Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Dim arian i ferched Charlton

25.6.07
Er mwyn parhau efo'r themau pêl-droed merched, deth y newyddion dros y Sul bod Charlton Athletic am dorri cysylltiad efo'u tîm merched er mwyn arbed arian.

Mae hyn yn ergyd drom i gêm broffesiynol y merched yn Lloegr gan fod perthynas Charlton efo'u tîm merched yn un o'r rhai gorau. Ond mae'r Addicks wedi penderfynnu peidio cefnogi'r merched mwyach gan atal y £250,000 roeddent yn ei roi'n flynyddol.

Mae'n siwr bod Charlton yn gorfod meddwl am pob ceiniog wedi iddyn nhw ddisgyn allan o'r Uwchgynghrair ond y gwir plaen ydi bod y clwb yn parhau i dderbyn £11m gan yr Uwchgynghrair am ddau dymor arall ac mae nhw hefyd ar fin gwerthu Darren Bent i Spurs am £17m.

Gyda chlybiau fel manchester United a Birmingham City hefyd yn torri cysylltiad efo'u timau merched, mae'n gyfnod digon sigledig i bêl-droed merched yn Lloegr, a mae hyn yn dod ychydig fisoedd wedi i gapten tym cenedlaethol Cymru, Jane Ludlow, feirniadu'r Gymdeithas Bêl-droed yng Nghymru am eu diffyg cefnogaeth.

Mae mwy a mwy o ferched yn chwarae pêl-droed yn Ynysoedd Prydain ac yn enwedig yma yng Nghymru, gyda nifer o dimau newydd yn dechrau pob tymor. Ar Ynys Môn, er enghraifft, mae pedwar tîm newydd i ferched iau yn gobeithio dechrau y tymor nesaf a'r gobaith, yn y pen draw, fydd cychwyn cynghrair pêl-droed i ferched ar yr ynys.

Mae'r gêm i ferched yn ffynnu ac mae'n hen bryd i'r cyrff llywodraethol sylweddoli eu bod nhw'n gyfrifol am bêl-droed ... nid pêl-droed i ddynion.

Labels: , , , ,