Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Edrych ymlaen at y tymor ...

29.7.07
Dwi'n edrych ymlaen at y tymor pêl-droed erbyn hyn - dwi wastad gorfod disgwyl tan ddiwrnod olaf y Tour de France cyn bo fi'n gallu bod yn excited am unrhyw dymor newydd - mae hi'n edrych fel bo Brian Carey yn profi i fod yn rheolwr da a dewr wrth iddo arwyddo chwaraewyr o safon a chael gwared ar ambell i dwpsyn tew!

Dwi'n siŵr mai anomaly oedd y tymor diwethaf i'r Dreigiau ac mi fyddai’n synnu' fawr pe bai Wrecsam yn brwydro tua'r gwaelodion eto'r tymor yma. Yn wir, os na fydd Wrecsam yn cyrraedd y gemau ail gyfle mi fyddai'n siomedig tu hwnt.

Ond dwi hefyd yn edrych ymlaen at dymor pêl-droed Cynghrair Môn eleni. Mae tîm y pentre' 'cw, Y Fali, wedi penderfynu symud o Gynghrair y Sul i chwarae yng Nghynghrair Môn sy'n golygu y bydd 'na dîm o'r pentref yn chwarae yn y lîgs go iawn am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Mae'n rhyfedd i feddwl, yn enwedig o gofio maint pentref Y Fali, na chafwyd yr un tîm pêl-droed o'r pentref yng Nghynghrair Môn am bron i 100 mlynedd.

Y record gyntaf sydd i'w gael o gynghrair bêl-droed ar Ynys Môn ydi ym 1897 pan Llwyddodd Porthaethwy i ennill y lîg gyda Holyhead United, Holyhead Swifts, Llandegfan, Llangefni ac Amlwch hefyd yn cystadlu.

Ond heblaw am RAF Valley, doedd na'r un tîm wedi cario'r enw'r Fali tan i dîm Iau y Fali (Valley Juniors) ymuno efo'r gynghrair ym 1994. Efallai mai'r ffaith bod y pentref mor agos i Gaergybi sydd yn gyfrifol am y diffyg clybiau, ond mae'n beth od iawn pan 'da chi'n meddwl bod pentrefi fel Llaneilian, Aberffraw, Dwyran a Bodffordd wedi cael timau yn y gynghrair.

Ym 1985, yn ogystal ag RAF Valley roedd 'na bedwar tîm o Gaergybi - Town, United Juniors, Mountain Rangers a Mountain Rangers Reserves - yn ogystal â Bae Trearddur, Bodedern a hyd yn oed y Silver Bay Scimitars yn chwarae yn nwy adran Cynghrair Môn - wyth clwb i gyd o fewn pum milltir i'r Fali.

Ond, o leiaf y tymor yma, gallwn ni edrych ymlaen at glywed Gareth Jones yn adrodd canlyniadau tîm o'r Fali ar Radio Cymru unwaith eto ... pob lwc hogia!

Labels: , , , , ,

Gwobrau Blogio Cymru

23.7.07
Wel am fraint! Mae Blogdroed wedi ei enwebu ar gyfer Gwobrau Blogio Cymru.

Wrth gwrs, dydw i ddim am ddweud bod rhaid i chi bleidleisio, ond mi fyddai'n neis gweld pêl-droed Cymru'n ennill rwbath neu'i gilydd yn bydda!

Labels: ,

Caerfyrddin ... nil points

21.7.07
Roedd yn wythnos dda iawn yn Ewrop i glybiau Cymru - mi fyddwn i wedi dweud gwych oni bai am i Gaerfyrddin ddioddef crasfa go iawn ar Barc Waun Dew.

Llwyddodd Y Seintiau i drechu FK Ventspils o Latfia nos Fawrth ac er iddyn nhw ildio dwy gôl oddi cartref, roedd yr adroddiadau'n ffafriol iawn o berfformiad gwyr Ken McKenna.

O gofio bod Y Rhyl wedi colli 5-0 yn ebryn Skonto Riga yn yr un gystadleuaeth ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'n profi bod pêl-droed Cymru wedi gwella'n aruthrol. Y gobaith mawr yw bod Y Seintiau'n gallu adeiladu ar y fuddugoliaeth yn yr ail gymal yn Latfia brynhawn Mercher.

