allweddol ydi Craig Bellamy i obeithion Cymru.

Roedd y capten ar dân ac mae'n rhaid dweud fod ei lygaid am gôl yn well nag erioed.

Fe brofwyd hefyd bod angen i Gymru chwarae efo dau ymosodwr yn hytrach na gadael Freddy Eastwood wedi ei ynysu ar ei ben ei hun yn y llinell flaen, a chyda Joe Ledley yng nghanol cae ac nid fel amddiffynnwr!

Yr unig beth drwg am y noson oedd fy mod i yn gwylio'r gêm yn Y Fali yn hytrach nag yn Trnava ... 'dwi'n casàu colli tripiau pêl-droed - yn enwedig pan mae'r canlyniad yn un mor arbennig!

Mwynhewch y goliau unwaith eto yma.

Labels: , , , ,

Ble yn y byd

11.9.07
Roedd sanddef wedi gofyn i mi greu map o'r gwledydd 'dwi wedi ymweld â nhw wrth wylio pêl-droed, wel oni bai am yr UAE a Hong Kong (ar fy mis mêl), Portiwgal a'r Fatican, 'dwi wedi gweld gêm bêl-droed ym mhob un o'r gwledydd yma:

Get Your Own MapView Larger Map

Labels: , ,

Hoff flogs Blogdroed

10.9.07
'Dwi wedi treulio'r noson yn darllen gwahanol flogs felly dya fi'n penderfynu rhannu rhai o'r rhai gorau gyda chi.

Mae 'na sawl blog ar y we sydd bellach wedi esblygu i fod yn safleoedd newyddiadurol arbennig ac yn eu mysg mae Pitch Invasion, Twohundredpercent a The Global Game.

Erbyn hyn, byddai'n darllen y blogs yma cyn cymryd cipolwg ar bapurau newydd pob dydd a byddwn i'n argymell unrhyw gefnogwr pêl-droed wneud nodyn o gyfeiriadau'r blogs yma.

Mae 'na safle newydd wedi ei sefydlu wythnos yma er mwyn i gefnogwyr pêl-droed merched allu dweud ei dweud yn ystod Cwpan y Byd i ferched ddechreuodd yn China heddiw.

Llwyddodd Yr Almaen i drechu Ariannin 11-0 yn y gêm agoriadol a 'dwi'n siwr bydd gan criw Kickster digon i'w ddweud am hyn ... a llawer iawn mwy.

Ac os nad ydy hynny'n digon i chi, cofiwch alw heibio i Some People Are On The Pitch am fwy o drafod y bêl gron.

Mi na'i awgrymu mwy o flogs i chi yn ystod yr wythnos ond fe ddylai'r rhain fod yn ddigon i chi am y tro!

Labels: , ,

"Siawns am gêm?"

Labels: , , ,

"Smalwich mai ddim Jyrmans ydy nhw!"

Tymor 2007/08: Gêm #5
Dyna waeddodd un boi oedd yn eistedd tu ôl i mi yn Stadiwm y Mileniwm nos Sadwrn.

Ac mae'n deg dweud bod Cymru wedi rhoi lot gormod o barch i'r Almaenwyr gyda Bastian Schweinsteiger a Thomas Hitzlsperger yn chwarae gêm o keep-ball yng nghanol cae.

Er mai dim ond dwy gôl sgoriodd yr ymwelwyr, roedden nhw yn llwyr reoli'r gêm ac roedd rhywun y credu y bydden nhw wedi gallu sgorio ar unrhyw adeg pe byddai wir angen iddyn nhw wneud hynny.

Roedd yn siom na chafodd Jens Lehmann ei brofi o gofio'r dechrau sigledig mae golwr Arsenal wedi dioddef y tymor yma.

Mae'n syndod hefyd bod John Toshack wedi dechrau'r gêm efo system 5-4-1 ar ôl i Bellamy dynnu yn ôl yn hwyr yn y dydd, yn enwedig o gofio bod y garfan wedi ymarfer defnyddio system 3-5-2 trwy'r wythnos ... beth oedd o'i le efo defnyddio Robert Earnshaw?

Roedd Freddy Eastwood ar goll ar ben ei hun yn y llinell flaen a 'dwi'n credu bod Cymru wedi edrych yn llawer gwell unwaith bo Earnie wedi dod i'r maes fel ail ymosodwr.

