Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

10.3.08
Dwi ddim yn cael achos i dathlu'n amal iawn y dyddiau yma, ond mae hi bob amser yn hyfryd curo Caer ac yn enwedig ar eu tomen eu hunain!

A'r hyn sydd yn gwneud y fuddugoliaeth hyd yn oed yn well yw bod y dyfarnwr wedi gwrthod gôl i Gaer eiliadau'n unig cyn i ni fynd i ben arall y cae a sgorio ... ddwywaith!

Ond mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, pam fod angen i ni chwarae'r gêm yma am 12:00 ar brynhawn Sul?

Os yw heddlu Manceinion a Lerpwl yn gallu ymdopi efo gemau mawr am 3 o'r gloch y prynhawn, os yw West Ham v Chelsea neu Rangers v Celtic yn gallu bod ar amser call o'r dydd, pam ar y ddaear fod angen i Wrecsam v Caer fod ar adeg mor hurt ar ddydd Sul?

Dau dymor yn ôl, roedd heddlu Caer yn mynnu bod y gêm yn cael ei chwarae am hanner dydd ar brynhawn Mercher - diwrnod gwaith!!

A'r peth mwyaf hurt am hyn oll yw mai ychydig dros 3,000 oedd yno ac wedi'r gêm, cerddodd y ddau set o gefnogwyr i lawr Bumpers Lane tuag at eu ceir efo'u gilydd heb yr un heddwas i'w weld yn unrhywle! Roedd tua 40 o Robocops Heddlu Gogledd Cymru a dau llond bws mini o heddlu Caer yn gwarchod llond dwrn o gefnogwyr Wrecsam mewn capiau Burberry a chotiau SI ...

... hurt!

Labels: , , , ,

Tic arall yng Nglwb 92

7.1.07
Cefais i'r fraint o ymweld â Pride Park, Derby ddoe a gyfer gêm Wrecsam yn Nrhydedd Rownd Cwpan FA Lloegr - cae newydd i mi ac felly rhif 55 ar y rhestr o 92 clwb ('dwi wedi colli Doncaster Rovers ers ddechrau'r flwyddyn wedi iddyn nhw symud i stadiwm newydd).

Cefnogwyr Wrecsam yn Pride Park

Roedd bron i 3,000 o gefnogwyr Wrecsam (2,992 a bod yn fanwl gywir) wedi teithio i lawr yr A50 i gefnogi'r tîm, a tan i Derby sgoriodd eu trydedd gôl, dim ond y Cymry oedd i'w clywed o amgylch Pride Park.
Cafwyd perfformiad calonogol iawn gan Wrecsam, er y golled. Roedd Steve Evans yn gawr yn yr amddiffyn unwaith eto, ac os yw'r sibrydion am Leeds United yn wir, yna fe brofodd ddoe ei fod â'r gallu i chwarae ar lefel y Bencampwriaeth.

Roedd David Jones, chwaraewr canol cae Derby sydd y gymwys i chwarae dros Gymru, yn arbennig i'r tîm cartref. Mae ganddo draed chwim ac roedd ei basio a'i symudiadau yn ei gwneud yn amlwg pam fo'r Rams wedi talu £1 miliwn i Manchester United amdano. Er nad wyf yn hoffi'r ffaith ei fod yn dal i bendroni petai Cymro neu Sais ydi o, byddwn i'n sicr yn hapus ei weld yng nghanol cae Cymru.

Labels: , , , ,