4,500 i Ddulyn ...
21.3.07
... felly lle mae pawb wedi bod? Ia, 'dwi'n gwybod y dylwn i fod yn falch bod cymaint o gefnogwyr yn teithio draw i Ddulyn ar gyfer y gêm rhagbrofol Ewro 2008 ... ond mae dyn yn gorfod gofyn pam fo cyn lleied yn teithio i gefnogi'r tîm fel arfer?
Dim ond ychydig dros 200 oedd yn Belfast fis diwethaf ar gyfer taith yr un mor fer i ynys Iwerddon ... cyn i chi ddweud dim byd, 'dwi'n gwybod mai gêm gyfeillgar di-nod oedd honno ac ei bod wedi ei chwarae ar nos Fawrth ac nid ar benwythnos ... ond mae clywed bod 4,300 ychwanegol yn teithio ar gyfer y gêm yn Croke Park yn syfrdanol!
Wrth gwrs, nid ffenomenon newydd mo hyn - roedd dros 4,000 ym Milan ym mis Medi 2003, a hynny llai na mis wedi i ryw 300 o gefnogwyr deithio i Belgrade ar gyfer gêm yr un mor bwysig ac mewn dinas llawer difyrach.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef mai wrth teithio i wylio 'gêm fawr' y dechreuais i ddilyn y tîm cenedlaethol yn rheolaidd - roeddwn yn un o'r miloedd aeth draw i Eindhoven ar gyfer y grasfa 7-1 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn ôl ym 1996, ond ers hynny rwyf wedi cael lot mwy o hwyl mewn dinasoedd fel Minsk, Baku a Kiev na chefais mewn dinasoedd fel Milan a Manceinion!
Os ydych chi'n un o'r rhai sy'n profi'r wefr am y tro cyntaf yn Nulyn, neu'n mynd dramor am y tro cyntaf ers Milan, yna gwnewch yn siwr, da chi, eich bod yn dilyn y tîm i ddinas ddiarffordd hefyd er mwyn profi taith llawer difyrach!





