Norwy, Y Ffindir a Latfia ... eto!
1.7.07
Unwaith eto mae'n debyg y bydd pob un o dimau Cymru allan o gwpanau Ewrop cyn i'r tymor hyd yn oedd ddechrau.
Mae'r Seintiau wedi dod allan o'r het i wynebu Ventspils yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ac er mai nid pencampwyr Latfia oedd y prif ddetholion, mi fydd yn goblyn o her i'r Seintiau gan fod y tîm o'r Baltics eisoes wedi chwarae 15 o gemau yn eu cynghrair.
Byddai'r tîm o Lansantffraid wedi gallu wynebu clybiau oedd heb ddechrau eu tymor pêl-droed - clybiau fel Pobeda o Macedonia neu FK Sarajevo o Bosnia Herzegovina, ond dydy'r un peth ddim yn wir i'n clybiau ni yng Nghwpan Uefa.
Ers i Uefa benderfynnu rhannu'r rown rhagbrofol gyntaf o Gwpan Uefa i ranbarthau gogleddol, canol/dwyrain a deheuol mae'n anorfod bod clybiau Cymru, sydd yn rhanbarth y gogledd, yn gorfod herio timau o Sgandinafia a gwledydd y Baltic sydd hanner ffordd trwy eu tymor.
Ymysg y detholion yn y rhanbarthau eraill oedd FK Vojvodina a FK Bežanija o Serbia, Maccabi Tel Aviv o Israel ac Anorthosis Famagusta ac Omonia o Gyprus - clybiau sydd, fel Y Rhyl a Chaerfyrddin, heb ddechrau eu tymhorau pêl-droed.
Dw i ddim y dweud bod herio timau o Wlad Pwyl, Serbia neu Romania yn mynd i fod yn haws na herio timau o Sweden, Y Ffindir neu Latfia, ond o leiaf byddai'r clybiau yn yr un sefyllfa o fod â diffyg ffitrwydd gemau.
Tra bod Uefa'n gwneud eu gorau glas i geisio osgoi costau teithio anferth i dimau yn y rownd gyntaf, mae clybiau Cymru'n mynd i fod o dan anfantais anferth yng nghwpanau Ewrop ... oni bai eu bod nhw'n dilyn esiampl Iwerddon a symud y tymor i'r haf ... ond cwestiw arall ydy hynny!
Labels: brann, caerfyrddin, carmarthen, champions league, fc haka, football, pêl-droed, rhyl, tns, uefa, ventspils, y seintiau newydd





