Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Glantraeth 'B' 0-2 Y Fali

25.4.07
Roedd yn fore gwlyb ym Mordogan ond 'doedd dim ots gan chwaraewyr tîm dan-9 Y Fali fod y glaw yn pistillo a bod y cae'n fwdlud am y tro cyntaf ers wythnosau ... fe lwyddodd yr hogia i sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf y tymor hwn.

Mae ymroddiad yr hogia wedi bod yn arbennig - er colli'r gêm agoriadol y tymor yma 27-0, mae nhw wedi parhau i ddod i'r sesiynau ymarfer ac mae'r canlyniadau wedi gwella wrth i'r tymor fynd yn ei blaen.

O glywed ymateb y rhieni pan sgoriom ni ein gôl cyntaf erioed yn erbyn Llangefni ym mis Chwefror, byddai rhywun yn meddwl i ni ennill Cwpan y Byd yn hytrach na'i gwneud hi'n 1-7!

Roeddwn i yn gweithio yn Milton Keynes v Wrecsam y diwrnod llwyddodd y tîm i sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Bro Benllech, ac roedd fy ffôn yn grasboeth efo negeseuon testyn gan y rhieni!

Ond 'doedd dim o hyn yn cymharu efo'r ymateb pan sgorion ni yr ail gôl ym Modorgan ddydd Sul ...

Labels: , , ,

Polska - Ukraina

19.4.07
Benidgedig! Daeth y newyddion o bwyllgor gweithredol Uefa mai Gwlad Pwyl a'r Wcràin fydd yn cael y fraint o gynnal Ewro 2012.

Yr Eidal oedd y ffefrynnau clir, ond efallai nad yw'r calyniad yn gymaint o syndod pan mae dyn yn cofio mai pleidleisau gwledydd y dwyrain oedd yn bennaf gyfrifol am i Michel Platini gael ei ethol yn lywydd Uefa yn gynharach eleni.

Mae'n hen bryd bod un o prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed yn ymweld â chyn wledydd y Warsaw Pact - mae'n 31 o flynyddoedd ers i Yugoslafia gynnal Pencampwriaeth Ewrop - ond y peth gorau am y penderfyniad oedd y ffaith iddo fod yn gythral o slap yng ngwyneb Yr Eidlawyr hefyd!

'Dwi wedi ymweld â'r ddwy wlad yn y blynyddoedd diweddar er mwyn gwylio Cymru a thra bo'r gwledydd yma'n hynod ddifyr - yn enwedig dinas Kiev - mae 'na broblrmau fydd yn wynebu'r pencampwriaeth.

Yn un peth, mae'r gwledydd y croesi dwy ardal amser gwahanol ac mae taith ar dren o Wroclaw, yng ngorllewin Gwlad Pwyl, i Donetsk, yn nwyrain Wcràin, yn cymryd bron i 34 awr.

Hefyd, bydd angen gwella lot fawr ar nifer o'r stadiymau. Tra bo'r Olimpiyski yn Kiev, fydd yn cynnal y rownd derfynol, bron â chyrraedd y safon, mae stadiwm 50,000 sedd newydd wrthi'n cael ei hadeiladu yn Donetsk. Mae gwaith wedi dechrau ar godi dwy stadiwm newydd yn Chorzow and Dnipropetrovsk, ond mae angen stadiwm newydd yn ninas Gdansk.

A thra bo Warsaw yn cyrraedd safon Uefa am y nifer o westai sydd ar gael yn y ddinas, mae angen lot fawr o waith i ddod â'r stadiwm cenedlaethol yno i'r safon sydd ei angen cyn iddynt allu cynnal y seremoni agoriadol yno.

Ond tra bo angen lot o waith, mae digon o amser gan y gwledydd i'w gwblhau ac o leiaf mae un o addewidion Michel Platini pan gafodd ei ethol eisoes wedi dod yn wir - yr addewid i feddwl am deulu cyfan Uefa ac nid y 'gwledydd mawr' yn unig.

