Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Pytiau Ewro 2008

6.3.08
Dyma stamp swyddogol Y Swistir i ddathlu'r ffaith bod Ewro 2008 yn y wlad yn ystod yr haf.

Dwn i ddim amdana chi ond dwi'n credu fod y ffaith i'r dylunio fod mor syml yn ei wneud yn reit cŵl!

Mae nhw wedi cyhoeddi'r wefan wythnos yma hefyd, ond yn amlwg 'does na'm llawer arni ar hyn o bryd!

Labels: , , , , , ,

"Smalwich mai ddim Jyrmans ydy nhw!"

10.9.07
Tymor 2007/08: Gêm #5
Dyna waeddodd un boi oedd yn eistedd tu ôl i mi yn Stadiwm y Mileniwm nos Sadwrn.

Ac mae'n deg dweud bod Cymru wedi rhoi lot gormod o barch i'r Almaenwyr gyda Bastian Schweinsteiger a Thomas Hitzlsperger yn chwarae gêm o keep-ball yng nghanol cae.

Er mai dim ond dwy gôl sgoriodd yr ymwelwyr, roedden nhw yn llwyr reoli'r gêm ac roedd rhywun y credu y bydden nhw wedi gallu sgorio ar unrhyw adeg pe byddai wir angen iddyn nhw wneud hynny.

Roedd yn siom na chafodd Jens Lehmann ei brofi o gofio'r dechrau sigledig mae golwr Arsenal wedi dioddef y tymor yma.

Mae'n syndod hefyd bod John Toshack wedi dechrau'r gêm efo system 5-4-1 ar ôl i Bellamy dynnu yn ôl yn hwyr yn y dydd, yn enwedig o gofio bod y garfan wedi ymarfer defnyddio system 3-5-2 trwy'r wythnos ... beth oedd o'i le efo defnyddio Robert Earnshaw?

Roedd Freddy Eastwood ar goll ar ben ei hun yn y llinell flaen a 'dwi'n credu bod Cymru wedi edrych yn llawer gwell unwaith bo Earnie wedi dod i'r maes fel ail ymosodwr.

Tydi hi ddim yn warth i golli 0-2 yn erbyn tîm mor dda â'r Almaen, ond mae'n siomedig tu hwnt colli heb frwydr.

Labels: , , , ,

Be ddiawl sy'n digwydd ...?

29.3.07
Be ddiawl sy'n mynd ymlaen yng Ngogledd Iwerddon? Diolch i goliau David Healey, mae Norn Iron ar frig eu grwp ac wedi sicrhau buddugoliaethau yn erbyn Sbaen a Sweden yn ogystal â gêm ddi sgôr gwerthfawr yn erbyn Denmarc yn Copenhagen.

Ym mis Mawrth 2004 roedd Cymru yn rhif 67 ar restr detholion Fifa tra bo Gogledd Iwerddon yn rhif 124 - tair blynedd yn ddiweddarach mae Cymru, ar ôl esgyn i rif 56, wedi disgyn yn ôl i rif 77 tra bo gwyr Lawrie Sanchez wedi codi i rif 47.

I unrhyw un sydd yn credu bod camp Cymru o fod ar frig eu grwp yn ystod gemau rhagbrofol Ewro 2004 yn gyfatebol i'r hyn mae Gogledd Iwerddon wedi ei gyflawni, cofiwch mai dwy fuddugoliaeth yn erbyn Azerbaijan oedd yn gyfrfol am chwech o'n 12 pwynt ni bryd hynny ... o ran Gogledd Iwerddon, wedi trechu Sbaen a Sweden mae Liechtenstein a Latfia eto i ddod.

Labels: , ,

Clueless 1-0 Useless

Dyna oedd y pennawd yn un o bapurau newydd Iwerddon fore Sul, ac oni bai bo gen i'r blog 'ma i'w 'sgwennu, 'dwi'n credu byddwn i'n ei gadael hi'n y fan yna!

Y peth mwyaf siomedig am y gêm a'r canlyniad oedd bod Iwerddon yna i'w curo. 'Dwi wedi teithio milltiroedd ar filltiroedd yn dilyn Cymru ac wedi gweld ni'n colli - ac yn colli'n drwm - yn erbyn timau oedd yn llawer gwell 'na ni. Ond y gwahanaiaeth mawr yn Nulyn oedd bod Iwerddon yr un mor siomedig â ni ...
Mae eu rheolwr wedi bod o dan y lach gan y wasg a chefnogwyr Iwerddon ac wedi crafu buddugoliaeth yn erbyn San Marino yn eu gêm ddiwethaf, roedd yr hyder ymysg y chwaraewyr yn isel iawn, ond nhw, ac nid ni, oedd yn chwarae gydag awch a chyda'r hyder.

Roeddwn i hefyd ychydig bach yn siomedig â Croke Park. Wedi'r holl heip yn yr wythnosau oedd yn arwain at y gêm am y "stadiwm odidog" 'ma yng ngogledd Dulyn, roeddwn i'n disgwyl pethau mawr.
Ond roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn ofnadwy - gan nad oedd to uwchben cefnogwyr Cymru, roedd yr holl ganu a bloeddio yn diflannu, ac heb gefnogwyr oddi cartref yn creu swn, roedd y Gwyddelod eu hunain yn ddistaw hefyd. Yn wir, roedd 'na blymin' Mexican Wave ar ôl awr o'r chwarae ... mae hynny'n dweud y cwbwl!

Labels: , , , , ,