Tydi hi ddim yn warth i golli 0-2 yn erbyn tîm mor dda â'r Almaen, ond mae'n siomedig tu hwnt colli heb frwydr.

Labels: , , , ,

Seland Newydd v Portiwgal ...?

9.9.07
Wedi'r cofnod yma y dydd o'r blaen, nes i benderfynu ymhelaethu ar y pwnc yn fy nyddiadur i BBC Cymru'r Byd.

Labels: , , , ,

Byron Stevenson 1956-2007

6.9.07
Mae Byron Stevenson yn enw sydd wastad wedi f'atgoffa fi o fy mhlentyndod. Sticers Panini, crysau heb noddwyr, meysydd mwdlyd, gemau am dri o'r gloch ar brynhawn dydd Sadwrn ... siwmperi fel pyst pêl-droed ;-)

Fe ddaeth yn newyddion trist bore dydd Iau fod Byron Stevenson wedi colli ei frwydr yn erbyn canser y gwddf, diwrnod yn unig cyn y byddai wedi dathlu ei benblwydd yn 51.

Er nad oedd Stevenson y chwaraewr mwyaf disglair yn y byd, roedd yn chwaraewr oedd yn rhoi 100% pob tro roedd yn camu i'r maes ac roedd yn Gymro balch iawn.

Yn ôl Brian Flynn, oedd yn gyd chwaraewr â Stevenson efo Leeds a Chymru, roedd o wrth ei fodd yn cael bod yn rhan o'r garfan rhyngwladol.

"Roedd o mor falch," meddai Flynn. "Fo oedd y cyntaf i roi'r crys coch ymlaen a'r cyntaf i gamu i'r maes pob tro roedd yn ymuno efo'r garfan."

Bechod na fyddai rhai o bêl-droedwyr heddiw efo'r un agwedd ... Mr Collins unrhyw un?

Labels: , , , ,

Beckenbauer Bwcle ...?

5.9.07
Mae Danny Collins wedi penderfynnu nad ydi o eisiau chwarae dros Gymru yn erbyn Yr Almaen a Slofacia yng ngemau rhagbrofol Ewro 2008.

Mae'r amddiffynnwr canol eisiau canolbwyntio ar gadw ei le yn nhîm Sunderland yn hytrach na chynrychioli ei wlad.

Wel, mae'n ddrwg iawn gen i, ond pwy mae'r boi o Bwcle yn feddwl ydi o? Franz Beckenbauer? Ydi o'n credu fod o ddigon da i ddewis a dethol ei gemau dros Gymru?

Y gwir plaen amdani ydi bod Collins yn flin bod chwaraewyr fel Lewin Nyatanga, Steve Evans, Joe Ledley a Gareth Bale yn cael eu dewis ac ei fod o'n gorfod eistedd ar y fainc.

Llai na pum mlynedd yn ôl roedd o'n chwarae i Fwcle yng Nghynghrair Undebol y Gogledd cyn ymuno efo Caer oedd, ar y pryd, yn y Conference.

Ond yn amlwg, rwan ei fod o'n chwarae yn yr Uwchgynghrair, mae o'n rhy dda i eistedd ar y fainc i Gymru ... wel, os mai dyna ydi ei agwedd, 'da ni'n well allan hebddo fo a'i ego.

'Dwi'n gwybod ei bod hi'n ystrydeb ond fe fyddai'r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru yn cerdded i Gaerdydd er mwyn cael cyfle i wisgo'r crys coch ... yn anffodus mae pêl-droediwyr y dyddiau yma'n credu eu bod nhw uwchlaw bod yn eilyddion - 'di o ddim yn dda i'r ddelwedd 'chi'n gweld.

Os nad ydi Collins yn fodlon bod yn rhan o garfan byddai'n well anghofio amdano.

Labels: , , , ,

Cwpan y BYD?

28.8.07
Tra bo'r timau rygbi'n paratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc ymhen ychydig ddyddiau, mae'r gemau rhagbrofol wedi cychwyn ar gyfer y Cwpan y Byd go iawn ... Cwpan y Byd pêl-droed 2010 yn Ne Affrica.

