Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Be ddigwyddodd i Scarborough ...?

4.4.07
Mae 'na erthygl wych gan David Conn yn y Guardian heddiw ac fe ddylai pob ffan Arsenal, Lerpwl, Newcastle a hyd yn oed West Ham ei ddarllen.

'Dwi'n cael llond bol o deithio adref o gêm ar nos Sadwrn gan gwrando ar gefnogwyr y clybiau mawr 'ma'n cwyno ar raglen 606 am y 'drychineb' diweddaraf yn Anfield, yr Emirates neu Old Trafford ... coeliwch chi fi gefnogwyr Arsenal, tydi'r pedwerydd safle yn yr Uwchgynghrair, 16 olaf Cwpan Ewrop a chyrraedd rownd derfynol y Cwpan Carling ddim yn drychineb.

Ychydig dros dair blynedd yn ôl roedd Scarborough yn herio Chelsea yng Nghwpan FA Lloegr, ond erbyn heddiw mae nhw'n isaf ond un yn y Conference North wedi iddynt cael eu diarddel o'r Conference oherwydd problemau ariannol.

Y tymor yma, mae'r clwb wedi colli 10 pwynt - fel ddigwyddodd i Wrecsam - am iddynt fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac os na fydd pethau'n gwella ar y maes yn yr wythnosau nesaf, mae'r clwb yn debygol o fod yng Nghynghrair Unibond y tymor nesaf.

Wrth gwrs, roedd 'na adeg pan fo Scarborough, a'u rheolwr Neil Warnock yn arwyr i glybiau o tu allan i'r gynghrair - nhw oedd y clwb cyntaf i sicrhau dyrchafiad o'r Conference i'r gynghrair yn ôl ym 1987, ond gyda mwy a mwy o'r arian yn cael ei rannu rhwng llai a llai o glybiau, mae straeon fel hyn yn dod yn fwy fwy cyffredin.

Labels: , , , , ,