Gwarthus, gwarthus, gwarthus
15.10.07
'Dwi wir ddim yn siwr beth i'w feddwl.Wedi chwalu Slofacia 5-2 yn Trnava, roedd pawb ar ben eu digon wrth deithio i Cyprus - rheolwr, chwaraewyr, cefnogwyr, y wasg ... pawb!
Ond roedd y performiad yn gwbwl warthus. Hyd yn oed pan oedden ni ar y blaen 1-0 roedd pawb yn gallu gweld mai matr o amser fyddai hi cyn i Gyprus sgorio.
'Does wybod beth sydd wedi mynd o'i le, ond roedd y gwendidau'n amlwg unwaith eto yn San Marino wrth i Gymru chwyso a chwythu wrth geisio curo tîm gwaethaf Ewrop.
Roedd 'na llu o sibrydion yn San Marino ynghylch pam fod pethau'n mynd o le a pham fo chwaraewyr yn anhapus a phwy sydd yn achosi'r drwgdeimlad ymysg y garfan.
Ond y gwir amdani ydi bod pob un wan jac o'r cefnogwyr sy'n talu pres mawr i deithio oddi cartref yn anhapus efo'r diffyg awch a'r diffyg parch sydd yn cael ei ddangos yn y crys coch.
Dim ond Craig Bellamy sydd i'w weld yn torri ei fol i chwarae dros Gymru ... dim ond Craig Bellamy sydd i'w weld â pharch yn y crys coch enwog.
Mae hynny'n anfaddeuol ...
Labels: cymru, cyprus, san marino