Yn Apia, Samoa llwyddodd Fiji i drechu Tuvalu 16-0 gydag Ynysoedd y Solomon yn chwalu American Samoa 12-1 ddydd Sadwrn. Roedd Vanuatu yn fuddugol 4-0 yn erbyn Samoa a llwyddodd New Caledonia i ennill 1-0 yn erbyn Tahiti.

Bydd 'na 204 o wledydd yn cystadlu yng Ngwpan y Byd 2010 - mwy o wledydd nag erioed o'r blaen - a bydd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol Ewrop, Asia, Affrica, Gogledd a Chanol America a De America yn Durban ar 25 Tachwedd.

Labels: , , , , , , , ,

Bwlgaria 0-1 Cymru

25.8.07
Tymor 2007/08: Gêm #4
Roedd hi'n uffernol o boeth ar arfordir y Môr Du ar gyfer y gêm yma - roedd hi'n ddigon anodd ffeindio’r egni i godi pot peint heb sôn am redeg o gwmpas cae pêl-droed am 90 munud!

Roedd 'na siom aruthrol i'r cefnogwyr selog wrth i ni gyrraedd y maes i ddarganfod bod Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria wedi bod yn gwerthu tocynnau ar gyfer ein heisteddle ni yn y resorts gwyliau cyfagos.

O'r herwydd, roedd 'na lond lle o grysau West Ham, Aston Villa, Man City a ... gulp ... gasp ... gulp ... Lloegr!! Ia - crysau Lloegr mewn eisteddle ar gyfer cefnogwyr CYMRU - ac i wneud pethau'n waeth, roedd 'na un ffŵl dwl wedi clymu baner San Siôr i'r ffens efo fflagiau'r Cymry!

Diolch i'r drefn, roedd heddlu o Gymru allan yn Bourgas ac fe gawsom ni'r Cymry ein hebrwng i floc gwahanol o seddi ... ac fe roddodd dau o gefnogwyr Caerdydd eu Draig Goch dros ben baner San Siôr ar y ffens!

O ran y gêm, dwi'n credu bod Wayne Hennessey a Freddy Eastwood wedi dwyn y penawdau i gyd, ond mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i David Vaughan. Fe weithiodd Vaughan mor galed trwy gydol y gêm a 'dwi'n credu iddo chwarae'n well na 'dwi erioed wedi gweld o'n chwarae yng nghrys coch Cymru.

Roeddwn i'n poeni ychydig pan glywes i ei fod o'n mynd i symud i Real Sociedad gan nad oeddwn i'n meddwl fod o'n ddigon corfforol i allu ymdopi â'r gêm yn Sbaen. Ond o'r hyn weles i yn Bourgas, fe ddylai fod yn gaffaeliad i'r tîm o Donostia.

Labels: , , , , , , ,

Blymin' awê gôls ...

3.8.07
Roedd na siom aruthrol i'r Rhyl yn Valkeakoski neithiwr wrth i FC Haka rwydo dwy gôl mewn dau funud yn Valkeakoski er mwyn sicrhau bod y gêm yn gyfartal 3-3 dros y ddau gymal.

Ac am y trydydd tro'r tymor yma mae tîm o Gymru'n colli ar y rheol goliau oddi cartref. Cafoddd Llanelli gêm gyfartal 6-6 efo Vetra Vilnius o Lithiwania cyn i'r Seintiau sicrhau gêm gyfartal 4-4 efo Ventspilso Latfia ond mae'r tri chlwb allan o Ewrop oherwydd y rheol gfoliau oddi cartref bondigrybwyll 'ma.

Dwi ddim yn siwr beth ydi manteision y rheol yma bellach. Fe gafodd ei gyflwyno pan fod teithio dramor yn rhywbeth digon anghyffredin, yn enwedig i lefydd tu ôl i'r llen haearn. Ond yn nyddiau Ryan Air ac EasyJet mae'n ddigon cyfleus i ymweld a bron i unrhyw ran o Ewrop.

Ac mae hynny'n dod a fi'n ddigon taclus at fy ail rant ... mae Uefa yn trefnu gemau rhagbrofol Cwpan Uefa y rhanbarthol, ond dwi wir ddim yn deall y rhesymeg.

