Woooooooooooooooohoooooooooo!!
6.5.07
Mae'r cyfraniadau i'r blog wedi bod yn brin iawn yn ddiweddar, a hynny gan mod i'n chwysu pys ac yn cachu brics dros ddyfodol Wrecsam y y gynghrair bêl-droed ... wel, does dim angen poeni ddim mwy - da ni'n saff!!Roedd prynhawn ddoe yn brynhawn llawn tensiwn, drama, pryder, gorfoledd, poen a phleser ... a tydw i byth eisiau mynd trwy'r fath beth byth eto.
Cefais i'r fraint o weithio i Radio Cymru ar y Kop brynhawn ddoe, felly roeddwn yn sefyll ar yr union fan lle roeddwn wedi treulio'r 80au hwr a'r 90au.
Yr union fan lle roeddwn wedi gweld Wrecsam yn colli yn erbyn Henffordd a Halifax cyn gorffen ar waelod gynghrair bêl-droed; yr union fath lle roeddwn i wedi dathlu dyrchafiad o dan Brian Flynn dwy flynedd yn ddiweddarach; y darn arbennig yna o'r Kop lle nes i wylio ni'n chwalu Rotherham 7-0, lle nes i ddathlu goliau Gary Bennett a chlodfori sgiliau Karl Connolly ... beth bynnag, 'da chi'n deall be' sydd gen i, yn dydach!
Roedd yr awyrgylch ar y Kop yn drydanol gyda'r lle yn orlawn a chyda pawb yn ysu am y pwynt oedd ei angen i'n cadw ni yn y gynghrair ...
... wel, roedd y lle fel y bedd pan sgoriodd Boston, a doedd y newyddion bod Macclesfield a Notts County yn gyfartal yn fawr o gysur. Roedd yn anodd tu hwnt ceisio darlledu ond dwi'n credu bod y siom yn amlwg o dôn fy llais!
Ond o mor wahanol oedd y darlledu wedi i Ryan Valentine rwydo o'r smotyn - er, weles i ddim o'r bêl yn taro'r rhwyd, doeddwn i, na chanoedd o gefnogwyr ar y Kop, methu gwylio'r gic! Roedd dagrau'n llifo i lawr fy moch pan roeddwn yn disgrifio awyrgylch y Kop i'r genedl wedi gôl Chris Llewellyn ac wrthi Nic Parry, oedd yn sylwebu ar ran Radio Cymru, ofyn am yr ymateb wedi'r drydedd gôl, wel roeddwn i'n neidio i fyny ac i lawr fel ffwl ac yn cael clamp o sws gan un o fy ffrindiau!!
Roedd yn ddiwrnod byth gofiadwy, ond plis, plis, plis, peidiwch a gadael i ni fynd trwy hynna eto ...
Labels: boston, cae ras, darlledu, football, pêl-droed, radio cymru, wrecsam





