Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Bring me sunshine ...

21.5.07
Llongyfarchiadau i Morecambe am sicrhau dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed wedi iddyn nhw drechu Caerwysg yn y rownd derfynol o gemau ail gyfle'r Conference ddoe.

Roedd 'na erthygl ddifyr yn yr Observer ddoe gan gefnogwr Morecambe oedd yn teithio yn ôl o Efrog Newydd - lle roedd o ar wyliau teuluol - er mwyn gwylio'r gêm.

Mae awdur y darn, David Jones, yn disgrifio ei ddyddiau cynnar yn gwylio'r Shrimps yn Christie Park (un newydd ar gyfer y clwb 92 y tymor nesaf) fel hyn:
In those days before non-league went national, the Shrimps were in the Lancashire Combination, pitted against even smaller teams (plankton?) such as rossendale United, who we once massacred 14-0, with Morecambe legend Arnie Timmins bagging eight goals. A season from now, we could be hosting Leeds United.

Dyna be ydi pêl-droed go iawn, arwr o'r enw Arnie Timmins!

Roedd y gêm can gwaith gwell na'r gêm rhwng Manchester United a Chelsea, sy'n syndod mawr o gofio beth oedd ar gael i'r buddugwyr ... neu'n hytrach, beth fyddai'r tîm oedd yn colli yn gorofd wynebu tymor nesaf - tymor arall yn y 'Blue Square' Premier.

Labels: , , ,

Siom, siom, siom ...

11.4.07
Tydw i ddim yn siwr iawn be 'dwi am sgwennu heddiw. Mae wedi cymryd bron i 48 awr cyn fy mod i'n gallu wynebu darllen negesfwrdd Red Passion neu darllen y Daily Post.
Roeddwn yn hynod, hynod siomedig wedi i'r Dreigiau golli ddydd Sadwrn, a hynny gan bod y perfformiad yn yr ail haner cymaint, cymaint gwell na'r hyn 'da ni wedi ei gael yn ddiweddar - na'i ddim sôn dim am y perfformiad trychinebus yn Macclesfield.

Roedd hyd yn oed rheolwr Notts County yn ymddiheuro am y fuddugoliaeth wedi'r gêm - sgoriodd County gyda'u hail ymosodiad o'r ail haner- a hynny wedi 87 munud - wedi i Jeff Whitley, Chris Llewellyn a Lee McEvilly daro'r trawst/postyn.

'Dwi wedi dechrau meddwl y gwaethaf ac ar negesfwrdd One Touch Football 'dwi wedi bod yn holi ymateb cefnogwyr Rhydychen i fywyd yn y Conference. Esgusodwch yr iaith fain, ond dyma ymateb un:
Basically, it might be something different to experience, but I wouldn't want it to last more than a season. Trouble is, with only one automatic promotion place it's the hardest league to get out of (at the top end), so if you have the choice, I would opt to avoid relegation.

Ia ... ond petai mor hawdd â hynny ...

Labels: , , ,