Dim pêl-droed yn ystod yr haf ydi'r ateb i dimau Cymru ond draw agored lle mae modd i'r clybiau Cymreig wynebu timau o pob rhan o Ewrop. Wrth osod timau Cymru yn y rhanbarth ogleddol efo timau Scandinafia a gwledydd y Baltic mae nhw'n siwr o orfod herio timau sydd hanner ffordd trwy eu tymor, ond pam na chaiff y Cymry herio timau o Montenegro, Croatia, Cyprus, Melita, Macedonia ayyb sydd hefyd yn chwarae pêl-droed yn ystod y gaeaf?

Y rheswm mae Uefa wedi ei roi am osod y clybiau'n rhanbarthol ydi ceisio atal costau teithio anferthol, ond y gwir amdani ydi bod teithio i unrhyw ran o Ewrop yn gymharol rhad y dyddiau hyn.

Yn amlwg mae dod allan o'r het i wynebu tîm o Georgia, Azerbaijan neu Kazahkstan yn golygu taith gostus, ond dyna ni, dyna ydi'r luck of the draw, fel dywed y Sais.

Hefyd, dwi'n rhagweld sefyllfa ymhen ychydig o flynyddoedd lle mae chwarae yn Ewrop yn mynd i fod yn ddiflas tu hwnt i dimau Cymru gyda taith arall i Latfia, Ffindir neu Norwy.

Mae angen agor y draw allan er mwyn sicrhau bod diddordeb y cefnogwyr yn parhau - roedd yn arfer bod yn hwyl gwylio'r enwau'n dod allan o'r het a cheisio canfod gwybodaeth am Valleta, HIT Gorica neu Shamkir ond erbyn hyn, 'da ni'n gweld yr un hen enwau o'r un hen wledydd.

Bois bach, di petha' ddim fel buo nhw!

Labels: , , ,

Edrych ymlaen at y tymor ...

29.7.07
Dwi'n edrych ymlaen at y tymor pêl-droed erbyn hyn - dwi wastad gorfod disgwyl tan ddiwrnod olaf y Tour de France cyn bo fi'n gallu bod yn excited am unrhyw dymor newydd - mae hi'n edrych fel bo Brian Carey yn profi i fod yn rheolwr da a dewr wrth iddo arwyddo chwaraewyr o safon a chael gwared ar ambell i dwpsyn tew!

Dwi'n siŵr mai anomaly oedd y tymor diwethaf i'r Dreigiau ac mi fyddai’n synnu' fawr pe bai Wrecsam yn brwydro tua'r gwaelodion eto'r tymor yma. Yn wir, os na fydd Wrecsam yn cyrraedd y gemau ail gyfle mi fyddai'n siomedig tu hwnt.

Ond dwi hefyd yn edrych ymlaen at dymor pêl-droed Cynghrair Môn eleni. Mae tîm y pentre' 'cw, Y Fali, wedi penderfynu symud o Gynghrair y Sul i chwarae yng Nghynghrair Môn sy'n golygu y bydd 'na dîm o'r pentref yn chwarae yn y lîgs go iawn am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Mae'n rhyfedd i feddwl, yn enwedig o gofio maint pentref Y Fali, na chafwyd yr un tîm pêl-droed o'r pentref yng Nghynghrair Môn am bron i 100 mlynedd.

Y record gyntaf sydd i'w gael o gynghrair bêl-droed ar Ynys Môn ydi ym 1897 pan Llwyddodd Porthaethwy i ennill y lîg gyda Holyhead United, Holyhead Swifts, Llandegfan, Llangefni ac Amlwch hefyd yn cystadlu.

Ond heblaw am RAF Valley, doedd na'r un tîm wedi cario'r enw'r Fali tan i dîm Iau y Fali (Valley Juniors) ymuno efo'r gynghrair ym 1994. Efallai mai'r ffaith bod y pentref mor agos i Gaergybi sydd yn gyfrifol am y diffyg clybiau, ond mae'n beth od iawn pan 'da chi'n meddwl bod pentrefi fel Llaneilian, Aberffraw, Dwyran a Bodffordd wedi cael timau yn y gynghrair.

Ym 1985, yn ogystal ag RAF Valley roedd 'na bedwar tîm o Gaergybi - Town, United Juniors, Mountain Rangers a Mountain Rangers Reserves - yn ogystal â Bae Trearddur, Bodedern a hyd yn oed y Silver Bay Scimitars yn chwarae yn nwy adran Cynghrair Môn - wyth clwb i gyd o fewn pum milltir i'r Fali.

