Blimey Mr Bellamy!
15.9.07
'Does na'm llawer all unrhyw un ei ddweud am y gêm yn ebryn Slofacia, dim ond ... blimey!Mae'n rhaid dweud nad oeddwn i'n disgwyl y fath ymateb i'r golled yn eryn Yr Almaen, ond o leiaf fe brofwyd pa mor allweddol ydi Craig Bellamy i obeithion Cymru.
Roedd y capten ar dân ac mae'n rhaid dweud fod ei lygaid am gôl yn well nag erioed.
Fe brofwyd hefyd bod angen i Gymru chwarae efo dau ymosodwr yn hytrach na gadael Freddy Eastwood wedi ei ynysu ar ei ben ei hun yn y llinell flaen, a chyda Joe Ledley yng nghanol cae ac nid fel amddiffynnwr!
Yr unig beth drwg am y noson oedd fy mod i yn gwylio'r gêm yn Y Fali yn hytrach nag yn Trnava ... 'dwi'n casàu colli tripiau pêl-droed - yn enwedig pan mae'r canlyniad yn un mor arbennig!
Mwynhewch y goliau unwaith eto yma.
Labels: bellamy, cwpan cymru, football, pêl-droed, slofacia





