Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Dim lwc i Docker

29.10.07
Doedd na'm lwc i chwaraewr Porthmadog, Adam Docker, wedi iddo ymuno â charfan Pacistan am y tro cyntaf erioed ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Roedd Pacistan yn wynebu Iraq yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2012 ac wedi colli 7-0 y cymal cyntaf yn Lahore, roedd 'na fynydd o dasg yn eu wynebu yn yr ail gymal.

Er hynny, cafwyd perfformiad gwych yn yr ail gymal yn Aleppo, Syria. Llwyddodd Pacistan i sicrhau gêm gyfartal di sgôr yn erbyn pencampwyr Asia ac er na lwyddodd i ennill ei gap cyntaf roedd Docker - neu Adam Karim fel yr adnabyddir ef ym Mhacistan - ar y fainc.

Felly, tra bo Cymru eto i ddarganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2012, mae Pacistan yngyd â gwledydd fel Vietnam, Dwyrain Timor, Yemen ac Afghanistan eisoes allan o'r gystadleuaeth!

Labels: , , , ,

Gwarthus, gwarthus, gwarthus

15.10.07
'Dwi wir ddim yn siwr beth i'w feddwl.

Wedi chwalu Slofacia 5-2 yn Trnava, roedd pawb ar ben eu digon wrth deithio i Cyprus - rheolwr, chwaraewyr, cefnogwyr, y wasg ... pawb!

Ond roedd y performiad yn gwbwl warthus. Hyd yn oed pan oedden ni ar y blaen 1-0 roedd pawb yn gallu gweld mai matr o amser fyddai hi cyn i Gyprus sgorio.

'Does wybod beth sydd wedi mynd o'i le, ond roedd y gwendidau'n amlwg unwaith eto yn San Marino wrth i Gymru chwyso a chwythu wrth geisio curo tîm gwaethaf Ewrop.

Roedd 'na llu o sibrydion yn San Marino ynghylch pam fod pethau'n mynd o le a pham fo chwaraewyr yn anhapus a phwy sydd yn achosi'r drwgdeimlad ymysg y garfan.

Ond y gwir amdani ydi bod pob un wan jac o'r cefnogwyr sy'n talu pres mawr i deithio oddi cartref yn anhapus efo'r diffyg awch a'r diffyg parch sydd yn cael ei ddangos yn y crys coch.

Dim ond Craig Bellamy sydd i'w weld yn torri ei fol i chwarae dros Gymru ... dim ond Craig Bellamy sydd i'w weld â pharch yn y crys coch enwog.

Mae hynny'n anfaddeuol ...

Labels: , ,

Dinamo

11.10.07
Mae unrhyw un sydd yn fy adnabod yn gwybod fod gen i bach o obsesiwn efo dwyrain Ewrop.

'Dwi'n meddwl fod y garwriaeth wedi dechrau efo'r enwau ecsotig fel Dinamo Tbilisi, Red Star Belgrade neu Torpedo Moscow oedd i'w clywed ar Sportsnight efo Harry carpenter yn y 1970au.

Ac er fod Dwyrain yr Almaen, Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd yn gymharol agos i Gymru yn ddaearyddol, 'sa wath i sylwebaeth Huw Johns neu Alan Weekes fod wedi dod o'r lleuad, hynny o gyfle oedd gan fachgen bach o Sir Fôn o ymweld â'r gwledydd 'ma oedd tu ôl i'r Llen Haearn.

Ond ymweld â nhw 'dwi wedi wneud ac mae'r obsesiwn yn parhau er mod i wedi sylwi nad ydi pob tîm o'r Wcrain yn 'crack outfit' nac ychwaith fod timau'r Undeb Sofietaidd i gyd yn 'red machines'.

Ond mae 'na reswm pam fod cymaint o dimau efo'r enw Dynamo, neu Dinamo, yn yr hen Undeb Sofietaidd a gweldydd Pact Warsaw.

Dinamo oedd yr enw a roddir ar glybiau chwaraeon y wladwriaeth oeddn o dan reolaeth yr heddlu gwleidyddol Sofietiadd, neu'r GPU - rhagflaenydd y KGB, NKVD a'r MVD.

Roedd gan bron pob dinas fawr yn yr Undeb Sofietaiddd glwb efo'r enw Dinamo gyda'r enwocaf yn dod o'r brifddinas ei hun. Llwyddodd Dinamo Moscow i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1972 cyn colli yn erbyn Rangers - y perfformiad gorau gan glwb o'r Undeb Sofietaidd yn Ewrop.

Ond roedd na fisdimanars hefyd wrth i'r heddlu cudd geisio sicrhau mai ei tîm nhw oedd yn cael y chwaraewyr gorau.

Eduard Streltsov oedd chwaraewr gorau ei genhedlaeth, yn wir, roedd yn cael ei adnabod fel Pelé Rwsia wrth iddo rwydo dros 100 o goliau mewn 222 ymddangosiad i'w glwb, Torpedo Moscow.

Rhwydodd 25 o goliau mewn 38 ymddangoiad i'r Undeb Sofietaidd ac oedd yn allweddol wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1958.

Cyn gadael am Sweden cafodd Streltsov orchymyn i adael Torpedo - clwb cwmni ceir Zil - ac ymuno efo clwb y KGB, Dinamo Moscow.