Cafwyd perfformiad penigamp gan Y Rhyl yng Nghwpan Uefa nos Iau wrth iddyn nhw drechu FC Haka o'r Ffindir.

Pan fues i yn Y Ffindir llynedd yn gwylio Caerfyrddin yn erbyn Tampere yn Nhlws yr Intertoto cefais i noson ar y pop efo newyddiadurwr pêl-droed o'r Ffindir sy'n dod yn wreiddiol o Sheffield.

Nes i holi Egan am obeithion Y Rhyl ac, fel y gwelwch chi ar ei flog, 'doedd Haka ddim y meddwl rhyw lawer o'r Rhyl ... gobeithio bod eu rheolwr wedi newid ei feddwl erbyn hyn!

Roedd trydedd gôl y Lillywhites yn arbennig - symudiad ddechreuodd yn eu cwrt cosbi eu hunain ac orffennodd efo Craig Garside yn troi croesiad i'r rhwyd.

Labels: , , , ,

Na ... no wê ... wir yr ...?

15.7.07
Xavi ValeroDyna oedd fy ymateb i pan glywais i enw hyfforddwr golwyr newydd Lerpwl - Xavi Valero.

Treuliodd Valero gyfnod ar Y Cae Ras ychydig yn ôl yn 2005, a 'dw i wedi mynd mor bell a'i grybwyll fel y chwaraewr gwaethaf dw i erioed wedi ei weld yn gwisgo crys Wrecsam!

Diolch i Valero cefais y fraint o fod yn dyst i un o'r digwyddiadau mwyaf prin yn y byd pêl-droed.

Mae gweld rheolwr yn cael ei hel o'r maes, eilydd yn cael cerdyn melyn tra ar y fainc neu gweld dyfarnwr yn gorfod gadael y maes gydag anaf yn bethau gymharol gyffredin. Cefais i dicio'r blwch yn yr "I-Spy book of Footballing Rarities" sydd werth o leiaf 50pt wedi i mi weld golwr yn cael ei eilyddio am ei fod o'n rybish!

Cafodd Valero ei eilyddio am hanner amser yn y gêm rhwng Chesterfield a Wrecsam yn Saltergate ym mis Ionawr 2005 a chlywsom ni air amdano ar ôl hynny ... tan rwan!

Dyma ran o'r hyn nes i sgwennu amdano mewn erthygl ar safle we Ar y Marc:
Roedd Valero'n edrych fel golwr - roedd yn gawr o ddyn ac yn sicr yn gallu bloeddio ar ei amddiffyn - ond, yn anffodus, roedd ganddo dair problem fawr:
i) nid oedd yn gallu arbed,
ii) nid oedd yn gallu dal pêl
iii) nid oedd yn gallu cicio.

Dw i'n edrych ymlaen at berfformiadau Pepe Rena'r tymor nesa yn barod!

Labels: , , , , , , ,

Hitler yn cefnogi'r Blades

10.7.07
Pwy fysa'n meddwl bod Hitler yn cefnogi Sheffield United ...

Labels: , , ,

Legia Warsaw yn Vilnius

9.7.07
Wedi trechu Llanelli ar y rheol goliau oddi cartref roedd Vetra Vilnius yn wynebu Legia Warsaw o Wlad Pwyl yn yr ail rownd o dlws yr Intertoto brynhawn Sul.
Gyda Vetra 2-0 ar y blaen, a chyda eiliadau yn unig yn weddill o'r hanner cyntaf, fe lifodd hwliganiaid Legia i'r maes gan ddinistrio'r maes a chreu hafoc ... diolch byth mai nid yn Stebonheath oedd y golygfeydd yma.

Labels: , , , , , , , ,

25 mlynedd yn ôl i ddoe ...

8.7.07
... damn ... roeddwn i wedi meddwl postio hwn ddoe, ond nes i anghofio!

