Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Lloegr 2018?

13.2.07
Mae Gordon Brown wedi bod wrthi eto ... y tro yma, mae o am weld Lloegr yn cynnal Cwpan y Byd 2018 ac wrth ddatgan byddai cefnogaeth i Loegr trwy'r byd i gyd fe roddodd Yr Albanwr ei droed yn ei geg ... eto!

"I have been around the world. I have been in Asia, America and Europe and there is great support for England having it 50 years after we won the World Cup in 1966.

... after we won? Duwcs, mae'n rhaid mi ddweud nad ydw i erioed yn cofio'r Alban yn ennill Cwpan y Byd - efallai ei fod yn cyfeirio at Yr Alban yn trechu'r Saeson 3-2 yn Wembley ym 1967 arweiniodd at y wasg Albanaidd yn galw eu tîm yn 'World Champions'.

Mae'n rhyfedd sut mae Mr Brown yn defnyddio we. wrth sôn am Loegr trwy'r amser ... fyddai hyn unrhywbeth i'w wneud efo'i obeithion i fod y Prif Weinidog nesaf?

Ond roedd gwaeth i ddod, roedd y amlwg nad yw Mr Brown yn llawer o foi chwaraeon pan ddywedodd

"Just think if in 2012 we have the Olympics and then the 2018 World Cup. What a sporting decade to look forward to, the best sporting decade for our country."

Mae pob Albanwr da yn ymybodol bod Glasgow yn ceisio sicrhau Gemau'r Gymanwlad yn 2014 ac mae Lloegr a Chymru yn cynnal Cwpan Criced y Byd yn 2019 ... ond wrth gwrs, pêl-droed sy'n sicrhau pleidleisiau ynde Mr Brown?

Labels: , , , , , , ,

Aelodau'r Cynulliad yn bygwth yr FAW

27.1.07
Mae hi wedi bod yn wythnos prysur a chythryblus i'r Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru wedi i bwyllgor y Cynulliad sydd yn gwneud arolwg o'r gamp yng Nghymru feirniadu'r FAW am beidio fynd ger eu bron.

Yn bersonol, dwi'n tueddu i gytuno efo ysgrifennydd y gymdeithas, David Collins ... rhywbeth nad ydw wi'n ei wneud yn aml iawn - yr unig dro arall i mi gofio cytuno efo Mr Collins oedd pan y gwrthododd ymuno â Lloegr a Gogledd Iwerddon a cheisio creu tîm Prydeinig ar gyfer Gemau Olympaidd 2012.

Mae cymdeithasau llawer mwy na Chymru, fel Gwlad Pwyl a Gwlad Groeg wedi eu gwahardd gan Fifa oherwydd ymyraeth gan eu llywodraethau.
Y rheswm i Wlad Groeg, sydd yn bencampwyr Ewrop, gael eu gwahardd oedd ymyraeth y Gweinidog Chwaraeon, George Orfanos. Dywedodd Orfanos fod yr HFF (Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Groeg), sy'n derbyn arian gan y llywodraeth, â system bleidleisio gwrth-ddemocrataidd.
"We want more democratic voting rules - rules that apply to all other sporting federations in Greece. If they insist, state protection will be withdrawn."

Sydd ddim mor annhebyg i'r hyn mae pwyllgor y Cynulliad yn fygwth:
"without necessary change, governing body status could be removed from the FAW".

Yn amlwg, nid penderfyniad gwleidyddion ddylai hyn fod, ond penderfyniad Fifa ac Uefa - ys gwn i os yw'r aelodau cynulliad yma'n credu eu bod yn gwneud peth da trwy fygwth bodolaeth y tîm cenedlaethol?

ON
Dyma'r tystiolaeth gafodd ei gyflwyno i'r pwyllgor

Labels: , , , , ,

Pencampwriaeth Clybiau'r Byd

12.12.06
Mae Pencampwriaeth Clybiau'r Byd wedi dechrau y Siapan gyda'r ddwy gêm agoriadol yn cael eu chwarae ddoe.

Llwyddodd Club America o Mecsico i drechu Jeonbuk Hyundai Motors o Korea er mwyn herio Barcelona, tra bo Al Ahly o'r Aifft wedi sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol yn erbyn Internacional o Frasil wedi iddynt faeddu Auckland City 2-0.

Labels: , , , , , , ,