Ond, o leiaf y tymor yma, gallwn ni edrych ymlaen at glywed Gareth Jones yn adrodd canlyniadau tîm o'r Fali ar Radio Cymru unwaith eto ... pob lwc hogia!

Labels: , , , , ,

Na ... no wê ... wir yr ...?

15.7.07
Xavi ValeroDyna oedd fy ymateb i pan glywais i enw hyfforddwr golwyr newydd Lerpwl - Xavi Valero.

Treuliodd Valero gyfnod ar Y Cae Ras ychydig yn ôl yn 2005, a 'dw i wedi mynd mor bell a'i grybwyll fel y chwaraewr gwaethaf dw i erioed wedi ei weld yn gwisgo crys Wrecsam!

Diolch i Valero cefais y fraint o fod yn dyst i un o'r digwyddiadau mwyaf prin yn y byd pêl-droed.

Mae gweld rheolwr yn cael ei hel o'r maes, eilydd yn cael cerdyn melyn tra ar y fainc neu gweld dyfarnwr yn gorfod gadael y maes gydag anaf yn bethau gymharol gyffredin. Cefais i dicio'r blwch yn yr "I-Spy book of Footballing Rarities" sydd werth o leiaf 50pt wedi i mi weld golwr yn cael ei eilyddio am ei fod o'n rybish!

Cafodd Valero ei eilyddio am hanner amser yn y gêm rhwng Chesterfield a Wrecsam yn Saltergate ym mis Ionawr 2005 a chlywsom ni air amdano ar ôl hynny ... tan rwan!

Dyma ran o'r hyn nes i sgwennu amdano mewn erthygl ar safle we Ar y Marc:
Roedd Valero'n edrych fel golwr - roedd yn gawr o ddyn ac yn sicr yn gallu bloeddio ar ei amddiffyn - ond, yn anffodus, roedd ganddo dair problem fawr:
i) nid oedd yn gallu arbed,
ii) nid oedd yn gallu dal pêl
iii) nid oedd yn gallu cicio.

Dw i'n edrych ymlaen at berfformiadau Pepe Rena'r tymor nesa yn barod!

Labels: , , , , , , ,

25 mlynedd yn ôl i ddoe ...

8.7.07
... damn ... roeddwn i wedi meddwl postio hwn ddoe, ond nes i anghofio!

Beth bynnag dwi'n teimlo'n uffernol o hen ers sylwi ei fod hi'n 25 mlynedd ers hyn:

Labels: , , , , ,

Pwy sy'n chwarae left back?

Cyn i mi gychwyn ar y rant yma, ga'i ofyn i chi os yda chi'n adnabod y chwaraewr yma ar y chwith?

Na ...?

Wel, fo oedd capten 'Lerpwl' ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Wrecsam ddoe ... dw i wedi rhoi dyfynodau o amgylch y gair Lerpwl gan bod eu tîm nhw'n llawn o enwau anghyfarwydd.

Besian Idrizaj ydi enw'r chwaraewr, bachgen 19-mlwydd-oed o Awstria, a dyma pam dw i'n casau gemau pêl-droed cyfeillgar ar ddechrau'r tymor. Dyma oedd tîm Lerpwl:
Liverpool: Martin, Finnan, Hobbs, Paletta, Arbeloa, Pennant, Sissoko, Peltier, Hammill, Idrizaj (capt), Brouwer. Subs: Roque, Threlfall, Lindfield, Spearing, Nemeth, El Zhar, Simon, Hansen, Huth, Darby, Flynn.

Dim ond tri o'r enwau yna sydd yn gyfarwydd i mi ond nid dyna ydi gwraidd fy nghwyn ... roedd 'na dorf o 11,120 ar Y Cae Ras i wylio'r gêm. Heb law am y gêm olaf o'r tymor yn erbyn Boston, lle roedd dyfodol y clwb yn y fantol, dyna ydi'r dorf uchaf sydd wedi bod i'r Cae ras ers y gêm gyfeillgar efo Lerpwl y llynedd.

Lle mae'r pobl 'ma yn ystod y tymor?

Labels: , , , ,

Norwy, Y Ffindir a Latfia ... eto!

