Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Llygaid fy lle am Llangefni ...

31.1.08
Roedd y sibrydion roeddwn i wedi glywed yn gywir felly ... roedd Llangefni yn anhapus efo'r nifer o Sgowsars oedd yn dod i'r clwb a dyna pam gafodd Alex Kevan yr 'heave-ho'

Dyma ymateb y clwb ar eu gwefan swyddogol:
There were imminent, more new arrivals this week, which would have compounded the problem, causing a further exodus of players before 31st January, which would have left the club with the majority of players coming from out of Wales and a push to train away from the area.

As a local Welsh club, supported by local supporters and using where-ever possible local (North Wales) based players, this was a situation that could not go on.


Cawn weld ar ddiwedd y tymor os oedd y penderfyniad yma yn un cywir, ond mae'n rhaid clodfori Cefni am wneud y fath safiad a 'dwi'n gobeithio bydd y bobl leol yn mynd draw i Gae Bob Parry i ddangos eu cefnogaeth.

Mae 'na ormod o gwyno yng ngogledd Cymru am Sgowsars yn cael eu talu i chwarae i'n clybiau ni ... wel dyma glwb sydd wedi gwrthod gwneud hynny, felly dewch allan a'u cefnogi!

Labels: , ,

Franchise FC ... a pham na ddylid eu cefnogi

30.1.08

'Dwi wedi sylwi'n ddiweddar fod 'na nifer o straeon wedi ymddangos yn y wasg yn canu clodydd Milton Keynes Dons, neu Franchise FC.

Wrth gwrs, mae'r ffaith eu bod nhw ar frig Adran Dau, wedi symud i stadiwm newydd ac efo rheolwr go enwog yn Paul Ince yn helpu, ond mae 'na dinc eithaf afiach yn yr erthyglau 'ma sydd yn rhoi rhyw fath o hygrededd i'r clwb.

Os nad ych chi'n ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd, mae 'na erthygl ddifyr tu hwnt ar safle Pitch Invasion.

Digon yw dweud fod gŵr busnes o'r enw Peter Winkelman wedi llwyddo i ddwyn perswâd ar Gymdeithas Bêl-droed Lloegr i ail leoli Clwb Pêl-droed Wimbledon o Lundain i Milton Keynes.

Roedd caniatáu’r fath beth yn wrthyn i gefnogwyr pêl-droed, roedd yn ddigon drwg fod y Dons wedi gweld eu cartref ym mwrdeistref Merton, Plough Lane, yn cael ei werthu i gwmni archfarchnad gan eu cadeirydd, Sam Hammam (ia ... fo) heb i Hammam sicrhau maes newydd i'r Dons.

Roedd cefnogwyr Wimbledon yn ymgyrchu i symud o'u cartref dros dro yn Selhurst Park yn ôl i Merton, ond roedd gan Winkleman weledigaeth arall ac o'r herwydd ffurfiwyd AFC Wimbledon - clwb sy'n berchen i'r cefnogwyr a chlwb sy'n esiampl arbennig o'r hyn y gall gefnogwyr pêl-droed ei wneud.

Roedd y Ffederasiwn o Gefnogwyr Pêl-droed wedi galw am foicot o gemau Milton Keynes ac mae nifer fawr o gefnogwyr yn gwrthod ymweld â'u maes nhw hyd heddiw ond fel cyfaddawd i'r FSF, cafodd holl femorabilia Wimbledon o ddyddiau'r Crazy Gang, Cwpan FA a'r Uwchgynghrair ei ddychwelyd i Gyngor Merton yn ystod yr haf wrth i'r clwb newydd dorri pob cysylltiad efo'r Wimbledon gwreiddiol.

A 'dwi'n siŵr bod Winkleman ar ryw fath o charm offensive eleni gydag adroddiadau fel yr un yma yn ymddangos yn fwy rheolaidd.

