Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Mae'r cochyn yn ôl

7.4.08
Newyddion da i ni yng Nghymru sy'n ymddiddori yn y bêl gron ... mae'r blogiwr Eric the Red yn ei ôl

Labels: , , , ,

Baxter 'di'r boi

30.1.08
Mae un o'n gwrthwynebwyr ni yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010, Y ffindir, wedi datgelu mai Stuart Baxter fydd eu rheolwr newydd.

Ddim callach pwy goblyn ydi Stuart Baxter? Na finnau chwaith tan i mi ddarllen y blog gwych, Football in Finland!

Labels: , , ,

Mae mis yn amser hir ...

6.12.07
... heb gyswllt i'r we! Diolch yn fawr BT a diolch i chi am eich amynedd.
Ers i mi fod heb gyswllt i'r we mae 'na lond trol o bethau wedi digwydd.
Gemau cyfartal efo Iwerddon a'r Almaen oedd yn cynnwys trip da iawn i Frankfurt.
Yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer Cwpan y Byd 2010 a deja vu i Gymru.
Caerdydd mewn trafferthion ariannol ac yn ofni am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr
Wrecsam yn ennill ... o'r diwedd ... hwwwwreeeeeee!

O ... a 'dwi wedi cael swydd newydd hefyd ... mwy am hyn a phopeth 'dwi wedi'i grybwyll uchod yn y dyddiau nesaf ...

Labels:

Mae Eric yn ôl ...

17.2.07
... yn blogio.

I'r rhai ohonnoch sydd wedi methu rants yr unig gefnogwr Bangor a Chaerdydd o'r Felinheli, wel, mae o yn ôl!

Labels: , ,

Malcolm Allenski

24.1.07
Mae'r llun ar dudalen flaen fy mlog wedi bod yna ers y cofnod cyntaf yn ôl yn 2004, ond dim ond heno ... wedi sawl gwydr o win coch ... mae wedi fy nharo bod y plismon Azerbaijani ar y chwith (fy dde i) yn siwr o fod yn perthyn i Malcolm Allen ...

Labels: , , ,