1.7.07

Unwaith eto mae'n debyg y bydd pob un o dimau Cymru allan o gwpanau Ewrop cyn i'r tymor hyd yn oedd ddechrau.

Mae'r Seintiau wedi dod allan o'r het i wynebu Ventspils yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ac er mai nid pencampwyr Latfia oedd y prif ddetholion, mi fydd yn goblyn o her i'r Seintiau gan fod y tîm o'r Baltics eisoes wedi chwarae 15 o gemau yn eu cynghrair.

Byddai'r tîm o Lansantffraid wedi gallu wynebu clybiau oedd heb ddechrau eu tymor pêl-droed - clybiau fel Pobeda o Macedonia neu FK Sarajevo o Bosnia Herzegovina, ond dydy'r un peth ddim yn wir i'n clybiau ni yng Nghwpan Uefa.

Ers i Uefa benderfynnu rhannu'r rown rhagbrofol gyntaf o Gwpan Uefa i ranbarthau gogleddol, canol/dwyrain a deheuol mae'n anorfod bod clybiau Cymru, sydd yn rhanbarth y gogledd, yn gorfod herio timau o Sgandinafia a gwledydd y Baltic sydd hanner ffordd trwy eu tymor.

Ymysg y detholion yn y rhanbarthau eraill oedd FK Vojvodina a FK Bežanija o Serbia, Maccabi Tel Aviv o Israel ac Anorthosis Famagusta ac Omonia o Gyprus - clybiau sydd, fel Y Rhyl a Chaerfyrddin, heb ddechrau eu tymhorau pêl-droed.

Dw i ddim y dweud bod herio timau o Wlad Pwyl, Serbia neu Romania yn mynd i fod yn haws na herio timau o Sweden, Y Ffindir neu Latfia, ond o leiaf byddai'r clybiau yn yr un sefyllfa o fod â diffyg ffitrwydd gemau.

Tra bod Uefa'n gwneud eu gorau glas i geisio osgoi costau teithio anferth i dimau yn y rownd gyntaf, mae clybiau Cymru'n mynd i fod o dan anfantais anferth yng nghwpanau Ewrop ... oni bai eu bod nhw'n dilyn esiampl Iwerddon a symud y tymor i'r haf ... ond cwestiw arall ydy hynny!

Labels: , , , , , , , , , , ,

Cwis yn erbyn y cloc ...

29.6.07
... mae hwn yn wych - ceisiwch enwi'r 72 clwb sy'n chwarae yn y Gynghair Bêl-droed mewn 10 munud.

Gadewch eich sgôr isod.

Labels: , , ,

Pêl-droed trwy'r nos!

28.6.07
Mae Copa America eleni yn cael ei gynnal yn Venezuela a chyda Sky yn darlledu'r gemau'n fyw o Dde America, dw i wedi bod ar ddihun tan oriau man y bore am ddwy noson er mwyn gwylio'r gemau agoriadol.

Fel arfer, digon diflas ydi gemau'r Copa Amrica gan nad yw'r rhan fwyaf o sêr y cyfandir yn dychwelyd i'w timau ar gyfer y bencapwriaeth, ond eleni, oni bai am America (peidiwch a gofyn pam fod America yn y Copa) mae'r timau'n gymharol gryf.

Cafwyd chwip o gêm ar y noson agoriadol wrth i Peru drechu Wrwgwai - canlyniad annisgwyl, ond dw i'n siwr bod y canlyniad rhywbeth i'w wneud efo'r ffaith bod Peru yn gwisgo'r sash goch yr holl ffordd o amgylch eu crysau unwaith eto, yn hytrach na dim ond ar y tu blaen!

Tydi Peru heb gystadlu yng Nghwpan y Byd ers 1982 ac oes aur Teófilo Cubillas ond gyda Julio César Uribe - aelod arall o dîm Peru yn Sbaen 82 - wedi dychwelyd i rôl yr hyfforddwr ar gyfer Copa America mae pethau'n argoeli'n dda i un o gewri cysglyd y cyfandir.

Neithiwr, neu yn hytrach y bore 'ma, cafwyd gêm arbennig rhwng Ecuador a Chile - fi sydd wedi cael Chile yn sweep maes-e ac felly roedd rhaid aros i fyny i wylio fy nhîm.

