Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Mae nhw Philly credu'r peth!

28.2.08
Daeth cyhoeddiad heddiw mai Philadelphia fydd y tîm nesaf i ymuno â'r MLS pan fydd y gynghrair yn ehangu yn 2010.

Ond be' sy'n wych am dîm Philly ydi bod na grŵp brwd o gefnogwyr eisoes yn mynychu gemau MLS ... hyd yn oed cyn iddyn nhw gael tîm! Mae stori'r Sons of Ben yn arbennig!

Labels: , , , ,

"In the cup for Tottingham"

25.2.08
Llongyfarchiadau i Tottingham Hotshots ar eu buddugoliaeth yng Nghwpan Carling. Mae'n hen bryd i Spurs ennill cwpan o unrhyw fath ... yn enwedig os ydyn nhw yn mynd i ystyried eu hunain yn 'glwb mawr'!

Bechod na chafwyd record i ddathlu'r achlysur!

Labels: , , , , , , , , ,

Dim ond un tîm yng Nghaerdydd ...?

22.2.08
Oeddech chi'n gwybod fod CPD Caerdydd yn rownd yr wyth olaf o Gwpan FA Lloegr? Oedd? Yn erbyn Leeds United ...?
"Naci wir, Sheffield United neu Middlesbrough maen nhw'n chwarae," medde chi ... wel, ia, tîm y dynion, ond 'does 'na fawr o sylw wedi bod i dîm Merched Caerdydd sydd hefyd yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr.

Bydd y merched, sydd yn gorfod chwarae yng Nghwmbrân a'r Barri gan fod Stadiwm Leckwith wedi ei ddymchwel, yn herio Leeds United am le yn y rownd gynderfynol y penwythnos yma.

Ffurfiwyd y clwb ym 1975 fel Clwb Pêl-droed Merched Llanedeyrn ac er eu bod wedi creu cysylltiadau â chlwb Inter Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Caerdydd dros y blynyddoedd, maen nhw’n glwb gwbl annibynnol.

Mae eu record yng Nghwpan Cymru yn un arbennig. 'Di'r clwb heb golli ers pedwar tymor ac fel deiliaid y gystadleuaeth maen nhw wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Uefa.

Bydd 'na uchafbwyntiau o'r gêm ar Sgorio Nos Fawrth nesaf.

Labels: , , ,

Fortress Ffordd Farrar

20.2.08
Mae'r wythnosau diwethaf wedi gwibio heibio ond 'dwi'n addo cyfraniadau mwy rheolaidd o hyn allan ... ia, 'dwi'n gwybod bo fi 'di dweud hynny sawl tro o'r blaen!

Beth bynnag, bues i'n Fortress Fordd Farrar - fel mae Gwyn Pierce Owen yn galw'r lle - brynhawn Sadwrn er mwyn gwylio Bangor v Llanelli.

Roedd hi'n hynod o braf gweld torf dda yno ar gyfer un o gemau mwyaf deniadol y tymor. Dyma'r math o gemau y dylai'r rhai sydd yn lladd ar y gynghrair ddod i'w gweld ... dau glwb 'go iawn', dau dîm da gyda dau reolwr sy'n hoffi 'chwarae pêl-droed.

Roedd Llanelli wedi llwyr reoli'r hanner cyntaf a phetai'r arch sgoriwr, Rhys Griffiths, yn holliach, mi fyddai'r Cochion wedi ennill y gêm erbyn yr egwyl.

Ond, chwarae teg i Fangor, er iddyn nhw ildio gôl gynnar ar ddechrau'r ail hanner, fe frwydron nhw yn ôl efo gôl gampus gan Ashley Stott ac fe allen nhw fod wedi cipio'r triphwynt wrth i Les Davies daro'r postyn yn yr eiliadau olaf!



Roeddwn i wedi gobeithio cwblhau penwythnos o bêl-droed Cymreig wrth wylio'r Rhyl yn erbyn TNS brynhawn Sul, ond roedd y dyfarnwr yn anhapus efo'r maes ar y Belle Vue ac fe'i gohiriwyd.

Mae'n bechod garw a dweud y gwir gan fod 'na dorf sylweddol yn debygol o fod yno. Roeddwn i wedi cyrraedd y maes tua thri chwarter awr cyn y gic gyntaf ac roedd na chryn dipyn o gefnogwyr yno yn barod, ac wrth i mi adael y maes parcio roedd na lwyth o bobl yn dal i gerdded tuag at Belle Vue.

'Doedd swyddogion Y Rhyl ddim i'w gweld yn hapus iawn o weld y gêm yn cael ei gohirio, yn enwedig o glywed mai tîm gymharol wan oedd gan y pencampwyr - roedd 'na wên enfawr ar wyneb Ken McKenna wrth iddo adael y maes parcio - a 'dwi'n siwr byddai torf sylweddol wedi bod yn hwb i goffrau'r clwb hefyd.

