Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Polska - Ukraina

19.4.07
Benidgedig! Daeth y newyddion o bwyllgor gweithredol Uefa mai Gwlad Pwyl a'r Wcràin fydd yn cael y fraint o gynnal Ewro 2012.

Yr Eidal oedd y ffefrynnau clir, ond efallai nad yw'r calyniad yn gymaint o syndod pan mae dyn yn cofio mai pleidleisau gwledydd y dwyrain oedd yn bennaf gyfrifol am i Michel Platini gael ei ethol yn lywydd Uefa yn gynharach eleni.

Mae'n hen bryd bod un o prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed yn ymweld â chyn wledydd y Warsaw Pact - mae'n 31 o flynyddoedd ers i Yugoslafia gynnal Pencampwriaeth Ewrop - ond y peth gorau am y penderfyniad oedd y ffaith iddo fod yn gythral o slap yng ngwyneb Yr Eidlawyr hefyd!

'Dwi wedi ymweld â'r ddwy wlad yn y blynyddoedd diweddar er mwyn gwylio Cymru a thra bo'r gwledydd yma'n hynod ddifyr - yn enwedig dinas Kiev - mae 'na broblrmau fydd yn wynebu'r pencampwriaeth.

Yn un peth, mae'r gwledydd y croesi dwy ardal amser gwahanol ac mae taith ar dren o Wroclaw, yng ngorllewin Gwlad Pwyl, i Donetsk, yn nwyrain Wcràin, yn cymryd bron i 34 awr.

Hefyd, bydd angen gwella lot fawr ar nifer o'r stadiymau. Tra bo'r Olimpiyski yn Kiev, fydd yn cynnal y rownd derfynol, bron â chyrraedd y safon, mae stadiwm 50,000 sedd newydd wrthi'n cael ei hadeiladu yn Donetsk. Mae gwaith wedi dechrau ar godi dwy stadiwm newydd yn Chorzow and Dnipropetrovsk, ond mae angen stadiwm newydd yn ninas Gdansk.

A thra bo Warsaw yn cyrraedd safon Uefa am y nifer o westai sydd ar gael yn y ddinas, mae angen lot fawr o waith i ddod â'r stadiwm cenedlaethol yno i'r safon sydd ei angen cyn iddynt allu cynnal y seremoni agoriadol yno.

Ond tra bo angen lot o waith, mae digon o amser gan y gwledydd i'w gwblhau ac o leiaf mae un o addewidion Michel Platini pan gafodd ei ethol eisoes wedi dod yn wir - yr addewid i feddwl am deulu cyfan Uefa ac nid y 'gwledydd mawr' yn unig.

Labels: , , , , ,