Er i Ecuador fynd 1-0 ac yna 2-1 ar y blaen, cafwyd dwy gôl hwyr gan Chile i sicrhau buddugoliaeth ac mae'n rhaid i mi ddweud, os fydd La Roja yn parhau i chwarae fel hyn, yna mi fydda'i yn aros ar fy nhraed ar gyfer pob un o'u gemau.

Pwy sydd angen cwsg beth bynnag ...?

Labels: , , , , , ,

Dim arian i ferched Charlton

25.6.07
Er mwyn parhau efo'r themau pêl-droed merched, deth y newyddion dros y Sul bod Charlton Athletic am dorri cysylltiad efo'u tîm merched er mwyn arbed arian.

Mae hyn yn ergyd drom i gêm broffesiynol y merched yn Lloegr gan fod perthynas Charlton efo'u tîm merched yn un o'r rhai gorau. Ond mae'r Addicks wedi penderfynnu peidio cefnogi'r merched mwyach gan atal y £250,000 roeddent yn ei roi'n flynyddol.

Mae'n siwr bod Charlton yn gorfod meddwl am pob ceiniog wedi iddyn nhw ddisgyn allan o'r Uwchgynghrair ond y gwir plaen ydi bod y clwb yn parhau i dderbyn £11m gan yr Uwchgynghrair am ddau dymor arall ac mae nhw hefyd ar fin gwerthu Darren Bent i Spurs am £17m.

Gyda chlybiau fel manchester United a Birmingham City hefyd yn torri cysylltiad efo'u timau merched, mae'n gyfnod digon sigledig i bêl-droed merched yn Lloegr, a mae hyn yn dod ychydig fisoedd wedi i gapten tym cenedlaethol Cymru, Jane Ludlow, feirniadu'r Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru am eu diffyg cefnogaeth.

Mae mwy a mwy o ferched yn chwarae pêl-droed yn Ynysoedd Prydain ac yn enwedig yma yng Nghymru, gyda nifer o dimau newydd yn dechrau pob tymor. Ar Ynys Môn, er enghraifft, mae pedwar tîm newydd i ferched iau yn gobeithio dechrau y tymor nesaf a'r gobaith, yn y pen draw, fydd cychwyn cynghrair pêl-droed i ferched ar yr ynys.

Mae'r gêm i ferched yn ffynnu ac mae'n hen bryd i'r cyrff llywodraethol sylweddoli eu bod nhw'n gyfrifol am bêl-droed ... nid pêl-droed i ddynion.

Labels: , , , ,

Caerdydd yn Ewrop

20.6.07
Mae 'na erthygl ddifyr yn y Western Mail heddiw sydd yn gofyn y cwestiwn pam bod Clwb Merched Caerdydd yn cael chwarae yn Ewrop pan nad ydy'r clwb dynion yn cael yr hawl.

Mae'r merched yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr ac yn y Cwpan FA ond maen nhw wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Uefa y tymor nesaf wedi iddyn nhw drechu Caernarfon yn rownd derfynol Cwpan FA Cymru.

Wrth gwrs, nid yw Caerdydd, Wrecsam, Abertawe, Merthyr, Casnewydd a Bae Colwyn yn cael chwarae yng Nghwpan FA Cymru gan eu bod nhw'n chwarae dros y ffin yn system bêl-droed Lloegr ... ond mae Merched Caerdydd yn chwarae dros y ffin hefyd.

Efallai mai'r ateb yw bod Merched Caerdydd yn chwarae dros y ffin gan nad oes 'na gynghrair genedlaethol Gymreig, yn yr un modd bo Caerdydd, Wrecsam, Abertawe et al wedi cael chwarae yng Nghwpan FA Cymru tan fod Uwchgynghrair Cymru wedi ei greu ym 1992.

Ond wedi dweud hynny, mae FC Vaduz, tîm o brifddinas Liechtenstein, yn chwarae yn Ail Adran Y Swistir ond hefyd wedi chwarae yng Nghwpan Uefa ar ôl cipio Cwpan FA Liechtenstein.

Felly pwy sydd yn iawn?

Labels: , , , , ,

Amseru sâl

14.6.07
Bechod bod y cyhoeddiad yma:



wedi dod ar yr un diwrnod â'r un yma:

Labels: , , , , ,