Ond peidiwch da chi a chredu'r heip - clwb smal ydi Milton Keynes - clwb sydd wedi dwyn lle clwb arall yn y gynghrair. Ni ddylid eu cefnogi na'u parchu gan nad oes unrhyw le i'r math yma o beth ym mhêl-droed ynysoedd Prydain.

Labels: , , , ,

Cefni yn cefnu ar Kevan

Mae Llangefni wedi diswyddo eu rheolwr, Alex Kevan, mis yn unig ar ôl ei benodi'n olynydd i Adie Jones.

Dim ond un buddugoliaeth mae'r Monwysion wedi sicrhau ers i Kevan gymryd yr awenau cyn y Nadolig ac mae'r clwb yn parhau i fod ar waelod y gynghrair.

Mae hi'n gynnar iawn i feddwl bod nhw'n mynd i ddisgyn yn ôl i'r Cymru Alliance ond mae'r sibrydion dros sacio'r giaffar wedi dechrau'n barod.

Fel Mulder a Scully, 'dwi 'di bod yn gwrando ar y straeon sydd ar led ar yr ynys pnawn 'ma a'r theori mwyaf poblogaidd 'dwi 'di glywed ydi bod Kevan yn ceisio llenwi'r tîm efo 'Sgowsars' a bod yr hogia lleol yn anhapus ...

... 'does na'm gronyn o dystiolaeth i'r si yma, ond mae safle we Llangefni yn addo datganiad i ni yfory.

30th January 2008

As has been reported in the press and various web sites the club today parted ways with manager Alex Kevan.

A report into the reasons behind this will be posted tomorrow.

In the meantime the club wish Alex and his assistant Phil Boersma well for the future and to thank them for their efforts whilst with the club.


'Dwi'n edrych ymlaen yn barod!

Labels: , ,

Baxter 'di'r boi

Mae un o'n gwrthwynebwyr ni yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010, Y ffindir, wedi datgelu mai Stuart Baxter fydd eu rheolwr newydd.

Ddim callach pwy goblyn ydi Stuart Baxter? Na finnau chwaith tan i mi ddarllen y blog gwych, Football in Finland!

Labels: , , ,

Pedwar allan o chwech ..

27.1.08
Wel, 'sa chi 'di gofyn i mi pythefnos yn ôl petawn i wedi bod yn hapus efo pedwar pwynt o'r ddwy gêm yn erbyn MK Dons a Bradford, 'swn i 'di bod yn ecstatic!

Felly, er gwaetha'r ffaith ein bod ni wedi ildio gôl o fantais yn erbyn y Bantams ddoe, mae'n rhaid cadw'r ffyd ac edrych ar y pethau positif.

Roedd y tîm yn brwydro'n galed am y 90 munud a chyda Carl Tremarco a Simon Spender yn edrych yn hynod o gyfforddus yn yr amddiffyn, mae'r hyder wedi llifo'n ôl trwy wythienau Steve Evans a Richard Hope.

Mae hi'n amlwg bod y gallu gan Jeff Whitley i chwarae ar lefel llawer uwch na hyn, ac mae ei brofiad a'i allu yn gaffaeliad i ni yng nghanol cae.

Ond er mwyn parhau i fod yn ffyddiog mae hi'n holl bwysig ein bod ni'n ennill yn Morecambe nos Fawrth er mwyn ceisio codi oddi ar y gwaelod ...

... croeswch eich bysedd!

Labels: ,

Cwis Cenhedloedd Affrica

24.1.08
Dwn i ddim faint ohonoch chi sy'n dal i ddarllen y sgribls achlysurol yma, ond i'r rhai sydd dal allan yna dyma gwis bach i chi.
Pa wledydd yng Nghwpan Cenhedloedd Affrica sy'n cael eu hadnabod fel:

1. The Black Antelopes,
2. The Squirrels
3. The Pharaohs
4. The Black Stars
5. The Brave Warriors
6. The Copper Bullets
7. The Elephants
8. The Eagles
9. The Atlas Lions
10. The Super Eagles

Labels: , , ,

Gemau ail gyfe ... here we come!

