Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Wedi bod yn dathlu gormod ...

6.3.07
... i flogio!
O'r diwedd, mae Wrecsam wedi llwyddo i sicrhau triphwynt gyda Brian Carey wrth y llyw wedi i'r Dreigiau drechu Barnet yn Underhill ddydd Sadwrn.
Roedd dwy gôl gan Lee McEvilly yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau golygfeydd gwallgof ar y chwiban olaf:


Yn anffodus, doeddwn i ddim yn Llundain ar gyfer y gêm gan nad oedd unrhyw dren yn gadael Bangor ar ôl naw o'r gloch y bore fyddai'n cyrraedd Barnet cy hanner awr wedi pedwar yn y prynhawn. Roeddwn i'n dathlu wrth wrando ar Dylan Griffiths a Malcolm Allen ar Radio Cymru, ac mae'n rhaid dweud mod i wedi chwerthi tan roeddwn i'n sâl wedi i Malcolm fynnu na ddylai McEvilly fod yn chwarae dros Wrecam ond yn chwarae dros y 'Dog and Duck'!!

Beth bynnag, gan nad oeddwn yn gallu mynd i Barnet, aeth Ifan a minnau i'r New Oval yng Nghaergybi er mwyn gwylio Hotspur Caergybi yn rbyn Y Trallwng yng Nghpan Cymru.
Roedd torf o 709 yno ar gyfer y gêm, prawf, os bu angen, fod Caergybi â'r gefnogaeth a'r adnoddau i gynnal tîm yn Uwchgynghrair Cymru ... yn anffodus, nid yw'r chwaraewyr yn barod eto wrth i'r Trallwng ennill 5-1.

Gallwch weld lluniau a chlywed hanes y gêm ar safle we Ar y Marc.

Labels: , , , , , , , ,

Talu i wylio pwy?

17.2.07
Gan nad yw Wrecsam yn chwarae tan yfory (y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caer) bues i'n gwylio fy 'ail dîm', sef Hotspur Caergybi, yn erbyn Lex XI.

Yn ystod yr hanner cyntaf o'r gêm cefais fy nghythruddo gan y dyfarnwr - dim byd newydd yn fana, medde chi - ond dim oherwydd penderfyniad hurt cefais fy nghythruddo, ond am rhywbeth hollol hurt ddywedodd y dyn.

Rhoddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn i Lex yn ystod yr hanner cyntaf - roedd yn un o'r penderfyniadau 'na all fynd y naill ffordd neu'r llall - ond nid dyna oedd wedi fy nghythruddo. Wedi'r digwyddiad yng nghwrt cosbi Hotspur, penderfynodd y dyfarnwr fod y drosedd yn haeddu cerdyn melyn - ond, er ei fod yn bendfyniad llym i roi cerdyn melyn, nid dyna oedd edi fy nghythruddo.

Galwodd y dyfarnwr ar amddiffynnr Hotspur, Gerallt Jones, er mai nid fo oedd yn gyfrifol am y drosedd ac er i gapten Hotspur geisio'i ddarbwyllo mai nid fo oedd yn gyfrifol am y drosedd ac er i chwaraewyr Lex (chwarae teg) erfyn ar y dyfarnwr i ddefnyddio synnwyr cyffredin gan dweud mai nid Gerallt oedd yn gyfrifol am y drosedd.

Ond nid dyna oedd wedi fy nghythruddo.

Fel pob cefnogwr pêl-droed, mae angen dweud eich dweud a chan fod y dyfarnwr yn sefyll o fewn 10 lath i mi penderfynias ddweud wrtho pa mor sâl oedd ei benderfyniad ...

... a wyddoch chi beth oedd ei ateb (yn yr iaith fain, wrth gwrs)?

"Ia, ond o leiaf 'dwi'n cael fy nhlau i fod yma tra bo chdi a dy fêts yn gorfod talu i fy ngwylio.

Talu i wylio PWY? Mam bach, roedd ei agwedd trahaus yn troi arna fi ... talu i wylio'r DYFARNWR? Roeddwn i a'r bych wedi talu i wylio gêm o bêl-droed nid er mwyn gwylio'r dyfarnwr yn strytio'i stwff ... roedd y boi yma'n meddwl bod y gêm yn troi o'i gwmpas o ...

Yn ôl y dyfarnwr, nid oeddwn i yno er mwyn gwylio

  • golwr Caergybi, Merfyn Williams, yn gwneud camgymeriad erchyll ar ochr ei gwrt cosbi wrth ildio gôl gyntaf Lex.

  • Merf yn gwneud yn iawn am ei gamgymeriad ac arbed y cic o'r smotyn dan sylw.

  • ymosodwr 'profiadol' Hotspur, Nigel Moore, yn rhwydo dwy gôl hyfryd yn yr hanner cyntaf i roi Hotspur ar y blaen

  • perfformiad arwrol gan un o chwaraewyr Lex, arbedodd llu o gyfleon yn yr ail hanner wedi i golwr Lex gael ei hel o' maes


O, na, roeddwn i wedi talu er mwyn ei weld o ...

PAH!



Gyda llaw, Caergybi enillodd 6-2

Labels: , , , ,