Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Gêm i ferched?

27.9.07
Wythnos yma, mae Clwb Pêl-droed Y Fali wedi sefydlu tîm dan-11 i ferched - cam bach iawn yn nhermau sefydlu clybiau pêl-droed benywaidd ar Ynys Môn, ond cam bach pwysig.

Llynedd, roedd 'na dwy neu dair o ferched yn chwarae i'r tîm dan-9 - o dan reolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae hawl i ferched a bechgyn chwarae mewn timau cymysg hyd at lefel dan-13.

Ond eleni, 'da ni wedi cymryd y cam pwysig o sefydlu tîm yn arbennig i ferched gyda'r gobaith o ddenu mwy o ferched yr ardal i chwarae'r gêm brydferth.

Gyda Chwpan Pêl-droed i Ferched yn cael ei gynnal ar hyn o bryd y China, 'da ni'n clywed o hyd ac o hyd bod y gêm i ferched yn prysur ddatblygu, ond mae'n fy synnu i cyn lleied o ferched sydd yn chwarae'r gamp yma yng Nghymru.

Tra bo bron i 20 o dimau pêl-droed dan-9 ar Ynys Môn, dim ond un clwb sydd 'na i feched o'r oedran yma. Mae'r un peth yn wir dan-11 - mae 'na lond trol o dimau bechgyn/cymysg ond Y Fali fydd y trydydd clwb sy'n cynnig tîm i ferched ar yr ynys.

Bydd Merched Cymru yn chwarae gêm rhagbrofol Ewro 2009 yn erbyn Y Swistir ym mis Hydref a 'dwi'n gobeithio mynd a chriw o glwb Y Fali i'r Rhyl i wylio'r gêm.

Yn anffodus, mae'n anhebygol bydd 'na llawer mwy na 1,000 o gefnogwyr yna i wylio'r gêm - sefyllfa dra gwahanol i'r hyn welwyd ar Barc Goodison ar Ddydd San Steffan 1920.

Gwasgodd 53,000 o gefnogwyr i mewn i gartref Everton i wylio tîm Dick, Kerr's Ladies - prif dîm merched Lloegr gafodd ei sefydlu mewn ffatri arfau yn Preston yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond gyda Chymdeithas Pêl-droed Lloegr yn gweld bygythiad i boblogrwydd gêm y dynion, llai na blwyddyn wedi'r gêm ar Barc Goodison, gwaharddwyd timau merched rhag chwarae ar feysydd timau oedd yn aelodau o'r FA.

Ers hynny, mae pêl-droed i ferched wedi ei chael yn anodd taro yn ôl, ond 'dwi'n gobeithio byddwn ni yn Y Fali yn gallu gwneud rhan fach iawn i ail sefydlu'r gamp a phwy â wyr ... efallai bydd un o'r merched yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru - rwan byddai hynny'n gamp.

Labels: , ,

Ffarwel i'r un arbennig ...

20.9.07
Ffarwel Jose. Mae hi wedi bod yn hynod o ddifyr ac eto, yn hynod ddiflas ar yr un pryd!

Yn ôl y sylw mae'r stori yma wedi ei gael heddiw 'sa chi'n meddwl bod y dyn wedi marw ac nid wedi colli ei swydd! Prif stori ar y newyddion trwy'r dydd - hyd yn oed yn Nghymru ar ddiwrnod gêm rygbi rhyngwladol ... !

Roedd hyd yn oed Gordon Brown wedi rhyddhau datganiad yn talu teyrnged iddo ... wel, 'dwi'm yn cofio'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad pan gafodd Denis Smith y sac gan Wrecsam ...!

Beth bynnag, dyma ddyfyniad o'i gynhadledd olaf i'r wasg fel rheolwr Chelsea:
"The style of how we play is very important. But it is omelettes and eggs. No eggs - no omelettes!

It depends on the quality of the eggs. In the supermarket you have class one, two or class three eggs and some are more expensive than others and some give you better omelettes.

So when the class one eggs are in Waitrose and you cannot go there, you have a problem."

Athrylith!

Labels: , , , ,

Blimey Mr Bellamy!

15.9.07
'Does na'm llawer all unrhyw un ei ddweud am y gêm yn ebryn Slofacia, dim ond ... blimey!

Mae'n rhaid dweud nad oeddwn i'n disgwyl y fath ymateb i'r golled yn eryn Yr Almaen, ond o leiaf fe brofwyd pa mor allweddol ydi Craig Bellamy i obeithion Cymru.

