Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Prynhawn diflas yn Wembley

20.5.07
Wel pa mor siomedig oedd hwnna? Wedi'r holl heip a'r holl edrych ymlaen, 'dwi ddim yn cofio Cup Final mor ddiflas â hon.

Dwi ddim yn deall pam fod y papurau newydd wedi bod yn sôn am Dream Final rhwng Chelsea a Man Utd, wedi'r cwbwl, dydy'r gemau rhwng y ddau glwb ddim wedi bod yn glasuron o bell ffordd - welsoch chi'r 0-0 rhwng y ddau rhyw pythefnos yn ôl ...?

Gyda'r ddau dîm yn cynnwys tua £700m o dalent, mae'n anodd credu ein bod ni wedi cael 90 munud mor siomedig, ond mae gen i ofn mai dyna sut mae Chelsea'n chwarae. Yn hytrach na defnyddio'r holl chwaraewyr talentog sydd yn ei carfan, mae Mourinho yn hapus i weld ei dîm yn rhwystro'r gwrthwynebwyr a sgorio gôl wrth wrthymosod.

A dyna'n union ddigwyddodd brynhawn ddoe wrth i Didier Drogba rwydo unig gôl y gêm wedi cyfnod o bwyso gan Manchester United.

Byddai Cup Final ddim yn Cup Final heb dipyn o ddadlau a'r Cymro, Ryan Giggs, sy'n flin eleni.

Mae Giggs yn credu bod Peter Cech wedi cario'r bêl dros y llinell wedi ergyd Giggs ond y gwir amdani ydi y dylai Giggs fod wedi gwneud llawer, llawer gwell o'i gyfle.



Petai wedi sgorio fe fyddai wedi ymuno â chlwb ecsgliwsif iawn o Gymry sydd wedi codi'r Gwpan fel capten eu clwb.



Yr unig beth da yw na fu rhaid i ni ddioddef ciciau o'r smotyn!

Labels: , , , , , , , , , ,