Beth bynnag dwi'n teimlo'n uffernol o hen ers sylwi ei fod hi'n 25 mlynedd ers hyn:

Labels: , , , , ,

Pwy sy'n chwarae left back?

Cyn i mi gychwyn ar y rant yma, ga'i ofyn i chi os yda chi'n adnabod y chwaraewr yma ar y chwith?

Na ...?

Wel, fo oedd capten 'Lerpwl' ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Wrecsam ddoe ... dw i wedi rhoi dyfynodau o amgylch y gair Lerpwl gan bod eu tîm nhw'n llawn o enwau anghyfarwydd.

Besian Idrizaj ydi enw'r chwaraewr, bachgen 19-mlwydd-oed o Awstria, a dyma pam dw i'n casau gemau pêl-droed cyfeillgar ar ddechrau'r tymor. Dyma oedd tîm Lerpwl:
Liverpool: Martin, Finnan, Hobbs, Paletta, Arbeloa, Pennant, Sissoko, Peltier, Hammill, Idrizaj (capt), Brouwer. Subs: Roque, Threlfall, Lindfield, Spearing, Nemeth, El Zhar, Simon, Hansen, Huth, Darby, Flynn.

Dim ond tri o'r enwau yna sydd yn gyfarwydd i mi ond nid dyna ydi gwraidd fy nghwyn ... roedd 'na dorf o 11,120 ar Y Cae Ras i wylio'r gêm. Heb law am y gêm olaf o'r tymor yn erbyn Boston, lle roedd dyfodol y clwb yn y fantol, dyna ydi'r dorf uchaf sydd wedi bod i'r Cae ras ers y gêm gyfeillgar efo Lerpwl y llynedd.

Lle mae'r pobl 'ma yn ystod y tymor?

Labels: , , , ,

Norwy, Y Ffindir a Latfia ... eto!

1.7.07

Unwaith eto mae'n debyg y bydd pob un o dimau Cymru allan o gwpanau Ewrop cyn i'r tymor hyd yn oedd ddechrau.

Mae'r Seintiau wedi dod allan o'r het i wynebu Ventspils yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ac er mai nid pencampwyr Latfia oedd y prif ddetholion, mi fydd yn goblyn o her i'r Seintiau gan fod y tîm o'r Baltics eisoes wedi chwarae 15 o gemau yn eu cynghrair.

Byddai'r tîm o Lansantffraid wedi gallu wynebu clybiau oedd heb ddechrau eu tymor pêl-droed - clybiau fel Pobeda o Macedonia neu FK Sarajevo o Bosnia Herzegovina, ond dydy'r un peth ddim yn wir i'n clybiau ni yng Nghwpan Uefa.

Ers i Uefa benderfynnu rhannu'r rown rhagbrofol gyntaf o Gwpan Uefa i ranbarthau gogleddol, canol/dwyrain a deheuol mae'n anorfod bod clybiau Cymru, sydd yn rhanbarth y gogledd, yn gorfod herio timau o Sgandinafia a gwledydd y Baltic sydd hanner ffordd trwy eu tymor.

Ymysg y detholion yn y rhanbarthau eraill oedd FK Vojvodina a FK Bežanija o Serbia, Maccabi Tel Aviv o Israel ac Anorthosis Famagusta ac Omonia o Gyprus - clybiau sydd, fel Y Rhyl a Chaerfyrddin, heb ddechrau eu tymhorau pêl-droed.

Dw i ddim y dweud bod herio timau o Wlad Pwyl, Serbia neu Romania yn mynd i fod yn haws na herio timau o Sweden, Y Ffindir neu Latfia, ond o leiaf byddai'r clybiau yn yr un sefyllfa o fod â diffyg ffitrwydd gemau.

Tra bod Uefa'n gwneud eu gorau glas i geisio osgoi costau teithio anferth i dimau yn y rownd gyntaf, mae clybiau Cymru'n mynd i fod o dan anfantais anferth yng nghwpanau Ewrop ... oni bai eu bod nhw'n dilyn esiampl Iwerddon a symud y tymor i'r haf ... ond cwestiw arall ydy hynny!

Labels: , , , , , , , , , , ,