Roedd y capten ar dân ac mae'n rhaid dweud fod ei lygaid am gôl yn well nag erioed.

Fe brofwyd hefyd bod angen i Gymru chwarae efo dau ymosodwr yn hytrach na gadael Freddy Eastwood wedi ei ynysu ar ei ben ei hun yn y llinell flaen, a chyda Joe Ledley yng nghanol cae ac nid fel amddiffynnwr!

Yr unig beth drwg am y noson oedd fy mod i yn gwylio'r gêm yn Y Fali yn hytrach nag yn Trnava ... 'dwi'n casàu colli tripiau pêl-droed - yn enwedig pan mae'r canlyniad yn un mor arbennig!

Mwynhewch y goliau unwaith eto yma.

Labels: , , , ,

Savage yn anghofus?

11.9.07
Mae Robbie Savage wedi bod wrthi eto. Mae o'n beirniadu John Toshack yn y Daily Mirror y tro hyn, ond bechod na fyddai o'n cael ei ffeithiau'n gywir.
"Only 25,000 turned up for a qualifier against one of the world's best teams - that tells you everything.

"Just a few years ago under Mark Hughes we beat Germany in a friendly at the Millennium Stadium in front of 75,000 - that tells you how far we've sunk."

Hmmmmm, dwi'n credu bod cof Mr Savage yn pylu. Dim ond ychydig dros 36,000 oedd yn y stadiwm y noson hwnnw fel y gallwch weld o'r fideo isod.

Labels: , , ,

Ble yn y byd

Roedd sanddef wedi gofyn i mi greu map o'r gwledydd 'dwi wedi ymweld â nhw wrth wylio pêl-droed, wel oni bai am yr UAE a Hong Kong (ar fy mis mêl), Portiwgal a'r Fatican, 'dwi wedi gweld gêm bêl-droed ym mhob un o'r gwledydd yma:

Get Your Own MapView Larger Map

Labels: , ,

Hoff flogs Blogdroed

10.9.07
'Dwi wedi treulio'r noson yn darllen gwahanol flogs felly dya fi'n penderfynu rhannu rhai o'r rhai gorau gyda chi.

Mae 'na sawl blog ar y we sydd bellach wedi esblygu i fod yn safleoedd newyddiadurol arbennig ac yn eu mysg mae Pitch Invasion, Twohundredpercent a The Global Game.

Erbyn hyn, byddai'n darllen y blogs yma cyn cymryd cipolwg ar bapurau newydd pob dydd a byddwn i'n argymell unrhyw gefnogwr pêl-droed wneud nodyn o gyfeiriadau'r blogs yma.

Mae 'na safle newydd wedi ei sefydlu wythnos yma er mwyn i gefnogwyr pêl-droed merched allu dweud ei dweud yn ystod Cwpan y Byd i ferched ddechreuodd yn China heddiw.

Llwyddodd Yr Almaen i drechu Ariannin 11-0 yn y gêm agoriadol a 'dwi'n siwr bydd gan criw Kickster digon i'w ddweud am hyn ... a llawer iawn mwy.

Ac os nad ydy hynny'n digon i chi, cofiwch alw heibio i Some People Are On The Pitch am fwy o drafod y bêl gron.

Mi na'i awgrymu mwy o flogs i chi yn ystod yr wythnos ond fe ddylai'r rhain fod yn ddigon i chi am y tro!

Labels: , ,

"Siawns am gêm?"

Labels: , , ,

"Smalwich mai ddim Jyrmans ydy nhw!"

Tymor 2007/08: Gêm #5
Dyna waeddodd un boi oedd yn eistedd tu ôl i mi yn Stadiwm y Mileniwm nos Sadwrn.

Ac mae'n deg dweud bod Cymru wedi rhoi lot gormod o barch i'r Almaenwyr gyda Bastian Schweinsteiger a Thomas Hitzlsperger yn chwarae gêm o keep-ball yng nghanol cae.

Er mai dim ond dwy gôl sgoriodd yr ymwelwyr, roedden nhw yn llwyr reoli'r gêm ac roedd rhywun y credu y bydden nhw wedi gallu sgorio ar unrhyw adeg pe byddai wir angen iddyn nhw wneud hynny.

Roedd yn siom na chafodd Jens Lehmann ei brofi o gofio'r dechrau sigledig mae golwr Arsenal wedi dioddef y tymor yma.

