Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Cymru v Norwy

11.2.08
'Dwi heb gael cyfle i flogio am fuddugoliaeth gwych Cymru yn erbyn Norwy yr wythnos diwethaf gan fy mod i'n hynod o brysur yn y gwaith, ond dyma fy lluniau o'r noson ar Y Cae Ras.

Labels: , , , ,

Gemau ail gyfe ... here we come!

20.1.08
Roedd yn ganlyniad gwbl annisgwyl ... ond eto, un roedd llwyth o bobl wedi ei ddarogan. Ia, 'dwi'n gwybod nad ydi hynny'n gwneud unrhyw synnwyr.

Rhywsut neu'i gilydd roedden ni wir yn credu y bydde ni'n gallu maeddu Milton Keynes er gwaetha'r ffaith eu bod nhw ar y brig a bod ni ar y gwaelod!

Gyda chwech o'r Magnificent Seven newydd: Danny Sonner, Paul Hall, Gavin Ward, Phil Bolland, Carl Tremarco a Stuart Nicholson yn chwarae, roedd fel gwylio tîm gwbl newydd.

Roedd y dorf yn chwarae eu rhan hefyd gyda'r Deuddegfed Dyn yn chwarae eu rhan yn llwyr. Yn wir, roedd hi'n braf cael bod yn gefnogwr Wrecsam ddoe, a 'dwi heb ddweud hynny ers oesoedd!

Labels: , ,

Wrecsam 2-1 Morecambe

25.8.07
Tymor 2007/08: Gêm #3
Fues i ar Y Cae Ras y Sadwrn diwethaf ar gyfer gêm gyntaf y tymor y Dreigiau ar eu tomen eu hunain.

Roedd yn od gweld y Kop yn wag ar gyfer gêm gynghrair ar Y Cae Ras, ond roedd y clwb wedi penderfynu peidio gweud cais am Drwydded Diogelwch arbennig gan yr awdurdod lleol tra bo'r gwaith datblygu yn mynd ymlaen tu ôl i'r teras hanesyddol.

Er hynny, roedd 'na awyrgylch gwych yn ystod yr hanner cyntaf, yn enwedig wedi i Michael Proctor rwydo dwy gôl hyfry i roi'r Dreigiau 2-0 ar y blaen.

Ond yn yr ail hanner fe ddaeth Morecambe yn ôl gyda'r newydd ddyfodiaid yn newid eu patrwm chwarae a dod yn fwy corfforol a llwyddodd Jon Newby i sgorio yn erbyn Wrecsam ... eto!

Mae Newby yn sgorio yn ein herbyn ni o hyd ... ond pan oedd o ar fenthyg ar Y Cae Ras y tymor diwethaf, methodd a rhwydo'r un gôl!

Beth bynnag, roedd yn siomedig i weld Wrecsam yn ildio cymaint o'r chwarae unwaith bo Sammy McIlroy wedi dweud wrth ei dîm i chwarae'n fwy corfforol gan mai dyma'r math o chwarae mae Wrecsam yn debygol o'i wynebu o wythnos i wythnos yn y bedwaredd adran.

Y gobaith yw mai blip oedd yr ail hanner ac unwaith bo Steve Evans yn holliach unwaith eto y bydd yr amddiffyn yn gallu ymdopi'n well efo bwlis yr adran!

Labels: , ,

Cymru v Seland Newydd

27.5.07
Yn lle canolbwyntio ar ochr negyddol (anferth) o'r gêm yma, dw i am ganolbwyntio ar yr un pwynt positif personol gwych. Yn lle cael parti diwedd tymor yn 'stafell gefn rhyw dy tafarn roeddwn i wedi trefnu bws i'r Cae Ras ar gyfer tîm dan-9 Y Fali.

Dyma'r tro cyntaf i'r mwyafrif ohonnyn nhw fod mewn gêm bêl-droed, heb sôn am gêm rhyngwladol ac roedd gweld y cyffro ar eu hwynebau'n gwneud yr holl stress o drefnu'r daith werth chweil.



Dw i off i Eisteddfod yr Urdd am yr wythnos felly na'i drio postio cyn y gêm yn erbyn Y Weriniaeth Siec, ond does na'm sicrwydd, felly tan hynny ... wela'i chi yn y 'singing section'!

Labels: , , , ,

Woooooooooooooooohoooooooooo!!

6.5.07
Mae'r cyfraniadau i'r blog wedi bod yn brin iawn yn ddiweddar, a hynny gan mod i'n chwysu pys ac yn cachu brics dros ddyfodol Wrecsam y y gynghrair bêl-droed ... wel, does dim angen poeni ddim mwy - da ni'n saff!!

Roedd prynhawn ddoe yn brynhawn llawn tensiwn, drama, pryder, gorfoledd, poen a phleser ... a tydw i byth eisiau mynd trwy'r fath beth byth eto.

Cefais i'r fraint o weithio i Radio Cymru ar y Kop brynhawn ddoe, felly roeddwn yn sefyll ar yr union fan lle roeddwn wedi treulio'r 80au hwr a'r 90au.

Yr union fan lle roeddwn wedi gweld Wrecsam yn colli yn erbyn Henffordd a Halifax cyn gorffen ar waelod gynghrair bêl-droed; yr union fath lle roeddwn i wedi dathlu dyrchafiad o dan Brian Flynn dwy flynedd yn ddiweddarach; y darn arbennig yna o'r Kop lle nes i wylio ni'n chwalu Rotherham 7-0, lle nes i ddathlu goliau Gary Bennett a chlodfori sgiliau Karl Connolly ... beth bynnag, 'da chi'n deall be' sydd gen i, yn dydach!

Roedd yr awyrgylch ar y Kop yn drydanol gyda'r lle yn orlawn a chyda pawb yn ysu am y pwynt oedd ei angen i'n cadw ni yn y gynghrair ...

... wel, roedd y lle fel y bedd pan sgoriodd Boston, a doedd y newyddion bod Macclesfield a Notts County yn gyfartal yn fawr o gysur. Roedd yn anodd tu hwnt ceisio darlledu ond dwi'n credu bod y siom yn amlwg o dôn fy llais!

Ond o mor wahanol oedd y darlledu wedi i Ryan Valentine rwydo o'r smotyn - er, weles i ddim o'r bêl yn taro'r rhwyd, doeddwn i, na chanoedd o gefnogwyr ar y Kop, methu gwylio'r gic! Roedd dagrau'n llifo i lawr fy moch pan roeddwn yn disgrifio awyrgylch y Kop i'r genedl wedi gôl Chris Llewellyn ac wrthi Nic Parry, oedd yn sylwebu ar ran Radio Cymru, ofyn am yr ymateb wedi'r drydedd gôl, wel roeddwn i'n neidio i fyny ac i lawr fel ffwl ac yn cael clamp o sws gan un o fy ffrindiau!!

Roedd yn ddiwrnod byth gofiadwy, ond plis, plis, plis, peidiwch a gadael i ni fynd trwy hynna eto ...

Labels: , , , , , ,

Gobeithio am fwy o hyn ddydd Sul ...

16.2.07

Labels: , , ,