Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Da iawn K-ee-ardiff

7.4.08
Llongyfarchiadau mawr i Gaerdydd a'u cefnogwyr ar gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.

Fel mae llawer o ddarllenwyr y blog yma'n gwybod, mae gen i nifer fawr o ffrindiau sy'n cefnogi'r Adar Gleision a 'dwi'n hollol 'chuffed' drostyn nhw. Fel ddudodd un ohonnyn nhw wrtha'i ddoe "Di petha' ddim yn cael llawer gwell na hyn".

'Dwi ddim am sbwylio'r foment wrth gwyno'n ormodol, ond os ga'i ofyn i SKY, BBC, ITV a holl bapurau newydd Lloegr i beidio a chymysgu llwyddiant Caerdydd efo llwyddiant i Gymru mi fyddwn i'n hapus.

"It's a great day for football fans in Wales," meddai SKY ddoe. "It's been a fantastic weekend for Welsh football," meddai rhywun ar Radio Wales bore 'ma ...

... wel, tra bo fi'n cytuno'n llwyr bod hi yn gamp enfawr i Glwb Pêl-droed Caerdydd a thra bo'u rheolwr a'r tîm yn haeddu pob clod 'di hi ddim mor wych â hynny!

'Di'r Duwiau pêl-droed ddim yn gwennu ar y gornel fach yma o Gymru ar hyn o bryd. Mae Wrecsam yn wynebu dyfodol llwm iawn yn y Conference felly tra bo fi'n hapus iawn dros fy ffrindiau sy'n cefnogi Caerdydd, plis, da chi, peidiwch a choelio bod pob cefnogwr pêl-droed Cymreig yn gwenu heddiw.

'Dwi wir yn gobeithio bydd Caerdydd yn gallu ymweld â Wembley deirgwaith wrth gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle hefyd a 'dwi hefyd yn dymuno pob lwc i Abertawe'r wythnos nesa wrth iddyn nhw geisio sicrhau dyrchafiad ... ond peidiwch a chredu bod pawb yn hapus!

Mae pêl-droed yn gallu bod yn greulon iawn.

Labels: , , , ,

Dim côt na Jackett

15.2.07
Mae Kenny Jackett wedi gadael Clwb Pêl-droed Abertawe wedi bron i tair blynedd yn y swydd. Wedi llwyddo i sicrhau dyrchafiad efo'r Swans, cipiodd Abertawe Tlws y Gynghrair cyn colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle llynedd. Ond mae Jakett wedi bod o dan cryn bwysau tymor yma gyda diffyg cysondeb ym mherfformiadau'r Swans yn arwain at sawl un yn beirniadu'r rheolwr.

Felly pwy nesaf i'r Swans? Mae Denis Smith ar gael

Labels: , ,

Eire we go again ...

16.1.07
Mae Caerdydd wedi arwyddo ymosodwr Shelbourne, Jason Byrne, heddiw a hyn wythnos wedi'r clwb gwblhau trosgwlyddiad y golwr David Forde o glwb Derry City. Felly pam bo Caerdydd wedi cymryd diddordeb yng Nghynghrair Eircom erbyn hyn a pham nad ydynt yn sgowtio Uwchgynghrair Cymru am chwaraewyr?

Pam fo cymaint o chwaraewyr Uwchgynghrair Cymru wedi mynd i chwarae yng nghynghrair Lloegr gyda clybiau Seisnig? Lle oedd Caerdydd, Abertawe a Wrecsam i arwyddo'r chwaraewyr yma, chwaraewyr fel Alan Goodall (Rochdale), Glyn Garner (Leyton Orient) neu Eifion Williams (Hartlepool)?

Chwaraeodd Gary Roberts i Fangor a'r Trallwng ond roedd angen iddo symud i Accrington cyn i glwb yn y Bencampwriaeth gymryd sylw ohonno. Yn yr un modd, bu rhaid i Adebayo Akinfenwa symud i Torquay via Boston cyn i'r Swans ei arwyddo, er ei fod wedi treulio amser ar i lawr yr M4 ar Barc Jenner, ac roedd Forde hefyd gyda'r Barri cyn iddo symud i Iwerddon.

Pam nad oes unrhyw un o'r tri clwb Cymreig wedi bod yn edrych ar Jacob Mingorance yn Llanelli neu Adam Dickinson o Gei Connah ac rwy'n siwr byddai unrhyw un o'r tri wedi gallu gwneud efo sgoriwr goliau fel Marc Lloyd-Williams pan oedd Jiws yn ei anterth.

Labels: , , , , , ,

Notts County yw'r clwb gwaethaf

10.1.07
Yn ôl cwmni Littlewoods, Notts County ydi'r tîm pêl-droed gwaethaf i'w gefnogi. Mae'r arolwg yn ystyried ffactorau fel diswyddo rheolwyr, methu sicrhau dyrchafiad, colli mewn rowndiau terfynol o gwpanau, colli gemau cartref yn rheolaidd ayyb

Mae Abertawe yn rif 26 ar y rhestr, yn bennaf oherwydd eu bod wedi bod mor agos i fynd allan o'r gynghrair yn 2003 ac yna colli yn y gemau ail gyfle tymor diwethaf.
Mae Wrecsam yn rhif 32 ar y rhestr, mwy na thebyg oherwydd bod yn nwylo'r gweinyddwyr a cholli 10 pwynt llynedd, tra bo cefnogwyr Caerdydd yn ddigon hapus yn rif 52.

Labels: , , , ,