Dinamo
11.10.07
Mae unrhyw un sydd yn fy adnabod yn gwybod fod gen i bach o obsesiwn efo dwyrain Ewrop. 'Dwi'n meddwl fod y garwriaeth wedi dechrau efo'r enwau ecsotig fel Dinamo Tbilisi, Red Star Belgrade neu Torpedo Moscow oedd i'w clywed ar Sportsnight efo Harry carpenter yn y 1970au.
Ac er fod Dwyrain yr Almaen, Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd yn gymharol agos i Gymru yn ddaearyddol, 'sa wath i sylwebaeth Huw Johns neu Alan Weekes fod wedi dod o'r lleuad, hynny o gyfle oedd gan fachgen bach o Sir Fôn o ymweld â'r gwledydd 'ma oedd tu ôl i'r Llen Haearn.
Ond ymweld â nhw 'dwi wedi wneud ac mae'r obsesiwn yn parhau er mod i wedi sylwi nad ydi pob tîm o'r Wcrain yn 'crack outfit' nac ychwaith fod timau'r Undeb Sofietaidd i gyd yn 'red machines'.
Ond mae 'na reswm pam fod cymaint o dimau efo'r enw Dynamo, neu Dinamo, yn yr hen Undeb Sofietaidd a gweldydd Pact Warsaw.
Dinamo oedd yr enw a roddir ar glybiau chwaraeon y wladwriaeth oeddn o dan reolaeth yr heddlu gwleidyddol Sofietiadd, neu'r GPU - rhagflaenydd y KGB, NKVD a'r MVD.
Roedd gan bron pob dinas fawr yn yr Undeb Sofietaiddd glwb efo'r enw Dinamo gyda'r enwocaf yn dod o'r brifddinas ei hun. Llwyddodd Dinamo Moscow i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1972 cyn colli yn erbyn Rangers - y perfformiad gorau gan glwb o'r Undeb Sofietaidd yn Ewrop.
Ond roedd na fisdimanars hefyd wrth i'r heddlu cudd geisio sicrhau mai ei tîm nhw oedd yn cael y chwaraewyr gorau.
Eduard Streltsov oedd chwaraewr gorau ei genhedlaeth, yn wir, roedd yn cael ei adnabod fel Pelé Rwsia wrth iddo rwydo dros 100 o goliau mewn 222 ymddangosiad i'w glwb, Torpedo Moscow.
Rhwydodd 25 o goliau mewn 38 ymddangoiad i'r Undeb Sofietaidd ac oedd yn allweddol wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1958.
Cyn gadael am Sweden cafodd Streltsov orchymyn i adael Torpedo - clwb cwmni ceir Zil - ac ymuno efo clwb y KGB, Dinamo Moscow.
Gwrthododd Streltsov ymuno â Dinamo ac o'r herwydd cafodd ei wahardd rhag chwarae i'r tîm cenedlaethol. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, cafodd ei gyhuddo o dreisio merch a chafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o waith yn y Gulag.
Ym 1966 roedd y Stasi, heddlu cudd Dwyrain Yr Almaen, am weld tîm cryf yn y brfddinas, Berlin, felly fe orfodwyd chwaraewyr Dinamo Dresden i gyd i adael y clwb ac ymuno efo Dinamo Berlin!
Gyda llaw, y clwb cyntaf i Dinamo Berlin wynebu yn Ewrop oedd Caerdydd. Yr Almanewyr oed yn fuddugol yn rownd gyntaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1971/72 ar giciau o'r smotyn wedi dwy gêm gyfartal 1-1.
Labels: dinamo, dwyrain ewrop, dynamo, ewrop, football, pêl-droed





