Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Trais Yr Eidal yn broblem cymdeithasol

8.2.07
'Dwi wedi bod yn esgeulus braidd efo'r blog o gofio bod cymaint wedi digwydd yn y byd pêl-droed ers i mi 'sgwennu diwethaf.

Cafwyd golygfeydd treisgar yn Yr Eidal wrth i ddarbi Sicily weld plismon yn cael ei ladd wrth iddo geisio rhwystro "cefnogwyr" Catania a "chefnogwyr" Palermo rhag ymladd yn erbyn ei gilydd.

Wrth gwrs, mae unrhyw un fu ym Milan yn 2003 yn gwybod yn iawn pa mor wan yw'r heddlu yn y wlad pan mae'n dod i atal trais yn y meysydd pêl-droed, ond mae'n amlwg bod y sefyllfa wedi mynd yn hurt bost erbyn hyn.

Yn anffodus, mae'r broblem yn Yr Eidal yn mynd yn llawer dyfnach na phêl-droed. Er nad yw grwpiau'r 'ultras' yn Yr Eidal yn berffaith, byddai'n annheg eu beio nhw yn gyfan gwbwl am y trafferthion yn Sicily, yn yr un modd, byddai rhywun ddim yn beio'r grwpiau gwrth-Globaleiddio i gyd am y terfysgaeth welodd protestiwr yn cael ei ladd yn ystod cynhadledd G8 yn Genoa yn 2001.

Mae'r bobl sydd yn ystyried 'ultras' fel hwliganiaid yn debygol o fod yr un bobl oedd yn credu bod pob cefnogwr pêl-droed yn y 70au ac 80au yn hwligan ... ac fel un safodd ar sawl teras yn canu caneuon yn erbyn tîm a chefnogwyr y gwrthwynebwyr, byddwn i'n ystyried hynny'n sarhaus dros ben.

Nid yw plismona yn swydd barchus iawn ym meddwl nifer o Eidalwyr ifanc. Mae'r tâl yn drychinebus o isel ac mae'r hyfforddiant yn chwerthinllyd. Dim rhyfedd, felly, nad yw'r plismyn yn poeni'n ormodol am grwpiau o gefnogwyr pêl-droed yn taflu poteli, seddi a baneri tuag at y meysydd pêl-droed ...

... ac ar y llaw arall, gan fod y tâl mor isel a'r hyfforddiant mor chwerthinllyd, nid yw'n syrpreis pan fo'r plismyn yn cael gwared ar rwystredigaethau'r swydd trwy gnocio pen ambell i gefnogwr pêl-droed.

Wrth gwrs, nid yw Ffederasiwn Pêl-droed Yr Eidal yn gallu dylanwadu ar y broblem yma yng nghymdeithas Yr Eidal ac maent wedi dewis ail agor hanner dwsin stadiwm sydd yn cyrraedd rhyw safon diogelwch newydd.

Y chwe stadiwm fydd yn cael agor eu drysau'r penwythnos hwn yw Stadiwm Olympaidd Rhufain, Stadio Luigi Ferraris Genoa, Stadio Artemio Franchi Siena, Stadio Sant'Elia Cagliari, Stadio Renzo Barbera Palermo a Stadio Olimpico Torino.

Bydd rhaid i'r gweddill, gan gynnwys y San Siro ym Milan, gwblhau gwaith cynnal a chadw er mwyn cyrraedd safonau diogelwch cyn cael agor eu drysau unwaith eto, ac mae'n rhaid i Celtic ddisgwyl er mwyn clywed lle bydd eu gêm nhw yn erbyn AC Milan yng Nghynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal.

Mae sôn bod Milan am chwarae'r gêm yn Ffrainc neu'r Swistir yn hytrach na thu ôl i ddrysau caeedig y Giuseppe Meazza, ond nid yw Internazionale, sydd hefyd yn dal i fod yn Ewrop, wedi gwneud unrhyw sylw am eu gêm nhw â Valencia.

Y peryg mwyaf i bêl-droed Yr Eidal yw'r ffaith bod nifer o 'wybodusion' y edrych tua Lloegr am yr ateb i'w problemau. Gyda'r Uwchgynghrair yn arwyddo cytundebau teledu am arian hurt a chyda sêr y byd pêl-droed yn ysu i chwarae yno, mae'n apelio'n fawr iawn at ambell i Eidalwr.

Ond mae pêl-droed yr Eidal yn parhau i fod yn gêm i'r werin; mae prisiau tocynnau'n gymharol rhad o'u cymharu â'r £50 i £60 sydd y rhaid ei wario am docyn yn Stamford Bridge, Old Trafford neu'r Emirates.

Ac heb yr werin, mae pêl-droed yn Lloegr wedi colli ei ffordd yn fy marn i ... seddi gwag oherwydd prisiau gwallgof ac amseru hurt, diffyg awyrgylch mewn meysydd identikit ac antiseptig a llond trol o chwaraewyr dwy a dimau yn cael eu talu cyflogau astronomaidd ... nid dyma'r model i'w ddilyn.

Labels: , , ,