Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Llwyddiant yn y Wladfa

19.6.07
Mae clwb pêl-droed o'r Wladfa ar drothwy Ail Adran Cynghrair Bêl-droed Ariannin wedi iddyn nhw ennill pencampwriaeth ranbarthol y wlad.

Mae CPD Guillermo Brown wedi gorffen ar frig Torneo Argentino A, prif gynghrair rhanbarthol Ariannin ac mae nhw'n wynebu gêm ail gyfle am le yn Primera B Nacional.

Sportivo Desamparados oedd pencampwyr Primera B Metropolitana ond fe'u cafwyd yn euog o geisio trefnu gemau ac o'r herwydd, bydd Guillermo Brown yn wynebu Independiente Rivadavia yn y gemau ail gyfle.

Cafodd rhaglen Ar y Marc air efo Sion Dafis o Puerto Madryn er mwyn egluro'r sefyllfa.

Ond ers y sgwrs, mae Sportivo Desamparados wedi apelio yn erbyn eu dedfryd ac mae cryn ddryswch pwy fydd gwrthwynebwyr Brown a pa bryd fydd y gêm yn cael ei gynnal - gwyliwch y gofod yma am fwy o fanylion.

Labels: , , , , ,

"Mam, yda chi'n licio fy nhatŵ ..?"

23.1.07
Pan yn mynd i gael tatŵ o fathodyn eich hoff dîm, da chi peidiwch a mynd at datŵydd sydd yn cefnogi eu gelynion pennaf!

Dyna ddigwyddodd i fachgen ifanc yn Buenos Aires wythnos yma ...

Labels: , , , ,

Y Gosb eithaf i Tevez

29.11.06
Ymatebodd Carloz Tevez yn chwyrn i gael ei eilyddio gan West Ham ddydd Sadwrn ac yn lle aros i wylio gweddill y gêm yn erbyn Sheffield United, cafodd gawod sydyn cyn neidio i'w ddillad a gyrru adref.

Mae rheolwr yr Hammers, Alan Pardew, wedi dweud wrth gweddill y garfan mai nhw fydd yn penderfynu ar gosb Tevez felly yn ogystal â rhoi canran o'i gyflog i Ysbyty Great Ormond, mae seren ifan Ariannin yn gorfod ymarfer am bythefnos mewn crys Brasil!

Labels: , , ,