Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Llanerchymedd 3-0Y Fali

11.8.07
Tymor 2007/08: Gêm #2

Ychydig wythnosau yn ôl nes i sôn cymaint yr oeddwn i'n edrych ymlaen at y tymor newydd yng Nghynghrair Môn gan fod 'na dîm o'r Fali yn ôl yn y gynghrair am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Wel heddiw, yn hytrach 'na theithio i Darlington ar gyfer gêm agoriadol Wrecsam yng Adran Dau, fe benderfynais i fynd i Gae Tan Parc, Llanerchymedd ar gyfer gêm agoriadol Y Fali yn yr Anglesey Lîg.

Dwi'n siwr y bydd rhai o chwaraewyr ifanc Y Fali yn deffro bore fory gyda choesau stiff a chlais neu ddau wedi gêm galed a chorfforol yn erbyn tîm profiadol y Llan.

Colli oedd hanes Y Fali ond mae 'na le i gredu bod dyfodol disglair i'r clwb o gofio cyfartaledd oedran y bois oedd ar y maes heddiw. Ond yr hyn nath fy mhlesio i yn fwy na dim byd arall oedd cymaint o chwaraewyr oedd yn y tîm heddiw oedd wedi chwarae i dimau dan-9, dan-11 neu dan-13 y pentref yn y gorffennol.

Bore fory bydd timau dan-9 a dan-11 presenol y clwb yn dechrau eu hymarferion ar gyfer y tmyor newydd a dwi'n gobeithio y bydd nifer ohonyn nhw yn dilyn ôl traed rhai o'r bois ifanc frwydrodd mor ddewr heddiw - dyna, i mi, ydi'r nod i ni fel clwb ac fel hyfforddwyr timau iau.

Labels: , , , ,

Edrych ymlaen at y tymor ...

29.7.07
Dwi'n edrych ymlaen at y tymor pêl-droed erbyn hyn - dwi wastad gorfod disgwyl tan ddiwrnod olaf y Tour de France cyn bo fi'n gallu bod yn excited am unrhyw dymor newydd - mae hi'n edrych fel bo Brian Carey yn profi i fod yn rheolwr da a dewr wrth iddo arwyddo chwaraewyr o safon a chael gwared ar ambell i dwpsyn tew!

Dwi'n siŵr mai anomaly oedd y tymor diwethaf i'r Dreigiau ac mi fyddai’n synnu' fawr pe bai Wrecsam yn brwydro tua'r gwaelodion eto'r tymor yma. Yn wir, os na fydd Wrecsam yn cyrraedd y gemau ail gyfle mi fyddai'n siomedig tu hwnt.

Ond dwi hefyd yn edrych ymlaen at dymor pêl-droed Cynghrair Môn eleni. Mae tîm y pentre' 'cw, Y Fali, wedi penderfynu symud o Gynghrair y Sul i chwarae yng Nghynghrair Môn sy'n golygu y bydd 'na dîm o'r pentref yn chwarae yn y lîgs go iawn am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Mae'n rhyfedd i feddwl, yn enwedig o gofio maint pentref Y Fali, na chafwyd yr un tîm pêl-droed o'r pentref yng Nghynghrair Môn am bron i 100 mlynedd.

Y record gyntaf sydd i'w gael o gynghrair bêl-droed ar Ynys Môn ydi ym 1897 pan Llwyddodd Porthaethwy i ennill y lîg gyda Holyhead United, Holyhead Swifts, Llandegfan, Llangefni ac Amlwch hefyd yn cystadlu.

Ond heblaw am RAF Valley, doedd na'r un tîm wedi cario'r enw'r Fali tan i dîm Iau y Fali (Valley Juniors) ymuno efo'r gynghrair ym 1994. Efallai mai'r ffaith bod y pentref mor agos i Gaergybi sydd yn gyfrifol am y diffyg clybiau, ond mae'n beth od iawn pan 'da chi'n meddwl bod pentrefi fel Llaneilian, Aberffraw, Dwyran a Bodffordd wedi cael timau yn y gynghrair.

Ym 1985, yn ogystal ag RAF Valley roedd 'na bedwar tîm o Gaergybi - Town, United Juniors, Mountain Rangers a Mountain Rangers Reserves - yn ogystal â Bae Trearddur, Bodedern a hyd yn oed y Silver Bay Scimitars yn chwarae yn nwy adran Cynghrair Môn - wyth clwb i gyd o fewn pum milltir i'r Fali.

Ond, o leiaf y tymor yma, gallwn ni edrych ymlaen at glywed Gareth Jones yn adrodd canlyniadau tîm o'r Fali ar Radio Cymru unwaith eto ... pob lwc hogia!

Labels: , , , , ,

Cymru v Seland Newydd

27.5.07
Yn lle canolbwyntio ar ochr negyddol (anferth) o'r gêm yma, dw i am ganolbwyntio ar yr un pwynt positif personol gwych. Yn lle cael parti diwedd tymor yn 'stafell gefn rhyw dy tafarn roeddwn i wedi trefnu bws i'r Cae Ras ar gyfer tîm dan-9 Y Fali.

Dyma'r tro cyntaf i'r mwyafrif ohonnyn nhw fod mewn gêm bêl-droed, heb sôn am gêm rhyngwladol ac roedd gweld y cyffro ar eu hwynebau'n gwneud yr holl stress o drefnu'r daith werth chweil.



Dw i off i Eisteddfod yr Urdd am yr wythnos felly na'i drio postio cyn y gêm yn erbyn Y Weriniaeth Siec, ond does na'm sicrwydd, felly tan hynny ... wela'i chi yn y 'singing section'!

Labels: , , , ,

Glantraeth 'B' 0-2 Y Fali

25.4.07
Roedd yn fore gwlyb ym Mordogan ond 'doedd dim ots gan chwaraewyr tîm dan-9 Y Fali fod y glaw yn pistillo a bod y cae'n fwdlud am y tro cyntaf ers wythnosau ... fe lwyddodd yr hogia i sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf y tymor hwn.

Mae ymroddiad yr hogia wedi bod yn arbennig - er colli'r gêm agoriadol y tymor yma 27-0, mae nhw wedi parhau i ddod i'r sesiynau ymarfer ac mae'r canlyniadau wedi gwella wrth i'r tymor fynd yn ei blaen.

O glywed ymateb y rhieni pan sgoriom ni ein gôl cyntaf erioed yn erbyn Llangefni ym mis Chwefror, byddai rhywun yn meddwl i ni ennill Cwpan y Byd yn hytrach na'i gwneud hi'n 1-7!

Roeddwn i yn gweithio yn Milton Keynes v Wrecsam y diwrnod llwyddodd y tîm i sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Bro Benllech, ac roedd fy ffôn yn grasboeth efo negeseuon testyn gan y rhieni!

Ond 'doedd dim o hyn yn cymharu efo'r ymateb pan sgorion ni yr ail gôl ym Modorgan ddydd Sul ...

Labels: , , ,