Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Be ddiawl sy'n digwydd ...?

29.3.07
Be ddiawl sy'n mynd ymlaen yng Ngogledd Iwerddon? Diolch i goliau David Healey, mae Norn Iron ar frig eu grwp ac wedi sicrhau buddugoliaethau yn erbyn Sbaen a Sweden yn ogystal â gêm ddi sgôr gwerthfawr yn erbyn Denmarc yn Copenhagen.

Ym mis Mawrth 2004 roedd Cymru yn rhif 67 ar restr detholion Fifa tra bo Gogledd Iwerddon yn rhif 124 - tair blynedd yn ddiweddarach mae Cymru, ar ôl esgyn i rif 56, wedi disgyn yn ôl i rif 77 tra bo gwyr Lawrie Sanchez wedi codi i rif 47.

I unrhyw un sydd yn credu bod camp Cymru o fod ar frig eu grwp yn ystod gemau rhagbrofol Ewro 2004 yn gyfatebol i'r hyn mae Gogledd Iwerddon wedi ei gyflawni, cofiwch mai dwy fuddugoliaeth yn erbyn Azerbaijan oedd yn gyfrfol am chwech o'n 12 pwynt ni bryd hynny ... o ran Gogledd Iwerddon, wedi trechu Sbaen a Sweden mae Liechtenstein a Latfia eto i ddod.

Labels: , ,

Clueless 1-0 Useless

Dyna oedd y pennawd yn un o bapurau newydd Iwerddon fore Sul, ac oni bai bo gen i'r blog 'ma i'w 'sgwennu, 'dwi'n credu byddwn i'n ei gadael hi'n y fan yna!

Y peth mwyaf siomedig am y gêm a'r canlyniad oedd bod Iwerddon yna i'w curo. 'Dwi wedi teithio milltiroedd ar filltiroedd yn dilyn Cymru ac wedi gweld ni'n colli - ac yn colli'n drwm - yn erbyn timau oedd yn llawer gwell 'na ni. Ond y gwahanaiaeth mawr yn Nulyn oedd bod Iwerddon yr un mor siomedig â ni ...
Mae eu rheolwr wedi bod o dan y lach gan y wasg a chefnogwyr Iwerddon ac wedi crafu buddugoliaeth yn erbyn San Marino yn eu gêm ddiwethaf, roedd yr hyder ymysg y chwaraewyr yn isel iawn, ond nhw, ac nid ni, oedd yn chwarae gydag awch a chyda'r hyder.

Roeddwn i hefyd ychydig bach yn siomedig â Croke Park. Wedi'r holl heip yn yr wythnosau oedd yn arwain at y gêm am y "stadiwm odidog" 'ma yng ngogledd Dulyn, roeddwn i'n disgwyl pethau mawr.
Ond roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn ofnadwy - gan nad oedd to uwchben cefnogwyr Cymru, roedd yr holl ganu a bloeddio yn diflannu, ac heb gefnogwyr oddi cartref yn creu swn, roedd y Gwyddelod eu hunain yn ddistaw hefyd. Yn wir, roedd 'na blymin' Mexican Wave ar ôl awr o'r chwarae ... mae hynny'n dweud y cwbwl!

Labels: , , , , ,

4,500 i Ddulyn ...

21.3.07
... felly lle mae pawb wedi bod?
Ia, 'dwi'n gwybod y dylwn i fod yn falch bod cymaint o gefnogwyr yn teithio draw i Ddulyn ar gyfer y gêm rhagbrofol Ewro 2008 ... ond mae dyn yn gorfod gofyn pam fo cyn lleied yn teithio i gefnogi'r tîm fel arfer?

Dim ond ychydig dros 200 oedd yn Belfast fis diwethaf ar gyfer taith yr un mor fer i ynys Iwerddon ... cyn i chi ddweud dim byd, 'dwi'n gwybod mai gêm gyfeillgar di-nod oedd honno ac ei bod wedi ei chwarae ar nos Fawrth ac nid ar benwythnos ... ond mae clywed bod 4,300 ychwanegol yn teithio ar gyfer y gêm yn Croke Park yn syfrdanol!

Wrth gwrs, nid ffenomenon newydd mo hyn - roedd dros 4,000 ym Milan ym mis Medi 2003, a hynny llai na mis wedi i ryw 300 o gefnogwyr deithio i Belgrade ar gyfer gêm yr un mor bwysig ac mewn dinas llawer difyrach.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef mai wrth teithio i wylio 'gêm fawr' y dechreuais i ddilyn y tîm cenedlaethol yn rheolaidd - roeddwn yn un o'r miloedd aeth draw i Eindhoven ar gyfer y grasfa 7-1 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn ôl ym 1996, ond ers hynny rwyf wedi cael lot mwy o hwyl mewn dinasoedd fel Minsk, Baku a Kiev na chefais mewn dinasoedd fel Milan a Manceinion!

Os ydych chi'n un o'r rhai sy'n profi'r wefr am y tro cyntaf yn Nulyn, neu'n mynd dramor am y tro cyntaf ers Milan, yna gwnewch yn siwr, da chi, eich bod yn dilyn y tîm i ddinas ddiarffordd hefyd er mwyn profi taith llawer difyrach!

Labels: , ,

Oes 'na rai Cymreig ...?

14.3.07
Yn dilyn campau Matt Derbyshire i Blackburn, roedd rhywun wedi gofyn i'r Guardian Knowledge geisio darganfod chwaraewyr sydd efo enwau siroedd.

Yn ogystal ag Andy Sussex, Kevin Kent a Lee Norfolk cafwyd enghreifftiau Gwyddelig; Paul Mayo, Shaun Derry ac Alan Cork, yn ogystal ac ambell i enghraifft Albanaidd; Terry Angus, ond nid oedd yr un Cymreig ... felly allwch chi feddwl am rai?

Labels: , , , ,

Wedi bod yn dathlu gormod ...

6.3.07
... i flogio!
O'r diwedd, mae Wrecsam wedi llwyddo i sicrhau triphwynt gyda Brian Carey wrth y llyw wedi i'r Dreigiau drechu Barnet yn Underhill ddydd Sadwrn.
Roedd dwy gôl gan Lee McEvilly yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau golygfeydd gwallgof ar y chwiban olaf:


Yn anffodus, doeddwn i ddim yn Llundain ar gyfer y gêm gan nad oedd unrhyw dren yn gadael Bangor ar ôl naw o'r gloch y bore fyddai'n cyrraedd Barnet cy hanner awr wedi pedwar yn y prynhawn. Roeddwn i'n dathlu wrth wrando ar Dylan Griffiths a Malcolm Allen ar Radio Cymru, ac mae'n rhaid dweud mod i wedi chwerthi tan roeddwn i'n sâl wedi i Malcolm fynnu na ddylai McEvilly fod yn chwarae dros Wrecam ond yn chwarae dros y 'Dog and Duck'!!

Beth bynnag, gan nad oeddwn yn gallu mynd i Barnet, aeth Ifan a minnau i'r New Oval yng Nghaergybi er mwyn gwylio Hotspur Caergybi yn rbyn Y Trallwng yng Nghpan Cymru.
Roedd torf o 709 yno ar gyfer y gêm, prawf, os bu angen, fod Caergybi â'r gefnogaeth a'r adnoddau i gynnal tîm yn Uwchgynghrair Cymru ... yn anffodus, nid yw'r chwaraewyr yn barod eto wrth i'r Trallwng ennill 5-1.

Gallwch weld lluniau a chlywed hanes y gêm ar safle we Ar y Marc.

Labels: , , , , , , , ,