Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Bwlgaria 0-1 Cymru

25.8.07
Tymor 2007/08: Gêm #4
Roedd hi'n uffernol o boeth ar arfordir y Môr Du ar gyfer y gêm yma - roedd hi'n ddigon anodd ffeindio’r egni i godi pot peint heb sôn am redeg o gwmpas cae pêl-droed am 90 munud!

Roedd 'na siom aruthrol i'r cefnogwyr selog wrth i ni gyrraedd y maes i ddarganfod bod Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria wedi bod yn gwerthu tocynnau ar gyfer ein heisteddle ni yn y resorts gwyliau cyfagos.

O'r herwydd, roedd 'na lond lle o grysau West Ham, Aston Villa, Man City a ... gulp ... gasp ... gulp ... Lloegr!! Ia - crysau Lloegr mewn eisteddle ar gyfer cefnogwyr CYMRU - ac i wneud pethau'n waeth, roedd 'na un ffŵl dwl wedi clymu baner San Siôr i'r ffens efo fflagiau'r Cymry!

Diolch i'r drefn, roedd heddlu o Gymru allan yn Bourgas ac fe gawsom ni'r Cymry ein hebrwng i floc gwahanol o seddi ... ac fe roddodd dau o gefnogwyr Caerdydd eu Draig Goch dros ben baner San Siôr ar y ffens!

O ran y gêm, dwi'n credu bod Wayne Hennessey a Freddy Eastwood wedi dwyn y penawdau i gyd, ond mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i David Vaughan. Fe weithiodd Vaughan mor galed trwy gydol y gêm a 'dwi'n credu iddo chwarae'n well na 'dwi erioed wedi gweld o'n chwarae yng nghrys coch Cymru.

Roeddwn i'n poeni ychydig pan glywes i ei fod o'n mynd i symud i Real Sociedad gan nad oeddwn i'n meddwl fod o'n ddigon corfforol i allu ymdopi â'r gêm yn Sbaen. Ond o'r hyn weles i yn Bourgas, fe ddylai fod yn gaffaeliad i'r tîm o Donostia.

Labels: , , , , , , ,