20.1.08
Roedd yn ganlyniad gwbl annisgwyl ... ond eto, un roedd llwyth o bobl wedi ei ddarogan. Ia, 'dwi'n gwybod nad ydi hynny'n gwneud unrhyw synnwyr.

Rhywsut neu'i gilydd roedden ni wir yn credu y bydde ni'n gallu maeddu Milton Keynes er gwaetha'r ffaith eu bod nhw ar y brig a bod ni ar y gwaelod!

Gyda chwech o'r Magnificent Seven newydd: Danny Sonner, Paul Hall, Gavin Ward, Phil Bolland, Carl Tremarco a Stuart Nicholson yn chwarae, roedd fel gwylio tîm gwbl newydd.

Roedd y dorf yn chwarae eu rhan hefyd gyda'r Deuddegfed Dyn yn chwarae eu rhan yn llwyr. Yn wir, roedd hi'n braf cael bod yn gefnogwr Wrecsam ddoe, a 'dwi heb ddweud hynny ers oesoedd!

Labels: , ,

Cefnogwyr Ghana


Ghanaian Fans
Originally uploaded by StewieD

Gyda Chwpan Cenhedloedd Affrica yn dechrau yn Ghana heddiw, roeddwn i'n meddwl y byddai hi'n briodl i ddechrau'r diwrnod efo llun o'u cefnogwyr yn dathlu.

Daw'r llun yma o'u hymgyrch yng Nghwpan y Byd 2006 a chynhaliwyd yn Yr Almaen.

Arwr efo'r Ancients

18.1.08
Gall Blogdroed ddatgelu'n ecsgliwsif (wel, 'di o ddim unrhyw le arall ar y we eto beth bynnag!) fod Karl Connolly wedi arwyddo i'r Derwyddon.

King Karl ydi un o'n hoff chwaraewyr i erioed, fel nes i ddatgelu ar bodlediad Ar y Marc rhai wythnosau yn ôl, a 'dwi'n hollol, hollol ecseited i'w weld o'n chwarae unwaith eto!

Labels: , , ,

Awê i 2010

10.1.08
Mae'r gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2010 wedi eu trefnu heddiw ac mae'n rhaid i mi ddweud, 'dwi'n reit fodlon efo'r trefn.

Yn wahanol i gemau Ewro 2008 mae gan Gymru gemau gymharol hawdd - Azerbaijan a Liechtenstein gartref - cyn y gemau anoddaf - Rwsia a'r Almaen oddi cartref. Fe ddylai hyn olygu bod y tîm yn teithio gyda buddugoliaeth a hwb i'r hyder.

Gemau Grŵp 4:

6 Medi 2008:
Cymru v Azerbaijan
Liechtenstein v Yr Almaen

10 Medi 2008:
Azerbaijan v Liechtenstein
Rwsia v Cymru
Y Ffindir v Yr Almaen,

11 Hydref 2008:
Cymru v Liechtenstein
Y Ffindir v Azerbaijan
Yr Almaen v Rwsia,

15 Hydref 2008:
Rwsia v Y Ffindir
Yr Almaen v Cymru

28 Mawrth 2009
Cymru v Y Ffindir
Rwsia v Azerbaijan
Yr Almaen v Liechtenstein

1 Ebrill 2009:
Cymru v Yr Almaen
Liechtenstein v Rwsia

6 Mehefin 2009:
Azerbaijan v Cymru
Y Ffindir v Lichtenstein

10 Mehefin 2009:
Y Ffindir v Rwsia

19 Awst 2009:
Azerbaijan v Yr Almaen

5 Medi 2009:
Azerbaijan v Y Ffindir
Rwsia v Liechtenstein

9 Medi 2009:
Cymru v Rwsia
Liechtenstein v Y Ffindir
Yr Almaen v Azerbaijan

10 Hydref 2009:
Rwsia v Yr Almaen
Liechtenstein v Azerbaijan
Y Ffindir v Cymru

14 Hydref 2009:
Azerbaijan v Rwsia
Liechtenstein v Cymru
Yr Almaen v Y Ffindir


Ac mae gan pawb flwyddyn i gynilo cyn mynd i Azerbaijan ...!

