10.3.08
Dwi ddim yn cael achos i dathlu'n amal iawn y dyddiau yma, ond mae hi bob amser yn hyfryd curo Caer ac yn enwedig ar eu tomen eu hunain!A'r hyn sydd yn gwneud y fuddugoliaeth hyd yn oed yn well yw bod y dyfarnwr wedi gwrthod gôl i Gaer eiliadau'n unig cyn i ni fynd i ben arall y cae a sgorio ... ddwywaith!
Ond mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, pam fod angen i ni chwarae'r gêm yma am 12:00 ar brynhawn Sul?
Os yw heddlu Manceinion a Lerpwl yn gallu ymdopi efo gemau mawr am 3 o'r gloch y prynhawn, os yw West Ham v Chelsea neu Rangers v Celtic yn gallu bod ar amser call o'r dydd, pam ar y ddaear fod angen i Wrecsam v Caer fod ar adeg mor hurt ar ddydd Sul?
Dau dymor yn ôl, roedd heddlu Caer yn mynnu bod y gêm yn cael ei chwarae am hanner dydd ar brynhawn Mercher - diwrnod gwaith!!
A'r peth mwyaf hurt am hyn oll yw mai ychydig dros 3,000 oedd yno ac wedi'r gêm, cerddodd y ddau set o gefnogwyr i lawr Bumpers Lane tuag at eu ceir efo'u gilydd heb yr un heddwas i'w weld yn unrhywle! Roedd tua 40 o Robocops Heddlu Gogledd Cymru a dau llond bws mini o heddlu Caer yn gwarchod llond dwrn o gefnogwyr Wrecsam mewn capiau Burberry a chotiau SI ...
... hurt!