Mae'n syndod hefyd bod John Toshack wedi dechrau'r gêm efo system 5-4-1 ar ôl i Bellamy dynnu yn ôl yn hwyr yn y dydd, yn enwedig o gofio bod y garfan wedi ymarfer defnyddio system 3-5-2 trwy'r wythnos ... beth oedd o'i le efo defnyddio Robert Earnshaw?

Roedd Freddy Eastwood ar goll ar ben ei hun yn y llinell flaen a 'dwi'n credu bod Cymru wedi edrych yn llawer gwell unwaith bo Earnie wedi dod i'r maes fel ail ymosodwr.

Tydi hi ddim yn warth i golli 0-2 yn erbyn tîm mor dda â'r Almaen, ond mae'n siomedig tu hwnt colli heb frwydr.

Labels: , , , ,

Seland Newydd v Portiwgal ...?

9.9.07
Wedi'r cofnod yma y dydd o'r blaen, nes i benderfynu ymhelaethu ar y pwnc yn fy nyddiadur i BBC Cymru'r Byd.

Labels: , , , ,

Byron Stevenson 1956-2007

6.9.07
Mae Byron Stevenson yn enw sydd wastad wedi f'atgoffa fi o fy mhlentyndod. Sticers Panini, crysau heb noddwyr, meysydd mwdlyd, gemau am dri o'r gloch ar brynhawn dydd Sadwrn ... siwmperi fel pyst pêl-droed ;-)

Fe ddaeth yn newyddion trist bore dydd Iau fod Byron Stevenson wedi colli ei frwydr yn erbyn canser y gwddf, diwrnod yn unig cyn y byddai wedi dathlu ei benblwydd yn 51.

Er nad oedd Stevenson y chwaraewr mwyaf disglair yn y byd, roedd yn chwaraewr oedd yn rhoi 100% pob tro roedd yn camu i'r maes ac roedd yn Gymro balch iawn.

Yn ôl Brian Flynn, oedd yn gyd chwaraewr â Stevenson efo Leeds a Chymru, roedd o wrth ei fodd yn cael bod yn rhan o'r garfan rhyngwladol.

"Roedd o mor falch," meddai Flynn. "Fo oedd y cyntaf i roi'r crys coch ymlaen a'r cyntaf i gamu i'r maes pob tro roedd yn ymuno efo'r garfan."

Bechod na fyddai rhai o bêl-droedwyr heddiw efo'r un agwedd ... Mr Collins unrhyw un?

Labels: , , , ,

Beckenbauer Bwcle ...?

5.9.07
Mae Danny Collins wedi penderfynnu nad ydi o eisiau chwarae dros Gymru yn erbyn Yr Almaen a Slofacia yng ngemau rhagbrofol Ewro 2008.

Mae'r amddiffynnwr canol eisiau canolbwyntio ar gadw ei le yn nhîm Sunderland yn hytrach na chynrychioli ei wlad.

Wel, mae'n ddrwg iawn gen i, ond pwy mae'r boi o Bwcle yn feddwl ydi o? Franz Beckenbauer? Ydi o'n credu fod o ddigon da i ddewis a dethol ei gemau dros Gymru?

Y gwir plaen amdani ydi bod Collins yn flin bod chwaraewyr fel Lewin Nyatanga, Steve Evans, Joe Ledley a Gareth Bale yn cael eu dewis ac ei fod o'n gorfod eistedd ar y fainc.

Llai na pum mlynedd yn ôl roedd o'n chwarae i Fwcle yng Nghynghrair Undebol y Gogledd cyn ymuno efo Caer oedd, ar y pryd, yn y Conference.

Ond yn amlwg, rwan ei fod o'n chwarae yn yr Uwchgynghrair, mae o'n rhy dda i eistedd ar y fainc i Gymru ... wel, os mai dyna ydi ei agwedd, 'da ni'n well allan hebddo fo a'i ego.

'Dwi'n gwybod ei bod hi'n ystrydeb ond fe fyddai'r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru yn cerdded i Gaerdydd er mwyn cael cyfle i wisgo'r crys coch ... yn anffodus mae pêl-droediwyr y dyddiau yma'n credu eu bod nhw uwchlaw bod yn eilyddion - 'di o ddim yn dda i'r ddelwedd 'chi'n gweld.

Os nad ydi Collins yn fodlon bod yn rhan o garfan byddai'n well anghofio amdano.

Labels: , , , ,