Labels: , , , , ,

Cymru v Norwy

11.2.08
'Dwi heb gael cyfle i flogio am fuddugoliaeth gwych Cymru yn erbyn Norwy yr wythnos diwethaf gan fy mod i'n hynod o brysur yn y gwaith, ond dyma fy lluniau o'r noson ar Y Cae Ras.

Labels: , , , ,

Adi Dassler ... athrylith!

9.2.08
Pêl-droed a ffasiwn y terasau ... mae'r fideo yma'n wych!

Labels: , , ,

Gormod o gemau oddi cartref?

7.2.08
Tystiolaeth - os oedd angen fwya' erioed - fod Uwchgynghrair Lloegr a'i chlybiau wedi diflannu i fyny eu tinnau eu hunain!

Labels: ,

6 Chwefror 1958

6.2.08
Mae hi'n 50 mlynedd heddiw ers y ddamwain awyren ym Munich laddodd wyth o chwaraewr Manchester United.

Wrth gwrs, mae pawb yn ymwybodol o'r stori. Roedd yr awyren oedd yn cludo'r tîm yn ôl o Belgrade wedi glanio ym Munich er mwyn cael mwy o betrol ac ar noson ddychrynllyd o oer, methodd yr awyren a chodi i'r awyr ac fe darodd adeilad ar ddiwedd y llain lanio gan dorri'n ddau.

Bu farw saith o'r chwaraewyr ar y llain lanio - Roger Byrne, Geoff Bent, Eddie Colman, Mark Jones, David Pegg, Tommy Taylor a Liam Whelan tra bu Duncan Edwards farw pythefnos yn ddiweddarach mewn ysbyty ym Munich.

Yn ogystal â'r chwaraewyr, bu farw dau o'r tîm hyfforddi, Bert Whalley a Tom Curry, ysgrifennydd y clwb, Walter Crickmer, ynghyd â dau aelod o'r criw, Captain Kenneth Rayment a Tom Cable, wyth newyddiadurwr - Alf Clarke (Manchester Evening Chronicle), Don Davies (Manchester Guardian), George Follows (Daily Herald), Tom Jackson (Manchester Evening News), Archie Ledbrooke (Daily Mirror), Henry Rose (Daily Express), Eric Thompson (Daily Mail) a Frank Swift (News of the World) oedd hefyd yn cyn golwr â chlwb Manchester City, Bela Miklos, oedd yn asiant teithio i'r clwb a Willie Satinoff, cefnogwr a ffrind agos i Matt Busby.

Fel yr eglurai Richard Williams yn ei golofn yn y Guardian, fe ddigwyddodd trychineb Munich mewn oes lle nad oedd 'na deledu 24 awr na chyfathrebu trwy loeren ac roedd pawb yn crafu am newyddion o'r Almaen.

Mae hi'n anodd credu erbyn heddiw, yn oes y rhyngrwyd ac e-bost, cymaint oedd rhywun yn dibynnu ar bapur newydd am eu newyddion.

Cefais i'r fraint o ymweld ag Old Trafford yr wythnos yma er mwyn ffilmio eitem ar gyfer rhaglen Sgorio ac er nad ydw i'n gefnogwr Manchester United, mae hi'n anodd iawn peidio cael eich cyffwrdd gan dristwch y trychineb.

Yn amgueddfa'r clwb mae 'na ystafell arbennig yn cofio'r digwyddiad gyda lluniau, crysau a chapiau'r chwaraewyr bu farw, papurau newydd o'r cyfnod yn ogystal â llu o deyrngedau gan glybiau, chwaraewyr a phobl gyffredin led led Lloegr, Prydain a'r byd.

Ond mae 'na nodyn sur i'r cofio 'ma hefyd. Mae 'na boster anferth yn cofio'r Busby Babes tu allan i Old Trafford, ac mae'r poster wedi ei noddi gan AIG - noddwyr y clwb! Gallwch brynu crys steil 1958 'arbennig' i gofio'r trychineb - dim ond £49.99 ...

.. gwneud elw ar draul popeth?

Labels: , ,

Canlyniad bendigedig!

3.2.08
Y tîm Seisnig oedd y ffefrynau, wedi'r cwbwl, roedd y Cymry wedi bod yn drychinebus yn ddiweddar ac er fod y cefnogwyr yn gobeithio am fuddugoliaeth, crasfa i'r tîm mewn coch oedd y farn realistig.

Ond gyda'r rheolwr newydd yn ysbrydoli'r garfan fe lwyddodd y Cochion i greu sioc anferth a threchu'r Saeson 2-0 ... ia, 2-0!

Roedd Darlington yn ail yn yr adran ond fe lwyddodd Wrecsam i llwyr reoli'r gêm ac yn dilyn y canlyniad arbennig yma, mae'r Dreigiau wedi codi oddi ar waelod yr adran.

Wooooohooooooooo!

Labels: ,