Gwrthododd Streltsov ymuno â Dinamo ac o'r herwydd cafodd ei wahardd rhag chwarae i'r tîm cenedlaethol. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, cafodd ei gyhuddo o dreisio merch a chafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o waith yn y Gulag.

Ym 1966 roedd y Stasi, heddlu cudd Dwyrain Yr Almaen, am weld tîm cryf yn y brfddinas, Berlin, felly fe orfodwyd chwaraewyr Dinamo Dresden i gyd i adael y clwb ac ymuno efo Dinamo Berlin!

Gyda llaw, y clwb cyntaf i Dinamo Berlin wynebu yn Ewrop oedd Caerdydd. Yr Almanewyr oed yn fuddugol yn rownd gyntaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1971/72 ar giciau o'r smotyn wedi dwy gêm gyfartal 1-1.

Labels: , , , , ,

Locsyn, barf a blewiach

10.10.07
Wrth wylio Wrecsam yn erbyn Accrington Stanley nos Wener diwethaf, roedd 'na drafodaeth reit ddwys ymysg ein grwp bach ni o gefnogwyr ynghylch locsyn newydd Michael Proctor.

Na, 'di pêl-droed Wrecsam ddim mor ddiflas a hynny ... ond roedd pawb yn gyntun nad ydy dyn yn gweld locsyn mor amal a hynny yn y byd pêl-droed y dyddiau yma.

Wrth gwrs, roedd 'na lond dwrn o enwau yn dod i fyny wrth feddwl am chwaraewyr barfog ... er nath neb enwi Socrates, a dim ond ar ôl gweld ei lun ar flog twohundredpercent nes i gofio am ei farf a dweud y gwir!

Ricky Villa oedd yr enw cyntaf ar restr pawb a chan ein bod ni'n gefnogwyr Wrecsam, roedd Billy Ashcroft yno hefyd.

Cafodd Trevor Hockey, y Cymro cyntaf i gael ei hel o'r maes tra'n chwarae dros Gymru, ambell i bleidlais hefyd, ond pwy arall sydd yna? Peter Withe a Garry Birtles ella?

Mae'n rhaid bod na fwy o bêl-droedwyr efo locsyn o gwmpas ... oes?

Labels: , , ,

Be goblyn 'di'r crys na?

4.10.07
Mae twohundredpercent, un o fy hoff flogwyr ar y we, wedi bod yn creu rhestrau yn ddiweddar [pam fo cefnogwyr pêl-droed yn mwynhau llunio cymaint o restrau?!] ac un o'r rhestrau sydd wedi dal fy llygaid i oedd yr un am y crysau pêl-droed gwaethaf erioed.

Mae'r dewis bron yn ddiddiwedd ers i glybiau ddechrau defnyddio ail, trydydd a hyd yn oed pedwerydd crys, ond mae 'na ddewis go eang ymysg crysau rhyngwladol Cymru hefyd.

Felly dyma fwrw ati i ddewis y crysau hyllaf erioed i gael eu gwisgo gan ein tîm pêl-droed cenedlaethol.


5.
Dewis dadleuol efallai, ond tra bo'r fersiwn coch o'r crys yma ymysg y crysau pêl-droed gorau erioed, mae'r fersiwn melyn yn erchyll. Dydi'r streipen coch a gwyrdd ddim yn edrych yn iawn ac mae pawb yn gwybod mai golwyr sy'n gwisgo crysau melyn rhyngwladol, nid chwaraewyr!




4.
Cafodd y crys erchyll yma ei ddylunio fel teyrnged i John Charles yn ôl pob sôn ... wel, sori, ond 'doedd o'm yn llawer o deyrnged nagoedd? Mae'r streipen wen ar grys du i fod i gynrychioli Juventus gyda'r streipen goch yn cynrychioli Cymru ... hmmmm, swnio fel nonsens marchnata i mi!




3.
Yn ystod teyrnasiad Bobby Gould fe benderfynodd Lotto nad oedd ein perfformiadau ni'n ddigon chwerthinllyd ar y maes, ac o'r herwydd bu rhaid i'r chwaraewyr wisgo crys oedd yn debycach i'r hyn fyddai Leighton Rees yn ei wisgo!




2.
Cwmni Lotto sydd yn gyfrifol am y crys nesa' 'ma hefyd. 'Does wybod beth ar y ddaear oedd yn mynd trwy feddwl y dylunydd y bore cafodd hwn ei greu. Streips fertigol, diemwntau, tua phedwar gwahanol liw gwyrdd ... mam bach!




1.
'Dwi ddim yn meddwl bod angen dweud dim byd nagoes! Petrol ydi lliw'r crys yn ôl Umbro, ond 'dwn i ddim beth oedd ar eu pennau nhw efo'r holl sgwigls 'na ... ond y peth gwaethaf am y crys yma ydi bo' fi wedi prynu un!

Labels: , , ,

Idiot!

... 'does na'm gair arall i ddisgrifio'r pen bach yma aeth ar y cae yn Celtic Park nos Fercher.

Labels: , , , , , ,

Penblwydd Hapus!

Mae'r cefnogwr pybyr yma o dîm pêl-droed Cymru'n 40 heddiw ...

... hen bryd iddo gallio felly!

Labels: ,