Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Caerfyrddin ... nil points

21.7.07
Roedd yn wythnos dda iawn yn Ewrop i glybiau Cymru - mi fyddwn i wedi dweud gwych oni bai am i Gaerfyrddin ddioddef crasfa go iawn ar Barc Waun Dew.

Llwyddodd Y Seintiau i drechu FK Ventspils o Latfia nos Fawrth ac er iddyn nhw ildio dwy gôl oddi cartref, roedd yr adroddiadau'n ffafriol iawn o berfformiad gwyr Ken McKenna.

O gofio bod Y Rhyl wedi colli 5-0 yn ebryn Skonto Riga yn yr un gystadleuaeth ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'n profi bod pêl-droed Cymru wedi gwella'n aruthrol. Y gobaith mawr yw bod Y Seintiau'n gallu adeiladu ar y fuddugoliaeth yn yr ail gymal yn Latfia brynhawn Mercher.

Cafwyd perfformiad penigamp gan Y Rhyl yng Nghwpan Uefa nos Iau wrth iddyn nhw drechu FC Haka o'r Ffindir.

Pan fues i yn Y Ffindir llynedd yn gwylio Caerfyrddin yn erbyn Tampere yn Nhlws yr Intertoto cefais i noson ar y pop efo newyddiadurwr pêl-droed o'r Ffindir sy'n dod yn wreiddiol o Sheffield.

Nes i holi Egan am obeithion Y Rhyl ac, fel y gwelwch chi ar ei flog, 'doedd Haka ddim y meddwl rhyw lawer o'r Rhyl ... gobeithio bod eu rheolwr wedi newid ei feddwl erbyn hyn!

Roedd trydedd gôl y Lillywhites yn arbennig - symudiad ddechreuodd yn eu cwrt cosbi eu hunain ac orffennodd efo Craig Garside yn troi croesiad i'r rhwyd.

Labels: , , , ,

Norwy, Y Ffindir a Latfia ... eto!

1.7.07

Unwaith eto mae'n debyg y bydd pob un o dimau Cymru allan o gwpanau Ewrop cyn i'r tymor hyd yn oedd ddechrau.

Mae'r Seintiau wedi dod allan o'r het i wynebu Ventspils yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ac er mai nid pencampwyr Latfia oedd y prif ddetholion, mi fydd yn goblyn o her i'r Seintiau gan fod y tîm o'r Baltics eisoes wedi chwarae 15 o gemau yn eu cynghrair.

Byddai'r tîm o Lansantffraid wedi gallu wynebu clybiau oedd heb ddechrau eu tymor pêl-droed - clybiau fel Pobeda o Macedonia neu FK Sarajevo o Bosnia Herzegovina, ond dydy'r un peth ddim yn wir i'n clybiau ni yng Nghwpan Uefa.

Ers i Uefa benderfynnu rhannu'r rown rhagbrofol gyntaf o Gwpan Uefa i ranbarthau gogleddol, canol/dwyrain a deheuol mae'n anorfod bod clybiau Cymru, sydd yn rhanbarth y gogledd, yn gorfod herio timau o Sgandinafia a gwledydd y Baltic sydd hanner ffordd trwy eu tymor.

Ymysg y detholion yn y rhanbarthau eraill oedd FK Vojvodina a FK Bežanija o Serbia, Maccabi Tel Aviv o Israel ac Anorthosis Famagusta ac Omonia o Gyprus - clybiau sydd, fel Y Rhyl a Chaerfyrddin, heb ddechrau eu tymhorau pêl-droed.

Dw i ddim y dweud bod herio timau o Wlad Pwyl, Serbia neu Romania yn mynd i fod yn haws na herio timau o Sweden, Y Ffindir neu Latfia, ond o leiaf byddai'r clybiau yn yr un sefyllfa o fod â diffyg ffitrwydd gemau.

Tra bod Uefa'n gwneud eu gorau glas i geisio osgoi costau teithio anferth i dimau yn y rownd gyntaf, mae clybiau Cymru'n mynd i fod o dan anfantais anferth yng nghwpanau Ewrop ... oni bai eu bod nhw'n dilyn esiampl Iwerddon a symud y tymor i'r haf ... ond cwestiw arall ydy hynny!

Labels: , , , , , , , , , , ,