Labels: , ,

Euskal Herria v Catalunya

8.1.08
Dros yr ŵyl fe chwaraeodd 'gwledydd' Sbaen eu gemau cyfeillgar arferol ond roedd 'na gêm fwy na'r arfer yn Bilbao ar ddiwedd mis Rhagfyr.

Mae nifer fawr o gefnogwyr Cymru yn ymwybodol iawn fod 'na groeso cynnes iawn i'w gael yn Bilbao pan fo Gwlad y Basg yn chwarae yn La Catedral a dros yr ŵyl, gyda Chatalonia yn ymweld â'r San Mamés, roedd y croeso yn gynhesach na'r arfer.

Daeth y ddau dîm i'r maes gyda'i gilydd gan arddangos baner fawr oedd yn cyhoeddi fod y ddwy genedl yn rhannu'r un freuddwyd, sef bod yn aelodau llawn o Fifa a chael chwarae gemau rhyngwladol 'go iawn'.

Parhaodd y brawdgarwch a'r cyfeillgarwch yn yr eisteddle wrth i'r cefnogwyr gymysgu a chyfnewid crysau a baneri ac, yn ôl Gabriele Marcotti yn y Times heddiw, roedd 'na ddigon o ladd ar y famwlad hefyd.

Spanish flags were ripped to shreds, Catalan and Basque footballers who opted out were insulted and there were all sorts of seditious and sesessional chants.

Mae hyn yn profi, wrth gwrs, fod 'na llawer mwy i'r gêm yma na phêl-droed ... ond 'dwi'n credu fod na dinc o fychanu yn erthygl Mr Marcotti.

Beth bynnag am y gwleidyddiaeth roedd y gêm yn werth ei gwylio yn dilyn un symudiad athrylithgar arweiniodd at gôl Aritz Aduriz ... ac mae modd gweld y gôl yna ar Sgorio heno am 2200GMT ar S4C.

Labels: , , , , , , , ,

16 mlynedd yn ôl i heddiw ...

4.1.08

Labels: , , , , , ,

Blwyddyn Newydd Dda

1.1.08
Blwyddyn newydd dda i ddarllenwyr Blogdroed!
'Dwi wedi bod tipyn bach yn esgeulus o'r blog 'ma yn ddiweddar gan fy mod i wedi bod mor brysur yn y byd go iawn 'lly, ond 'dwi'n addo dychwelyd i'r hen drefn o gofnod pob dyd yn y flwyddyn newydd 'ma!
Mae 'na cryn sôn wedi bod yn ddiweddar am gyflwyno egwyl dros yr wyl i bêl-droed ar Ynysoedd Prydain - rhywbeth tebyg i'r hyn sy'n digwydd yn Yr Almaen a Sbaen.
Ond mi fyddai hynny'n bechod garw. Mae'r traddodiad o fynd i gêm bêl-droed ar Ŵyl San Steffan a dydd Calan yn un o'r pethau gorau am y gaeaf! Sawl tro 'dwi wedi deffro ar ddydd Calan efo 'cur pen' a llusgo fy hyn allan o'r gwely ac allan i weld gêm bêl-droed a chwrdd â ffrindiau 'dwi heb weld ers yr un adeg llynedd!
'Dwi ddim am fynd i Saltergate i wylio Wrecsam heddiw, 'dwi am fynd i'r Oval i wylio Caernarfon v Bangor - gêm sydd yn prysur ddod yn draddodiad dros yr ŵyl diolch i synnwyr cyffredin Uwchgynghrair Cymru sydd wedi trefnu gemau derby ar y dyddiau yma.

Felly'r adduned cyntaf ydi mwy o flogio a'r ail ydi mwy o bêl-droed!