Labels: , , , , ,

Mae wythnos yn amser hir ... ym mhêl-droed

15.4.07
Anghofiwch y nodyn isod ... mae Wrecsam am aros i fyny wedi'r cwbwl! Wedi chwalu un o geffylau blaen yr adran ar eu tomen eu hunain ac wedi i Boston golli yn Henffordd, mae Wrecsam wedi esgyn allan o'r ddau safle isaf yn y gynghrair.



Roedd pob un wan jac o'r chwaraewyr yn arbennig ddoe. Roedd yr awch i ennill ac i wneud yn iawn am ganlyniadau siomedig y Pasg yn amlwg ac mae'n rhaid canmol pob un o'r 14 chwaraewr ddaeth i'r maes yn Sincil Bank.

Wedi wythnos o ofidio, gallwn edrych ymlaen at wythnos o obeithio!

Labels: , , , ,

Siom, siom, siom ...

11.4.07
Tydw i ddim yn siwr iawn be 'dwi am sgwennu heddiw. Mae wedi cymryd bron i 48 awr cyn fy mod i'n gallu wynebu darllen negesfwrdd Red Passion neu darllen y Daily Post.
Roeddwn yn hynod, hynod siomedig wedi i'r Dreigiau golli ddydd Sadwrn, a hynny gan bod y perfformiad yn yr ail haner cymaint, cymaint gwell na'r hyn 'da ni wedi ei gael yn ddiweddar - na'i ddim sôn dim am y perfformiad trychinebus yn Macclesfield.

Roedd hyd yn oed rheolwr Notts County yn ymddiheuro am y fuddugoliaeth wedi'r gêm - sgoriodd County gyda'u hail ymosodiad o'r ail haner- a hynny wedi 87 munud - wedi i Jeff Whitley, Chris Llewellyn a Lee McEvilly daro'r trawst/postyn.

'Dwi wedi dechrau meddwl y gwaethaf ac ar negesfwrdd One Touch Football 'dwi wedi bod yn holi ymateb cefnogwyr Rhydychen i fywyd yn y Conference. Esgusodwch yr iaith fain, ond dyma ymateb un:
Basically, it might be something different to experience, but I wouldn't want it to last more than a season. Trouble is, with only one automatic promotion place it's the hardest league to get out of (at the top end), so if you have the choice, I would opt to avoid relegation.

Ia ... ond petai mor hawdd â hynny ...

Labels: , , ,

Be ddigwyddodd i Scarborough ...?

4.4.07
Mae 'na erthygl wych gan David Conn yn y Guardian heddiw ac fe ddylai pob ffan Arsenal, Lerpwl, Newcastle a hyd yn oed West Ham ei ddarllen.

'Dwi'n cael llond bol o deithio adref o gêm ar nos Sadwrn gan gwrando ar gefnogwyr y clybiau mawr 'ma'n cwyno ar raglen 606 am y 'drychineb' diweddaraf yn Anfield, yr Emirates neu Old Trafford ... coeliwch chi fi gefnogwyr Arsenal, tydi'r pedwerydd safle yn yr Uwchgynghrair, 16 olaf Cwpan Ewrop a chyrraedd rownd derfynol y Cwpan Carling ddim yn drychineb.

Ychydig dros dair blynedd yn ôl roedd Scarborough yn herio Chelsea yng Nghwpan FA Lloegr, ond erbyn heddiw mae nhw'n isaf ond un yn y Conference North wedi iddynt cael eu diarddel o'r Conference oherwydd problemau ariannol.

Y tymor yma, mae'r clwb wedi colli 10 pwynt - fel ddigwyddodd i Wrecsam - am iddynt fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac os na fydd pethau'n gwella ar y maes yn yr wythnosau nesaf, mae'r clwb yn debygol o fod yng Nghynghrair Unibond y tymor nesaf.

Wrth gwrs, roedd 'na adeg pan fo Scarborough, a'u rheolwr Neil Warnock yn arwyr i glybiau o tu allan i'r gynghrair - nhw oedd y clwb cyntaf i sicrhau dyrchafiad o'r Conference i'r gynghrair yn ôl ym 1987, ond gyda mwy a mwy o'r arian yn cael ei rannu rhwng llai a llai o glybiau, mae straeon fel hyn yn dod yn fwy fwy cyffredin.

Labels: , , , , ,